Mae Carolyn Donoghue, Cofrestrydd y Coleg, yn rhoi diweddariad ar sut mae’r Coleg yn gweithio i ddatblygu ei seilwaith Gwasanaethau Proffesiynol.
Cefndir
Ers i’r Coleg gael ei sefydlu yn 2012, rydym wedi bod yn gweithio i greu seilwaith addas ar gyfer darparu gwasanaethau proffesiynol yn y Coleg, sy’n cefnogi’r gweithgarwch academaidd yn briodol. Rydym ni’n mabwysiadu model partneriaeth fusnes ar draws y Brifysgol, ac rwyf bellach yn gweithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol canolog a’r Colegau eraill i ddiffinio ffurf hynny ar gyfer pob gwasanaeth ar lefel Coleg ac Ysgol.
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd yw’r mwyaf o’r tri Choleg gydag 8,400 o fyfyrwyr wedi’u cofrestru a 1,900 o staff wedi’u rhannu ar draws nifer o safleoedd. Yn ogystal â hyn, ceir cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, y GIG, byrddau iechyd lleol a rhanddeiliaid allanol eraill mewn gofal iechyd. O ystyried hyn, mae’r Coleg yn canolbwyntio ar gynllunio a chefnogi strwythur sy’n bodloni anghenion ei randdeiliaid ar yr un pryd â bod yn hyblyg ac ymatebol i’r sectorau addysg uwch a gofal iechyd sy’n newid yn gyflym.
Mae’r Coleg wedi mabwysiadu’r model Partner Busnes, sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y Brifysgol.
Mae’r model Partner Busnes wedi’i seilio ar ddatblygu dealltwriaeth dda o anghenion ar lefel Coleg ac Ysgol yn ogystal â gofynion, polisïau a phrosesau canolog y Brifysgol. Yn gyffredinol, disgwyliwn:
- Benodi partneriaid busnes neu gyfwerth;
- Pennu cwmpas y gwasanaeth mewn ymgynghoriad â staff yr Ysgol, y Coleg a’r Gwasanaethau Proffesiynol;
- Cytuno ar ble y dylai prosesau penodol gael eu darparu;
- Cynllunio strwythur i gefnogi hyn;
- Adolygu’r strwythurau presennol a gwneud unrhyw newidiadau priodol
Egwyddorion
- Datblygu cysondeb lle y bo’n briodol
- Sefydlu systemau a phrosesau cydnerth a chynaliadwy
- Datblygu llwybrau gyrfaol a disgwyliadau rôl eglur i gefnogi datblygiad gyrfaol staff gwasanaethau proffesiynol
- Ymsefydlu diwylliant o wasanaethau rhagorol a gwelliant parhaus yn y Coleg, gan adeiladu ar y meysydd niferus lle mae hyn eisoes yn bodoli.
Cynnydd hyd yma
Adnoddau Dynol:
Yn anffodus, gadawodd ein Partner Busnes AD, Kim Newcombe, yn gynnar ym mis Mai. Mae’n bleser gennyf roi gwybod ein bod wedi recriwtio Samantha Clark i’r swydd a bydd hi’n ymuno â ni ar 9 Mehefin. Rydym wedi cytuno ar strwythur ar gyfer AD a byddwn yn parhau i ddatblygu hyn wedi i Sam ddechrau yn ei swydd.
Cyllid:
Richard Thomas yw ein Partner Busnes Cyllid ac rydym wedi penodi Jeff White i swydd Cyfrifydd Rheolaeth y Coleg a bydd yn datblygu’r strwythur ar gyfer y Coleg.
Gwasanaethau Gwybodaeth:
Bydd Clare Davies yn ymuno â ni fel Partner Busnes TG ym mis Gorffennaf. Mae ymarfer rhychwantu a darganfod ar fin dechrau i edrych ar ein darpariaeth TG ar hyn o bryd (yn cwmpasu staff, prosesau a thechnoleg) cyn dylunio model gwasanaeth priodol ar gyfer darparu TG i’r Coleg.
Cymorth Ymchwil:
Mae tri Chofrestrydd y Coleg yn gweithio gyda RIES (Ymchwil, Arloesedd a Menter) i ddatblygu trefniant Partner Busnes priodol. Mae’n bosibl na fydd hwn yn yr un fformat â Chyllid neu AD, gan fod y cylch gorchwyl eang yn ei gwneud yn annhebygol y gallai un unigolyn ymdrin â phob maes.
Cynllunio:
Mae’r Adran Gynllunio wedi penodi Uwch Swyddog Cynllunio fel uwch bwynt cyswllt ar gyfer Coleg penodol. Ar gyfer y Coleg hwn, Lizanne Duckworth sydd wrth y llyw. Yn ogystal, mae’r tîm Gwybodaeth a Dadansoddi Cynllunio yn yr Adran Gynllunio yn gweithio’n agos â’r Colegau. Bydd y tri Choleg yn gweithio gyda’i gilydd gyda’r Adran Gynllunio a’r ysgolion i sefydlu’r trefniadau gweithio mwyaf priodol.
Cyfathrebu a Marchnata:
Rydym wedi penodi Partner Busnes mewn Cyfathrebu. Bydd Greg England yn dechrau’r swydd hon yn hwyr ym mis Awst / ar ddechrau mis Medi. Mae’r Brifysgol hefyd wedi penodi Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata, Claire Sanders, a fydd yn dechrau ym mis Mehefin. Pan fydd y ddau wedi cychwyn ar eu rolau, bydd modd adolygu’r trefniadau a strwythurau gweithio a gwneud y newidiadau priodol.
Ystadau:
Mae Dev Biddlecome, y Cyfarwyddwr Ystadau, wrthi’n adolygu’r strwythur presennol a bydd yn cyfarfod â thri Chofrestrydd y Coleg i ystyried sut y gellir gweithredu egwyddorion y model partner busnes yn effeithiol. Yn ogystal, mae’r Coleg wedi sefydlu Bwrdd Ystadau sy’n adrodd i Fwrdd y Coleg.
Gwasanaethau Llyfrgell:
Mae’r strwythur sefydliadol presennol yn y Gwasanaethau Llyfrgell yn gweithio’n dda iawn yn ôl pob golwg o ran strwythurau’r Colegau a’r Ysgolion, felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau i adolygu hwn ar hyn o bryd.
Gwasanaethau Myfyrwyr:
Mae trafodaethau cychwynnol wedi cael eu cynnal rhwng tri Chofrestrydd y Coleg a Chris Turner, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr a Llywodraethu, ynghylch gweithredu’r egwyddorion partner busnes a chaiff hyn ei ddatblygu ymhellach cyn gynted â phosibl.
Penodiadau diweddar eraill:
Mae Gabrielle Couch wedi ymuno â thîm y Coleg ar secondiad hyd at 31 Gorffennaf 2014, a bydd yn canolbwyntio ar brosiectau cyllid yn bennaf.
Penodwyd Joanne Parry yn Rheolwr Swyddfa’r Coleg ar 1 Ebrill 2014, ac ymunodd Carina Hibbs, Swyddog Llywodraethu – y Ddeddf Meinweoedd Dynol, â’r Coleg ym mis Ebrill. Roedd Carina’n gweithio yn yr uned Llywodraethu a Chydymffurfio, GOVRN, yn flaenorol.
Datblygu strwythurau newydd a phenodi iddynt
Hoffwn eich sicrhau y bydd strwythurau’n cael eu datblygu dros amser mewn ymgynghoriad â staff Ysgolion yn ogystal â gwasanaethau proffesiynol canolog. Bydd unrhyw newidiadau i rolau’n cael eu rheoli o fewn prosesau Adnoddau Dynol er mwyn sicrhau tegwch.
Mae’r tri Choleg yn y Brifysgol yn gweithio yn unol â’r un egwyddorion ac yn cysylltu’n agos ynglŷn â newidiadau er mwyn sicrhau bod cysondeb yn cael ei gynnal lle bynnag y bo’n bosibl ac yn briodol. Ceir blaenoriaethau a chymhlethdodau gwahanol yn y Colegau, wrth reswm, felly gallai cyflymder a natur newid amrywio.
Gobeithiaf fod hyn yn egluro sefyllfa bresennol y Coleg, ond mae croeso i chi gysylltu â mi gydag unrhyw ymholiadau.