Mae’r Athro Mike Owen wedi cael ei urddo’n Farchog yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines am wasanaeth i Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth. Mae’r Athro Owen yn un o’r arbenigwyr sydd ar flaen y gad ym maes geneteg anhwylderau seiciatrig a niwro-ddirywiol.  http://www.cardiff.ac.uk/news/articles/knighthood-for-genetics-pioneer-13079.html

Mae Dr Joy Margaret Woodhouse o’r Ysgol Optometreg wedi cael OBE am wasanaethau i Bobl ag Anableddau. Ers dros 20 mlynedd mae Dr Woodhouse wedi bod yn rhedeg astudiaeth am ddatblygiad gweledol mewn plant a phobl ifanc sydd â syndrown Down. http://www.cardiff.ac.uk/news/articles/downs-eye-care-pioneer-receives-obe-13084.html

Mae’r Athro Nick Pidgeon o’r Ysgol Seicoleg wedi cael MBE yn anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei wasanaeth yn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a’i wasanaeth i’r polisi diogelwch ynni. http://www.cardiff.ac.uk/news/articles/climate-change-professor-honoured-with-mbe-13082.html