Adolygiad Sefydliadol

Cynhaliodd Adolygwyr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ymweliad ym mis Ebrill yn dilyn eu hymweliad tîm cyntaf ym mis Chwefror. Cyfarfu’r Adolygwyr â nifer o grwpiau staff a chanddynt wahanol gyfrifoldebau, gan gynnwys staff darlithio, staff proffesiynol ac uwch aelodau staff o bob rhan o’r Brifysgol. Gwnaethant hefyd gyfarfod ag ystod o fyfyrwyr (israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil ôl-raddedig).

Hoffai’r Coleg ddiolch i’r holl staff am gyfrannu at y gwaith paratoi ar gyfer yr ymweliad a’r ymweliad ei hun. Mae’r adolygiad strategol hwn yn bwysig i’r Brifysgol a’i darpariaeth addysg, ac rydym yn falch bod y Coleg wedi’i gynrychioli’n dda yn holl gyfarfodydd yr adolygwyr.

Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol

Mae’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol wedi dod i ben erbyn hyn. Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd oedd â’r gyfradd ymateb uchaf yn y Brifysgol, sef 73.33%.

Hyfywedd y rhaglen Ôl-raddedig a Addysgir ac adolygiad ohoni

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r ddarpariaeth Ôl-raddedig a Addysgir a gynigir gan yr Ysgolion yn y Coleg. Nod cychwynnol yr adolygiad yw asesu’r hyfywedd ariannol. Mae Gabrielle Couch wedi dechrau ar secondiad gyda’r Coleg i ymgymryd â’r gwaith hwn.