Cefnogaeth Academaidd: Galluogi Llwyddiant Myfyrwyr – Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Caerdydd

Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2014 – Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maindy

Mae systemau cefnogaeth academaidd yn ddull pwysig o alluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau, y perthnasoedd a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i ffynnu yn y Brifysgol. Gan fod llawer o enghreifftiau arloesol yn bodoli o sut rydym ni’n cefnogi uchelgeisiau academaidd myfyrwyr yng Nghaerdydd, bydd y gynhadledd hon yn darparu fforwm i gydweithwyr gyfarfod a rhannu arfer gorau yn y maes hwn.

A oes gennych chi arfer da yr hoffech ei rannu? Rydym ni’n chwilio am gyflwyniadau byr (10-15 munud) ar gyfer rhaglen y gynhadledd. Mae gwybodaeth ychwanegol wedi’i hamgáu ac ar gael ar wefan Profiad a Safonau Academaidd Myfyrwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi cyflwyniad, anfonwch ddatganiad nad yw’n fwy na 250 o eiriau yn amlinellu eich gweithgaredd neu ddatblygiad at education@caerdydd.ac.uk erbyn diwedd dydd Mercher 21 Mai.

Os hoffech chi gofrestru’n gynrychiolydd ar gyfer y gynhadledd, llenwch y ffurflen neilltuo lle sydd ar gael ar ein gwefan. Bydd y cyfnod cofrestru’n cau ar ddiwedd dydd Llun 7 Gorffennaf 2014. Os hoffech chi gael stondin neu boster yn y cyntedd yn ystod y gynhadledd, rhowch wybod i ni yn education@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 30 Mehefin.

Mae croeso i chi rannu’r neges e-bost hon ag unrhyw gydweithwyr a allai fod â diddordeb.