Mae dau gydweithrediad o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd wedi ennill Gwobr Arloesi Meddygol ar y cyd.
Ysgol Feddygol Caerdydd a Myriad Genetics Inc
Adnabod, trosi a masnachu’r genyn cyntaf ar gyfer rhagdueddiad enciliol tuag at ganser y coluddyn (MUTYH): Adnabu ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd enyn newydd (MUTYH) sy’n achosi math o ganser y coluddyn sy’n cael ei etifeddu a datblygon nhw system a fabwysiadwyd yn rhyngwladol o brofi i wella cynghori geneteg a gofal meddygol. Ers hynny mae’r profion wedi cael eu trwyddedu a’u cyflwyno ledled y Byd. O dan arweiniad Yr Athro Julian Sampson a’r Athro Jeremy Cheadle, gwellodd yr ymchwil y cynghori geneteg, y profi geneteg ac atal canser y coluddyn mewn canser y colon a’r rhefr ledled y byd, ac arweiniodd at dargedu gwasanaethau sgrinio colonosgopig yn fwy effeithiol tuag at gleifion risg uchel.
Mae dros 11,000 o samplau cleifion wedi’u profi’n rhyngwladol am fwtaniad MUTYH ers i’r genyn gael ei ddarganfod, gan gynhyrchu incwm o ryw $5m mewn ffioedd trwyddedu i Myriad Genetics Inc,y cwmni o UDA sydd wedi trwyddedu’r dechnoleg. Rhoddodd Parc Genynnau Cymru a’r Tîm Trosglwyddo Technoleg ym Mhrifysgol Caerdydd gymorth masnachol drwy gefnogaeth arbenigol er mwyn cael patent a thrwydded i’r wybodaeth enetig, ynghyd ag arbenigedd a ddarparwyd gan y Sefydliad Geneteg Feddygol . Hefyd cyfrannodd y gwaith tuag at ddyfarnu Gwobr Pen-Blwydd y Frenhines i Brifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2008.
Ysgol Feddygol Caerdydd a MRC
Diffinio Safon Gofal i Ganser y Prostad sy’n Ddatblygedig yn Lleol: Dangosodd astudiaeth ryngwladol y gellid torri’r risg marwolaeth i ddynion sy’n dioddef o ganser y prostad sy’n ddatblygedig yn lleol neu i rai sydd â risg uchel drwy ychwanegu therapi ymbelydredd at y triniaethau hormonau safonol. Mae’r Athro Malcolm Mason, Athro Oncoleg Glinigol Ymchwil Canser Cymru yn yr Ysgol Feddygol, yn arwain cangen y DU yr arbrawf ymchwil i ganser y prostad ers 1998, pan gafodd ei benodi’n Brif Ymchwilydd y DU. Bu’n arwain yr astudiaeth yn y wlad hon ar ran y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC).
Mae canser y prostad yn lladd tua 10,000 o ddynion yn y DU bob blwyddyn. Gyda chydweithwyr o Ganada a Gogledd America, cyflwynodd yr Athro Mason a thîm y Cyngor Ymchwil Meddygol, gan gynnwys Matt Sydes, dystiolaeth newydd a oedd yn dangos bod cyfraddau goroesi’n gwella’n arwyddocaol os ychwanegir ymbelydredd at driniaethau hormonau safonol wrth drin dynion y mae eu canser wedi ymledu’r tu hwnt i’r prostad. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, bydd hyn yn atal 43% o’r marwolaethau o ganser y prostad mewn dynion sydd â chanser sy’n ddatblygedig yn lleol. Newidiodd yr arbrawf ganllawiau ac arferion meddygol yn Ewrop a Gogledd America ac, ers yr astudiaeth, mae canllawiau NICE bellach yn cynghori bod rhaid cynnig radiotherapi i 100% y cleifion sy’n addas iddo.
Gwobr Dewis y Bobl
Cyflwynwyd Gwobr Dewis y Bobl i Dr Neil Warren (WIMAT, PGMDE), Dr Dominic Griffiths a Dr Peter Bannister (Asalus) gan Edwina Hart AC, y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; cyflwynwyd Gwobr Mentrau Newydd gan Gwmni Cyfreithwyr Geldards – Ceri Delemore, Partner. Hefyd mawrygodd Gwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd – a noddwyd gan Gwmni Cyfreithwyr Geldards ac IP Group Plc – bedwar enillydd arall hefyd.
http://www.cardiff.ac.uk/news/articles/ground-breaking-invention-clears-smoke-and-awards-13089.html