Roedd nifer o aelodau staff y Coleg ymhlith yr enillwyr yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Enwyd Dr Sally Anstey o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn Diwtor Personol y Flwyddyn. Dywedodd enwebwr Sally: “Mae Sally wedi dangos cymaint o garedigrwydd, cefnogaeth ac anogaeth – ni allwn fod wedi gofyn am diwtor personol gwell.”

Enillwyd y Wobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, sy’n cydnabod aelod o staff sy’n gwneud mwy na’r disgwyl, gan Dr Stephen Riley o’r Ysgol Feddygaeth.

Roedd y myfyrwyr buddugol yn cynnwys Ian Nurse o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a enwyd yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr y Flwyddyn ar gyfer y Coleg, a James Galloway o Ysgol y Biowyddorau a enillodd y Rhestr Anrhydedd. Mae’r Rhestr Anrhydedd yn agored i bob myfyriwr sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol yn ystod ei amser yn y Brifysgol. Cydnabuwyd James am ei ymrwymiad, ei frwdfrydedd a’i gymhelliad drwy gydol ei gyfnod yma.