Themâu Ymchwil:
Ym mis Mai 2013, ffurfiodd Bwrdd y Coleg bum Thema ymchwil gyffredinol, gan gytuno arnynt dros dro. Diben y rhain yw galluogi’r Coleg i wireddu amcanion ‘Y Ffordd Ymlaen 2012-2017’ yn llawn.
Ystyriwyd hyd a lled y Themâu arfaethedig gan bum Grŵp Gorchwyl a Gorffen a arweiniwyd gan Gynullydd. Casglwyd canlyniadau’r ymarfer cwmpasu hwn ynghyd mewn adroddiad dilynol (Awst 2013), a oedd yn cadarnhau bod digon o ymchwil yn gysylltiedig â’r pum Thema arfaethedig i gyfiawnhau datblygiad pellach, a bod pob Thema wedi’i chefnogi gan sail resymegol gadarn.
Mae Themâu Ymchwil y Coleg yn cynnwys:
- Canser
- Imiwnoleg, Haint a Llid
- Y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddoniaeth
- Iechyd y Cyhoedd a Gofal Sylfaenol
- Biosystemau.
Mae fersiwn o adroddiad cwmpasu’r Themâu Ymchwil wedi’i rhoi i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol er gwybodaeth. Mae Cynullyddion y Themâu yn gweithio ar ddatblygu cynllun gweithredu ar hyn o bryd. Wrth symud ymlaen, bwriedir i’r Themâu fod yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddiadau’r Coleg.