Content classified under Uncategorized @cy


Llongyfarchiadau i Dr John Gallacher o’r Ysgol Feddygaeth, sydd wedi sicrhau £7.5 miliwn ychwanegol ar gyfer cam dau rhaglen y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) sy’n werth miliynau o bunnoedd, sef ‘Platfform Ymchwil i Ddementiâu y DU (UKDP)’, sydd â’r nod o gyflymu cynnydd mewn ymchwil i ddementia. Mae UKDP yr MRC, a lansiwyd y mis […]


Themâu Ymchwil: Ym mis Mai 2013, ffurfiodd Bwrdd y Coleg bum Thema ymchwil gyffredinol, gan gytuno arnynt dros dro. Diben y rhain yw galluogi’r Coleg i wireddu amcanion ‘Y Ffordd Ymlaen 2012-2017’ yn llawn. Ystyriwyd hyd a lled y Themâu arfaethedig gan bum Grŵp Gorchwyl a Gorffen a arweiniwyd gan Gynullydd. Casglwyd canlyniadau’r ymarfer cwmpasu […]


Adolygiad Sefydliadol Cynhaliodd Adolygwyr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ymweliad ym mis Ebrill yn dilyn eu hymweliad tîm cyntaf ym mis Chwefror. Cyfarfu’r Adolygwyr â nifer o grwpiau staff a chanddynt wahanol gyfrifoldebau, gan gynnwys staff darlithio, staff proffesiynol ac uwch aelodau staff o bob rhan o’r Brifysgol. Gwnaethant hefyd gyfarfod ag ystod o fyfyrwyr (israddedig, […]


Prifysgol Feddygol y Brifddinas (CMU), Beijing: Bydd cryfhau cydweithrediadau rhyngwladol yn rhoi hwb ychwanegol i enw da rhyngwladol y Coleg a’r Brifysgol, yn unol ag agenda ‘Y Ffordd Ymlaen’ y Brifysgol. Mae’r prosiect Prifysgol Feddygol y Brifddinas yn fenter strategol allweddol i ysgogi symudedd myfyrwyr rhyngwladol i mewn ac allan, datblygu rhaglenni gradd cydweithredol a […]




Mae dau Bennaeth Ysgol newydd wedi’u penodi’n ddiweddar. Dechreuodd yr Athro John Bligh yn ei swydd fel Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth yn gynharach y mis hwn. Ymunodd John â’r Brifysgol yn 2010 fel Deon Addysg Feddygol ac mae wedi bod yn goruchwylio adolygiad cwricwlwm C21. Mae’r Athro Marcela Votruba bellach yn Bennaeth yr Ysgol Optometreg […]


Mae ymrwymiad staff yn y Coleg wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth y Brifysgol. Mae’r gwobrau, sydd yn eu hail flwyddyn, yn cynrychioli gwerthfawrogiad y Brifysgol o staff sydd wedi dangos ymrwymiad a chyfraniad eithriadol, ac sy’n cael eu cydnabod am ragoriaeth yn eu gwaith. Enillydd y wobr Cyfraniad Eithriadol at Arweinyddiaeth oedd yr Athro […]