Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru – Cylch 2 yr Ysgoloriaethau Ymchwil

Nod Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru yw rhoi cymorth i wyddoniaeth o safon byd yng Nghymru a datblygu triniaethau therapiwtig newydd mewn ardaloedd lle mae angen meddygol nad yw wedi’i ddiwallu. Mae’r Rhwydwaith yn dod ag academyddion ynghyd o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor a’i nod yw datblygu gallu ymchwil tymor hir ym maes Gwyddorau Bywyd.

Mae’r fenter hon sy’n werth £15M wedi’i hariannu’n rhannol gan ddyfarniad £7.3M gan raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru a’i nod yw hyrwyddo cydweithredu â phartneriaid ym maes diwydiant, y GIG a Phrifysgolion rhyngwladol eraill.

Ym mis Mawrth 2014 lansiodd y Rhwydwaith yr ail gylch o Ysgoloriaethau Ymchwil. Y mis diwethaf, roedd rhai o’r ysgoloriaethau ymchwil wedi’u hariannu a gafodd eu dyfarnu’n cynnwys (Arweinydd a theitl y prosiect):

Yr Athro Hoffmann,  Cynyddu detholedd a grym endid cemegol anthelmintig newydd.

Dr Westwell, Radiosynthesis pro-niwcliotid â label 18F (ProTides) ar gyfer delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau (PET).

Dr Mosely, Gwerthusiad fferyllol o ‘tiglianes’ newydd yn fodylyddion gwahaniaethu fibroblast-myofibroblast croenol, ffurfio creithiau a ffibrosis;  ac esboniad o’u mecanweithiau gweithredu sylfaenol.

Yr Athro Mahenthiralingam, Datblygu ‘vietnamycin’: gwrthfiotig Burkholderia newydd sy’n targedu Staffylococws  awrëws sy’n gwrthsefyll Methisilin (MRSA).

Yr Athro Mur, Adnabod cyffuriau gwrthficrobaidd newydd mewn microbau o amgylcheddau eithafol.

Yr Athro Mur, Targedu cynhyrchion naturiol i wynebu her MRSA.

Dr Bugert, Gwerthusiad biolegol o [L] ddBCNAs fel cyffur gwrthfeirysol sy’n targedu celloedd.

Yr Athro Allemann, Ymagweddu Arloesol tuag at Gyffurfiau Gwrthficrobaidd Newydd.

Dr Young, Dyluniad sy’n seiliedig ar strwythur modylyddion moleciwlau bach dynol P2X4-detholus.

Dr Pertusati, Synthesis Trychinebddetholus Progyffuriau Ffosfforoamidad.