Mae sawl aelod o’r staff addysgu yn y Thema Dysgu ac Ysgoloriaeth yn yr Ysgol Ddeintyddiaeth wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol yn ddiweddar gyda Gwobr am Ragoriaeth mewn Addysg Ddeintyddol y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop.

Mae’r Wobr hon yn unigryw am mai dyma un o’r ychydig gyfleoedd am gydnabyddiaeth ryngwladol o ragoriaeth ym maes addysg ddeintyddol. Mewn blwyddyn nodweddiadol, dyfernir cyn lleied â 3 gwobr o’r fath i “Addysgwyr Aeddfed” (>8 mlynedd o brofiad mewn addysg ddeintyddol), i ymgeiswyr ledled Ewrop. Ers ei sefydlu yn 2005, mae chwe aelod o staff Caerdydd wedi ennill y Wobr hon. Mae nifer y staff o Ysgol Ddeintyddol Caerdydd sydd wedi ennill y wobr hon yn gydnabyddiaeth allanol bwerus o ddiwylliant ac ethos y rhagoriaeth mewn addysg wrth gyflwyno rhaglenni addysgu’r Ysgol.

Yn anffodus, bu farw un o’r rhai cyntaf yng Nghaerdydd i dderbyn y wobr, Dr Mark Brennan (2005) yn 2010. Fe fyddai Mark yn adnabyddus i lawer o raddedigion Caerdydd fel aelod poblogaidd ac ymroddedig o’r staff addysgu – mae colled ar ei ôl ymhlith pawb a oedd yn ei adnabod.

mark brennan (ADEE)_450px

Llun: Dr Mark Brennan

Llun o Enillwyr y Gwobrau: Chwith-Dde: Dr Shelagh Thompson (2012), Dr Chris Lynch (2014), Yr Athro Alan Gilmour (2010), Yr Athro Richard Oliver (2005), Mrs Sheila Oliver (2011).