Mae Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw, wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd yn ei hymrwymiad cyntaf fel Noddwr Arthritis Research UK.

Cafodd Duges Cernyw gyfarfod ag ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghyfleuster Ymchwil Clinigol y Brifysgol i ddysgu mwy am yr ymchwil a gyllidir gan Arthritis Research UK. Y cyfleuster yw canolfan ymchwil gyntaf Cymru sy’n ymwneud yn gyfan â datblygu cyffuriau a thriniaethau newydd i leddfu poen a dioddefaint pobl sy’n byw gydag arthritis.

http://www.cardiff.ac.uk/news/articles/royal-visit-13161.html?utm_source=cu-home&utm_medium=News_Feed&utm_campaign=news

http://www.arthritisresearchuk.org/news/press-releases/2014/july/her-royal-highness-duchess-of-cornwall-meets-researchers-in-cardiff.aspx

Am fwy o wybodaeth am Arthritis Research UK, ewch i http://www.arthritisresearchuk.org/