Gwerthusodd Grŵp Datblygu’r Sefydliad gyda chymorth dau grŵp gweithredu ystod o ddewisiadau strategol posibl arall sydd ar gael i’r tair Ysgol gyfansoddol, Meddygaeth, Deintyddiaeth ac Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig (PGMDE). Amlygodd y broses gwmpasu, a oedd yn cynnwys dros 10 cyfarfod â grwpiau o randdeiliaid allweddol dros gyfnod o ryw bum mis, y manteision a fyddai’n dod i ddisgyblaethau cysylltiedig Meddygaeth a Deintyddiaeth o gysylltu addysg ac ymchwil Feddygol a Deintyddol, a hefyd y manteision i’w myfyrwyr. Ond, amlygodd hefyd y risg a ganfyddir i gylch gorchwyl ‘Cymru gyfan’ cyfansoddyn Deoniaeth Cymru PGMDE a’r golled a ganfyddir o ran hunaniaeth yr Ysgolion meddygol a deintyddol cyfansoddol.
Mae’r Grŵp Datblygu wedi adolygu’r cynigon gwreiddiol ac mae’n dal i fod wedi’i argyhoeddi am y manteision a fydd i’r tair Ysgol o gydweithio. Ond, gan ystyried adborth y rhanddeiliaid, buwyd wrthi’n ddyfal yn ceisio dod o hyd i fodd arall o gyflawni’r canlyniadau a ddymunir heb newid strwythur academaidd yr Ysgol Feddygol a’r Ysgol Ddeintyddol.
Bydd y Coleg yn gweithio gyda’r Ysgol Feddygol a’r Ysgol Ddeintyddol i gytuno ar dargedau strategol ac ariannol i bob Ysgol unigol ym meysydd Ymchwil, Addysg, profiad myfyrwyr a chynaliadwyedd ariannol. Bydd yr Ysgol yn cadw eu hunaniaeth academaidd tra byddant yn cydweithio lle y bo’n briodol i rannu adnoddau (ymchwil, addysgu a gweinyddol) a chyflawni’r canlyniadau sy’n ofynnol.