A yw’r sawl sy’n eistedd nesaf atoch wedi gwneud Cyfraniad Eithriadol i Arloesi ac Ymgysylltu?
A yw’r cydweithiwr yr ydych chi’n gweithio gydag ef / hi mewn Ysgol arall wedi dangos Rhagoriaeth mewn Addysgu?
A yw aelod o staff yn y Gwasanaethau Proffesiynol wedi dangos Cyfraniad Eithriadol i Arweinyddiaeth?
Y Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth yw eich cyfle chi i ddangos cydnabyddiaeth o’ch cydweithwyr sydd wedi dangos ymrwymiad a chyfraniad eithriadol i’r Brifysgol.
Mae’r Gwobrau’n cefnogi ac yn atgyfnerthu ein strategaeth Y Ffordd Ymlaen. Maent yn gwobrwyo cyflawniadau unigol, tîm a chydweithredol ac yn cydnabod y cyfraniadau a wneir gan bob un o’n staff sy’n gweithio ym mhob maes o weithgareddau’r Brifysgol.
Mae categorïau’r gwobrau wedi’u dylunio i fod yn agored ac yn gynhwysol, er mwyn gallu cydnabod amrywiaeth o gyflawniadau gan ein staff amrywiol. Nid oes yn rhaid i chi fod yn rheolwr llinell i enwebu rhywun am Wobr Dathlu Rhagoriaeth. Gall unrhyw aelod o staff enwebu unigolion neu grwpiau y maent yn credu ddylai gael cydnabyddiaeth am ei gyflawniad ef / hi.
Categorïau gwobrau eleni yw:
- Seren sy’n Codi
- Rhagoriaeth Barhaus
- Cyflawniad Gydol Oes
- Cyfraniad Eithriadol i’r Gymuned neu’r Amgylchedd
- Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr mewn Modd Eithriadol
- Rhagoriaeth mewn Addysgu (yn cynnwys Hyfforddi a Datblygu)
- Rhagoriaeth mewn Ymchwil (yn cynnwys Cynorthwyo Ymchwil)
- Cyfraniad Eithriadol i Weithgareddau Rhyngwladol y Brifysgol
- Cyfraniad Eithriadol i Arloesi ac Ymgysylltu
- Cefnogaeth Eithriadol i’r Brifysgol
- Cyfraniad Eithriadol i Arweinyddiaeth
- Cyfraniad Eithriadol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Gwobr yr Is-Ganghellor am Gyfraniad Eithriadol i’r Brifysgol
Gwobrau’r gronfa ymddiriedolaeth:
- Gwobr Syr Herbert Duthie ar gyfer Datblygiad Staff
- Gwobr William O’Grady i Dechnegwyr
Mae’r manylion llawn, gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pob gwobr, gwybodaeth am yr enwebiad, y prosesau beirniadu, a dolenni i’r ffurflenni enwebu ar y dudalen Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth ar y wefan. Mae gwybodaeth hefyd yn y ddogfen sydd ynghlwm.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 31 Gorffennaf 2014. Cysylltir â’r enwebeion sydd ar y rhestr fer ym mis Medi, a chynhelir y seremoni Wobrwyo a’r cinio ym mis Tachwedd.
Os gwyddoch chi am gydweithiwr neu grŵp o gydweithwyr sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyfraniad eithriadol i Brifysgol Caerdydd, peidiwch â cholli’r cyfle hwn i’w henwebu.