Prifysgol Feddygol y Brifddinas (CMU), Beijing:

Bydd cryfhau cydweithrediadau rhyngwladol yn rhoi hwb ychwanegol i enw da rhyngwladol y Coleg a’r Brifysgol, yn unol ag agenda ‘Y Ffordd Ymlaen’ y Brifysgol. Mae’r prosiect Prifysgol Feddygol y Brifddinas yn fenter strategol allweddol i ysgogi symudedd myfyrwyr rhyngwladol i mewn ac allan, datblygu rhaglenni gradd cydweithredol a gwella cysylltiadau ymchwil rhyngwladol ymhellach.

Mae Grŵp Llywio CMU wedi’i sefydlu, a gadeirir gan Dr Dianne Watkins, Deon y Coleg – Rhyngwladol, sy’n cynnwys aelodaeth o Ysgolion ar draws y Coleg. Mae tri grŵp gorchwyl a gorffen wedi’u sefydlu hefyd i ddatblygu cynigion ym meysydd Israddedig, Ôl-raddedig a Addysgir ac Ymchwil Ôl-raddedig.

Ymwelodd Dr Dianne Watkins, Deon y Coleg – Rhyngwladol, a Claire Morgan, Deon Cyswllt – Ansawdd a Safonau, â Phrifysgol Feddygol y Brifddinas, Beijing ym mis Mawrth i gychwyn camau diwydrwydd dyladwy a chyfarfod ag uwch academyddion yn CMU i gytuno ar gynigion a blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer y cydweithrediad hwn.

Mae cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu yn seiliedig ar y trafodaethau a gynhaliwyd yn ystod yr ymweliad. Mae gwaith mapio cwricwla a modiwlau, diddordebau ymchwil a darpariaeth ôl-raddedig a addysgir yn cael ei wneud yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd i ddatblygu cynigion cydweithredol pendant.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu gymryd rhan, cysylltwch â Dr Dianne Watkins (WatkinsSD@caerdydd.ac.uk) neu Manjit Bansal (bansalm@caerdydd.ac.uk).