Mae dau Bennaeth Ysgol newydd wedi’u penodi’n ddiweddar.

Dechreuodd yr Athro John Bligh yn ei swydd fel Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth yn gynharach y mis hwn. Ymunodd John â’r Brifysgol yn 2010 fel Deon Addysg Feddygol ac mae wedi bod yn goruchwylio adolygiad cwricwlwm C21.

Mae’r Athro Marcela Votruba bellach yn Bennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg.  Mae Marcela wedi bod yn aelod o’r Ysgol ers 2007. Yn 2012, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil ac mae’n Gadeirydd Gweithgor y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Mae Marcela hefyd yn aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth /ATHENA-SWAN yr Ysgol.