Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi ymchwiliad byr i’r trefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, i ddilyn ei adroddiad blaenorol yn 2009 ar y mater hwn.

Ers i’r Pwyllgor archwilio’r mater hwn ddiwethaf, bu ymwahaniad cynyddol rhwng systemau gofal iechyd Cymru a Lloegr, sydd â goblygiadau i gleifion mewn ardaloedd ar y ffin sy’n dibynnu ar gyfleusterau gofal iechyd ar yr ochr arall i’r ffin.

Ym mis Ebrill 2013, cytunodd GIG Cymru a Bwrdd Comisiynu’r GIG yn Lloegr ar Brotocol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Trawsffiniol i sicrhau rhyngweithiad llyfn ac effeithlon rhwng y GIG ar y naill ochr i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, ond nid yw’n glir pa mor dda y bu’n gweithredu hyd yma.

Mae Comisiwn Silk hefyd wedi cynnig argymhellion i wella’r cyflenwad iechyd trawsffiniol, ac mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi ei ymateb.

Mae’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig ar rai, neu bob un, o’r materion canlynol:

  • Effaith yr ymwahaniad polisi cynyddol yn systemau iechyd Cymru a Lloegr ar wasanaethau gofal iechyd trawsffiniol, ac ar ymarferwyr meddygol a chleifion mewn rhanbarthau ar y ffin yng Nghymru a Lloegr;
  • Profiad cleifion yng Nghymru a Lloegr sy’n dibynnu ar ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd ar yr ochr arall i’r ffin;
  • Yr achos dros rannu mwy o adnoddau a chyfleusterau rhwng systemau gofal iechyd Cymru a Lloegr, er enghraifft mewn perthynas â chaffael a defnyddio offer uwch-dechnoleg;
  • Effaith y Protocol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Trawsffiniol y cytunwyd arno gan GIG Cymru a Bwrdd Comisiynu’r GIG yn Lloegr, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2013, a pa un a yw’n cyflawni ei amcanion ai peidio;
  • Argymhellion Rhan II Comisiwn Silk ar iechyd trawsffiniol, yn enwedig y cynnig i ddatblygu protocolau unigol rhwng pob Bwrdd Iechyd Lleol ar y ffin yng Nghymru a’r Ymddiriedolaeth GIG gyfagos yn Lloegr;
  • Y gwersi y gellir eu dysgu o drefniadau iechyd trawsffiniol eraill, megis rhwng Lloegr a’r Alban neu Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Dylid cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer yr ymchwiliad hwn drwy dudalen ymchwiliad i’r trefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr

A fyddech cystal â nodi nad yw’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ar rinweddau’r systemau gofal iechyd yng Nghymru (sy’n fater datganoledig) neu Loegr. Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y trefniadau trawsffiniol rhwng systemau gofal iechyd Cymru a Lloegr a phrofiad y cleifion sy’n dibynnu ar wasanaethau’r ochr arall i’r ffin.

Mae’r Pwyllgor yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig ar y mater hwn yn unol â’r canllawiau a nodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig yw hanner dydd, dydd Mercher 20 Awst.

Gwahoddir y partïon â diddordeb i gadw at uchafswm o 4,000 o eiriau a chyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig drwy’r safle porth ar y we isod. Nid oes angen mynd i’r afael â phob rhan o’r cylch gorchwyl.

GWYBODAETH BELLACH:

Mae Aelodaeth y Pwyllgor fel a ganlyn: David T. C. Davies AS (Cadeirydd), Glyn Davies AS, Guto Bebb AS, Geraint Davies AS, Stephen Doughty AS, Jonathan Edwards AS, Nia Griffith AS, Simon Hart AS, Mrs Siân C. James AS, Karen Lumley AS, Jessica Morden AS, a Mr Mark Williams AS

Gwybodaeth Benodol am y Pwyllgor: welshcom@parliament.uk  ffôn: 020 7219 6189

Gwybodaeth ar gyfer y Cyfryngau: Jessica Bridges-Palmer bridgespalmerj@parliament.uk 020 7219 0724

Gwefan y Pwyllgor: http://www.parliament.uk/welshcom

Gwylio trafodaethau seneddol a phwyllgorau ar-leinwww.parliamentlive.tv

Cyhoeddiadau / Adroddiadau / Deunydd Cyfeirio: Mae copïau o holl adroddiadau’r pwyllgor dethol ar gael o Siop Tŷ’r Senedd (12 Bridge St, San Steffan, 020 7219 3890) neu’r Llyfrfa (0845 7023474).  Gellir dod o hyd i adroddiadau’r Pwyllgor, datganiadau i’r wasg, trawsgrifiadau tystiolaeth, Biliau; papurau ymchwil, cyfeiriadur o AS, ynghyd â Hansard (o 8am yn ddyddiol) a llawer iawn mwy, ar www.parliament.uk.

Gallwch ein dilyn ni ar Twitter @CommonsWelshAff

Ymwadiad Senedd y Deyrnas Unedig: Mae’r e-bost hwn yn gyfrinachol i’r sawl y’i bwriadwyd. Os yw wedi dod atoch mewn camgymeriad, a fyddech cystal â rhoi gwybod i’r anfonwr a’i ddileu o’ch system. Ni chaniateir defnyddio, datgelu, na chopïo heb awdurdod. Gwiriwyd yr e-bost hwn am firysau, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a achosir gan firws a drosglwyddir trwy gyfrwng yr e-bost hwn.