Mae’r tim Gwasanaethau Proffessiynol wedi croesawu 2 aelod o staff newydd: Sam Clark a Clare Davies.

Sam Clark – Partner Busnes Adnoddau Dynol

  • Rhoi cyngor ac arweiniad AD strategol a gweithredol i Ddirprwy Is-Ganghellor y Coleg, Cofrestrydd y Coleg a Phenaethiaid Ysgol;
  • Rhoi gwasanaeth AD proffesiynol o ansawdd uchel yn y Coleg;
  • Datblygu a chyflawni strategaethau, cynlluniau a gweithgareddau AD lleol sy’n cydredeg â gweledigaeth y Coleg a’r Brifysgol a Strategaeth Pobl y Brifysgol;
  • Gweithio mewn partneriaeth â’r uwch reolwyr yn y Coleg wrth lunio, llywio a chyflawni rheoli newid effeithiol a chynnydd mewn perfformiad.

 

Clare Davies – Partner Busnes TG

  • Rhoi cyngor ac arweiniad TG strategol a gweithredol i Ddirprwy Is-Ganghellor y Coleg, Cofrestrydd y Coleg a Phenaethiaid Ysgol
  • Rhoi cyngor a chymorth ar lefel uchel, sy’n eang ac mewn cyd-destun am strategaethau technoleg, mentrau newid y mae TG yn eu galluogi a chyflenwi gwasanaeth TG gweithredol, fel bod y Coleg yn cael y gwerth mwyaf posibl o’r Gwasanaethau TG
  • Bod yn brif gydlynydd rhwng Gwasanaethau TG a’r Colegau/Ysgolion wrth ddatblygu llwybrau buddsoddi busnes a thechnoleg integredig sy’n cyflawni nodau ac amcanion y Brifysgol a’r Coleg/Ysgol