Mae Bwrdd y Coleg yn rhoi arweinyddiaeth weithredol i’r Ysgolion yn y Coleg, gan helpu i ffurfio strategaeth a pholisi’r Coleg o ran adnoddau, perfformiad a gweithgareddau academaidd. Fe all hefyd wneud argymhellion i Ddirprwy Is-ganghellor y Coleg. Mae Bwrdd y Coleg yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae ei waith yn canolbwyntio ar wireddu uchelgais y Coleg o fod yn ganolfan rhagoriaeth academaidd sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang.

Mae rhagor o wybodaeth am aelodau Bwrdd y Coleg, yn ogystal ag agweddau eraill ar strwythur y Coleg, ar gael ar dudalennau gwe’r Coleg – <http://www.caerdydd.ac.uk/bls/about/structure/index.html>