A oes gennych chi farn am Ddiogelwch Gwybodaeth yn y Brifysgol? Ydych chi’n teimlo bod y camau a gymerir i ddiogelu gwybodaeth yn y gwaith (e.e. defnyddio cyfrineiriau, swyddfeydd a storfeydd diogel, hyfforddi staff ac ati) yn ddigonol ac yn darparu’r cydbwysedd gorau o ran caniatáu i chi gael mynediad at yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir?

Sefydlwyd y Rhaglen Fframwaith Diogelwch Gwybodaeth i adolygu ffyrdd Prifysgol Caerdydd o fynd ati i drin Diogelwch Gwybodaeth, ac yn dilyn cwblhau ei gwedd Asesu a Gwerthuso mae bellach wedi dechrau rhoi gwelliannau ar waith yn gysylltiedig â’r ffordd y rheolir diogelwch gwybodaeth.

Mae’r arolwg hwn yn ailadrodd yr Arolwg Diogelwch Gwybodaeth a gynhaliwyd yn 2013, a hoffem glywed eich syniadau a’ch profiadau er mwyn asesu sut mae pethau wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg, ni fydd yn cymryd mwy na 10 munud o’ch amser a bydd yn helpu i lunio gwaith y Rhaglen. Gallech hyd yn oed ennill un o ddau docyn anrheg £50 gan Amazon!

Sylwer: Os ydych yn defnyddio gweithfan a reolir gan y Brifysgol, gallwch lansio’r arolwg gan ddefnyddio’r eicon ar eich bwrdd gwaith fel y dangosir isod:

Icon