Mae ymrwymiad staff yn y Coleg wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth y Brifysgol.

Mae’r gwobrau, sydd yn eu hail flwyddyn, yn cynrychioli gwerthfawrogiad y Brifysgol o staff sydd wedi dangos ymrwymiad a chyfraniad eithriadol, ac sy’n cael eu cydnabod am ragoriaeth yn eu gwaith.

Enillydd y wobr Cyfraniad Eithriadol at Arweinyddiaeth oedd yr Athro Gary Baxter, Pennaeth yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a Phennaeth dros dro yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg. Canmolwyd Gary gan y beirniaid am yr effaith a gafodd wrth helpu’r ddwy Ysgol i ddatblygu ac am ysbrydoli ac ysgogi staff.

Enillydd y wobr Rhagoriaeth Barhaus oedd Matthew Williamson, Rheolwr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, i gydnabod ei gyfraniad sylweddol at reolaeth gyffredinol yr Ysgol a’i staff.

Cyflwynwyd y wobr am Gyfraniad Eithriadol at Weithgareddau Rhyngwladol y Brifysgol i’r Athro Andrew Quantock o’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg i gydnabod y cysylltiadau ymchwil ac addysgol amrywiol y mae wedi’u rheoli.

Roedd unigolion eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer ar y noson yn cynnwys yr Athro Bernard Moxham (yr Ysgol Biowyddorau) a’r Athro Rachel North (yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg) yn y categori Cyflawniad Oes; Dr Elspeth Webb o’r Ysgol Feddygaeth yn y categori Cyfraniad Eithriadol at y Gymuned neu’r Amgylchedd; tîm Ymchwil ar Heintiau a Pharasitiaid mewn Systemau Ecolegol yr Ysgol Biowyddorau yn y categori Rhagoriaeth Ymchwil; aelodau staff Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd yn y categori Cyfraniad Eithriadol at Weithgareddau Rhyngwladol y Brifysgol ar gyfer Cydweithrediad Prifysgol Taylor; y Tîm Derbyn Israddedigion yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn y categori Cymorth Eithriadol i’r Brifysgol, a’r grŵp rhyngddisgyblaethol Lleoedd Iach, Pobl Iach, gan gynnwys Sally Anstey a Richard Day o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Sion Coulman o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, a Lorraine Whitmarsh o’r Ysgol Seicoleg.

Llongyfarchiadau i bawb a enillodd wobrau ac a gyrhaeddodd y rhestr fer.