Symud Adnoddau’r Cyfryngau i’r Coleg

Hoffem groesawu staff Prifysgol Caerdydd yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau a fydd yn symud i Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd o 1 Awst 2014.

Mae Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn darparu gwasanaeth darluniau meddygol, sy’n cynnwys cynhyrchu ffotograffau a fideos, dylunio graffeg a darluniau i gefnogi gofal cleifion, addysgu ac ymchwil, a gweithgareddau corfforaethol. Bu gwaith Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn canolbwyntio’n bennaf ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r Ysgolion o fewn Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd.

Mae’r gwaith o ddatblygu strwythur y Coleg o fewn y Brifysgol wedi ysgogi adolygiad o ble mae’r gwasanaethau’n cael eu rheoli a’u darparu orau. Mewn trafodaethau â staff yn Adnoddau’r Cyfryngau a’r Gwasanaethau Llyfrgell, cydnabuwyd y byddai cyfuno staff a gwasanaethau Adnoddau’r Cyfryngau â’r staff a’r Ysgolion sy’n eu defnyddio fwyaf yn fuddiol ac yn eu galluogi i fynd ati i ddatblygu eu cysylltiadau cryf gyda’r GIG yn unol â’r Coleg. Cytunwyd y bydd y cyfrifoldeb o reoli staff Prifysgol Caerdydd yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn symud i Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd o 1 Awst 2014.

Mae hyn yn cael ei wneud fel mân newid ac yn unol â pholisi Rheoli Newid y Brifysgol. Ni fydd unrhyw newid i’r swyddi parhaol a bydd yr holl delerau ac amodau presennol yn aros yr un fath.

Roedd Carolyn Donoghue – Cofrestrydd y Coleg a Kathryn Davies – Rheolwr Adnoddau Dynol y Coleg, wedi cwrdd â staff o Adnoddau’r Cyfryngau ar 16 Gorffennaf er mwyn cyflwyno’r strwythur staff newydd a rhoi cyfle iddynt ofyn unrhyw gwestiwn y gall fod ganddynt.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiad ynglŷn â’r mater hwn at Reolwr Adnoddau Dynol y Coleg, Kathryn Davies ar daviesk20@Cardiff.acuk neu dros y ffôn ar 2087 98143.

 

Symud y Gwasanaethau Biolegol ar y Cyd i’r Coleg

Ym mis Medi y llynedd, cymerodd yr Athro Dylan Jones yr awenau gan Dr Chris Turner fel Deiliad Trwydded y Sefydliad (Deddf Anifeiliaid [Gweithdrefnau Gwyddonol] 1986). O ganlyniad i hyn, cafodd rheolaeth o’r Gwasanaethau Biolegol ar y Cyd ei throsglwyddo i Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Sefydlwyd Bwrdd Prosiect i adolygu’r strwythur rheoli presennol ar gyfer y Gwasanaethau Biolegol ar y Cyd – gwnaed hynny er mwyn uno gweithgareddau’r holl staff sy’n ymwneud â’r Uned Gwasanaethau Biolegol ar y Cyd ac Unedau Trawsenynnol Prifysgol Caerdydd lle bo’n briodol o dan un strwythur rheoli. Mae hyn yn cael ei wneud fel mân newid ac yn unol â pholisi Rheoli Newid y Brifysgol. Ni fydd unrhyw newid i’r swyddi parhaol a bydd yr holl delerau ac amodau presennol yn aros yr un fath.

Trefnwyd cyfarfod ar 24 Gorffennaf pan fydd Carolyn Donoghue – Cofrestrydd y Coleg a Kathryn Davies – Rheolwr Adnoddau Dynol y Coleg, yn cwrdd â staff o gampysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan er mwyn cyflwyno’r strwythur staff newydd a rhoi cyfle iddynt ofyn unrhyw gwestiwn y gall fod ganddynt.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiad ynglŷn â’r mater hwn at Reolwr Adnoddau Dynol y Coleg, Kathryn Davies ar daviesk20@Cardiff.acuk neu dros y ffôn ar 2087 98143.