Symud Adnoddau’r Cyfryngau i’r Coleg Hoffem groesawu staff Prifysgol Caerdydd yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau a fydd yn symud i Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd o 1 Awst 2014. Mae Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn darparu gwasanaeth darluniau meddygol, sy’n cynnwys cynhyrchu ffotograffau a fideos, dylunio graffeg a darluniau i gefnogi gofal cleifion, addysgu ac […]
Content written by Ruth Palgrave
Rydym wrthi’n cwblhau’r dyrchafiadau academaidd ar gyfer 2013/14 a bydd y penderfyniadau’n cael eu cyhoeddi pan fydd gwaith y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd wedi’i gwblhau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael dyrchafiad a ddaw i rym o 1 Awst 2014.
A yw’r sawl sy’n eistedd nesaf atoch wedi gwneud Cyfraniad Eithriadol i Arloesi ac Ymgysylltu? A yw’r cydweithiwr yr ydych chi’n gweithio gydag ef / hi mewn Ysgol arall wedi dangos Rhagoriaeth mewn Addysgu? A yw aelod o staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol wedi dangos Cyfraniad Eithriadol i Arweinyddiaeth? Y Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth yw eich […]
Lansiwyd y cynllun hwn ar 1 Gorffennaf i gymryd lle’r cynllun ‘Taliadau Dewisol’. Fel yr awgryma’r enw, cafodd ei ddatblygu i wobrwyo a chydnabod staff y mae eu cyfraniad yn mynd y tu hwnt i’r safonau disgwyliedig ac sydd wedi bod yn eithriadol ac yn deilwng o gydnabyddiaeth arbennig. Gwahoddir ceisiadau am wobrau a chânt […]
Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi ymchwiliad byr i’r trefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, i ddilyn ei adroddiad blaenorol yn 2009 ar y mater hwn. Ers i’r Pwyllgor archwilio’r mater hwn ddiwethaf, bu ymwahaniad cynyddol rhwng systemau gofal iechyd Cymru a Lloegr, sydd â goblygiadau i gleifion mewn ardaloedd ar y ffin sy’n […]
A oes gennych chi farn am Ddiogelwch Gwybodaeth yn y Brifysgol? Ydych chi’n teimlo bod y camau a gymerir i ddiogelu gwybodaeth yn y gwaith (e.e. defnyddio cyfrineiriau, swyddfeydd a storfeydd diogel, hyfforddi staff ac ati) yn ddigonol ac yn darparu’r cydbwysedd gorau o ran caniatáu i chi gael mynediad at yr wybodaeth gywir ar […]
Hoffem groesawu’r swyddogion sydd newydd gael eu hethol. Llywydd Undeb y Myfyrwyr – Elliot Is-lywydd y Cyfryngau a Marchnata – Tom Is-lywydd Cymdeithasau ac Ymgyrchoedd – Barney Is-lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan – Claire Is-lywydd Lles – Faraz Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau – Bryn Is-lywydd Addysg – Rhys
Mae sawl aelod o’r staff addysgu yn y Thema Dysgu ac Ysgoloriaeth yn yr Ysgol Ddeintyddiaeth wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol yn ddiweddar gyda Gwobr am Ragoriaeth mewn Addysg Ddeintyddol y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop. Mae’r Wobr hon yn unigryw am mai dyma un o’r ychydig gyfleoedd am gydnabyddiaeth ryngwladol o ragoriaeth ym maes addysg […]