Mae Carolyn Donoghue, Cofrestrydd y Coleg, yn rhoi diweddariad ar sut mae’r Coleg yn gweithio i ddatblygu ei seilwaith Gwasanaethau Proffesiynol.

Cefndir

Ers i’r Coleg gael ei sefydlu yn 2012, rydym wedi bod yn gweithio i greu seilwaith addas ar gyfer darparu gwasanaethau proffesiynol yn y Coleg, sy’n cefnogi’r gweithgarwch academaidd yn briodol. Rydym ni’n mabwysiadu model partneriaeth fusnes ar draws y Brifysgol, ac rwyf bellach yn gweithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol canolog a’r Colegau eraill i ddiffinio ffurf hynny ar gyfer pob gwasanaeth ar lefel Coleg ac Ysgol.

Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd yw’r mwyaf o’r tri Choleg gydag 8,400 o fyfyrwyr wedi’u cofrestru a 1,900 o staff wedi’u rhannu ar draws nifer o safleoedd. Yn ogystal â hyn, ceir cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, y GIG, byrddau iechyd lleol a rhanddeiliaid allanol eraill mewn gofal iechyd. O ystyried hyn, mae’r Coleg yn canolbwyntio ar gynllunio a chefnogi strwythur sy’n bodloni anghenion ei randdeiliaid ar yr un pryd â bod yn hyblyg ac ymatebol i’r sectorau addysg uwch a gofal iechyd sy’n newid yn gyflym.

Mae’r Coleg wedi mabwysiadu’r model Partner Busnes, sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y Brifysgol.

Mae’r model Partner Busnes wedi’i seilio ar ddatblygu dealltwriaeth dda o anghenion ar lefel Coleg ac Ysgol yn ogystal â gofynion, polisïau a phrosesau canolog y Brifysgol. Yn gyffredinol, disgwyliwn:

  • Benodi partneriaid busnes neu gyfwerth;
  • Pennu cwmpas y gwasanaeth mewn ymgynghoriad â staff yr Ysgol, y Coleg a’r Gwasanaethau Proffesiynol;
  • Cytuno ar ble y dylai prosesau penodol gael eu darparu;
  • Cynllunio strwythur i gefnogi hyn;
  • Adolygu’r strwythurau presennol a gwneud unrhyw newidiadau priodol

Egwyddorion

  • Datblygu cysondeb lle y bo’n briodol
  • Sefydlu systemau a phrosesau cydnerth a chynaliadwy
  • Datblygu llwybrau gyrfaol a disgwyliadau rôl eglur i gefnogi datblygiad gyrfaol staff gwasanaethau proffesiynol
  • Ymsefydlu diwylliant o wasanaethau rhagorol a gwelliant parhaus yn y Coleg, gan adeiladu ar y meysydd niferus lle mae hyn eisoes yn bodoli.

Cynnydd hyd yma

Adnoddau Dynol:

Yn anffodus, gadawodd ein Partner Busnes AD, Kim Newcombe, yn gynnar ym mis Mai. Mae’n bleser gennyf roi gwybod ein bod wedi recriwtio Samantha Clark i’r swydd a bydd hi’n ymuno â ni ar 9 Mehefin. Rydym wedi cytuno ar strwythur ar gyfer AD a byddwn yn parhau i ddatblygu hyn wedi i Sam ddechrau yn ei swydd.

Cyllid:

Richard Thomas yw ein Partner Busnes Cyllid ac rydym wedi penodi Jeff White i swydd  Cyfrifydd Rheolaeth y Coleg a bydd yn datblygu’r strwythur ar gyfer y Coleg.

Gwasanaethau Gwybodaeth:

Bydd Clare Davies yn ymuno â ni fel Partner Busnes TG ym mis Gorffennaf. Mae ymarfer rhychwantu a darganfod ar fin dechrau i edrych ar ein darpariaeth TG ar hyn o bryd (yn cwmpasu staff, prosesau a thechnoleg) cyn dylunio model gwasanaeth priodol ar gyfer darparu TG i’r Coleg.

Cymorth Ymchwil:

Mae tri Chofrestrydd y Coleg yn gweithio gyda RIES (Ymchwil, Arloesedd a Menter) i ddatblygu trefniant Partner Busnes priodol. Mae’n bosibl na fydd hwn yn yr un fformat â Chyllid neu AD, gan fod y cylch gorchwyl eang yn ei gwneud yn annhebygol y gallai un unigolyn ymdrin â phob maes.

Cynllunio:

Mae’r Adran Gynllunio wedi penodi Uwch Swyddog Cynllunio fel uwch bwynt cyswllt ar gyfer Coleg penodol. Ar gyfer y Coleg hwn, Lizanne Duckworth sydd wrth y llyw. Yn ogystal, mae’r tîm Gwybodaeth a Dadansoddi Cynllunio yn yr Adran Gynllunio yn gweithio’n agos â’r Colegau. Bydd y tri Choleg yn gweithio gyda’i gilydd gyda’r Adran Gynllunio a’r ysgolion i sefydlu’r trefniadau gweithio mwyaf priodol.

Cyfathrebu a Marchnata:

Rydym wedi penodi Partner Busnes mewn Cyfathrebu. Bydd Greg England yn dechrau’r swydd hon yn hwyr ym mis Awst / ar ddechrau mis Medi. Mae’r Brifysgol hefyd wedi penodi Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata, Claire Sanders, a fydd yn dechrau ym mis Mehefin. Pan fydd y ddau wedi cychwyn ar eu rolau, bydd modd adolygu’r trefniadau a strwythurau gweithio a gwneud y newidiadau priodol.

Ystadau:

Mae Dev Biddlecome, y Cyfarwyddwr Ystadau, wrthi’n adolygu’r strwythur presennol a bydd yn cyfarfod â thri Chofrestrydd y Coleg i ystyried sut y gellir gweithredu egwyddorion y model partner busnes yn effeithiol. Yn ogystal, mae’r Coleg wedi sefydlu Bwrdd Ystadau sy’n adrodd i Fwrdd y Coleg.

Gwasanaethau Llyfrgell:

Mae’r strwythur sefydliadol presennol yn y Gwasanaethau Llyfrgell yn gweithio’n dda iawn yn ôl pob golwg o ran strwythurau’r Colegau a’r Ysgolion, felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau i adolygu hwn ar hyn o bryd.

Gwasanaethau Myfyrwyr:

Mae trafodaethau cychwynnol wedi cael eu cynnal rhwng tri Chofrestrydd y Coleg a Chris Turner, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr a Llywodraethu, ynghylch gweithredu’r egwyddorion partner busnes a chaiff hyn ei ddatblygu ymhellach cyn gynted â phosibl.

Penodiadau diweddar eraill:

Mae Gabrielle Couch wedi ymuno â thîm y Coleg ar secondiad hyd at 31 Gorffennaf 2014, a bydd yn canolbwyntio ar brosiectau cyllid yn bennaf.

Penodwyd Joanne Parry yn Rheolwr Swyddfa’r Coleg ar 1 Ebrill 2014, ac ymunodd Carina Hibbs, Swyddog Llywodraethu – y Ddeddf Meinweoedd Dynol, â’r Coleg ym mis Ebrill. Roedd Carina’n gweithio yn yr uned Llywodraethu a Chydymffurfio, GOVRN, yn flaenorol.

Datblygu strwythurau newydd a phenodi iddynt

Hoffwn eich sicrhau y bydd strwythurau’n cael eu datblygu dros amser mewn ymgynghoriad â staff Ysgolion yn ogystal â gwasanaethau proffesiynol canolog. Bydd unrhyw newidiadau i rolau’n cael eu rheoli o fewn prosesau Adnoddau Dynol er mwyn sicrhau tegwch.

Mae’r tri Choleg yn y Brifysgol yn gweithio yn unol â’r un egwyddorion ac yn cysylltu’n agos ynglŷn â newidiadau er mwyn sicrhau bod cysondeb yn cael ei gynnal lle bynnag y bo’n bosibl ac yn briodol. Ceir blaenoriaethau a chymhlethdodau gwahanol yn y Colegau, wrth reswm, felly gallai cyflymder a natur newid amrywio.

Gobeithiaf fod hyn yn egluro sefyllfa bresennol y Coleg, ond mae croeso i chi gysylltu â mi gydag unrhyw ymholiadau.