Gwobr Uwch Ymchwilydd Ymddiriedolaeth Wellcome

Llongyfarchiadau i’r Athro Alun Davies, un o niwro-fiolegwyr blaenaf y byd yn Ysgol y Biowyddorau am ennill Gwobr Uwch Ymchwilydd Ymddiriedolaeth Wellcome, Tumor necrosis factor superfamily forward and reverse signalling in neural development (£2,043,742; 2014 – 2019).

Mae’r Athro Davies yn astudio’r mecanweithiau moleciwlar sy’n rheoli a yw niwronau’n goroesi a thwf prosesau niwraidd (acsonau a dendridau) yn ystod datblygiad. Yn ddiweddar darganfu ei dîm fod aelodau o deulu ffactor necrosis tiwmor (TNF) proteinau arwyddo allgellog yn chwarae rhan bwysig wrth reoli twf acsonau. Yn rhan o’i Wobr Uwch Ymchwilydd, bwriad yr Athro Davies yw astudio sut mae proteinau TNF gwahanol yn llywio’r gwaith o sefydlu patrymau cysylltedd niwral yn ystod datblygiad a datod y mecanweithiau moleciwlar sy’n sail iddynt.  Bydd canlyniadau gwaith yr Athro Davies yn cynyddu’r hyn rydym yn ei ddeall am sut mae’r system nerfol yn cael ei gwifro a gall daflu goleuni ar yr hyn sy’n mynd o chwith mewn rhai anhwylderau niwro-ddatblygiadol.

I gael rhagor o wybodaeth:

http://www.cardiff.ac.uk/news/articles/cardiff-scientists-honoured-by-the-royal-society-6794.html

http://www.cardiff.ac.uk/about/honours/categories/alun-davies.html

https://royalsociety.org/people/fellowship/2011/alun-davies/

 

Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr – Dr Steve Riley

steve_riley_jpg__770x513_q85_crop

Yn ddiweddar cyflwynwyd Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr i Dr Steve Riley i gydnabod ei gyfraniad i wella profiad myfyrwyr. Yma mae Stephen yn dweud mwy wrthym am ei waith.

Enw: Dr Steve Riley

Ysgol: Ysgol Feddygaeth

Swydd: Ar hyn o bryd rwy’n Uwch Ddarlithydd Clinigol ac yn Gyfarwyddwr Cam 1 rhaglen MBBCh.

Eich Cefndir: Rwy’n aranegwr sydd wedi datblygu diddordeb ym maes addysg feddygol ac rwyf wedi ymgymryd â phrentisiaeth sy’n ymwneud â’r rolau a’r cyfrifoldebau gwahanol sydd eu hangen i gyflwyno rhaglen gymhleth fel meddygaeth. Rwy’ wrthi’n rhoi dysgu ar waith sydd wedi’i seilio ar achosion, nod hwnnw yw cynyddu cyfranogiad myfyrwyr yn eu dysgu eu hunain a’u cyfrifoldeb amdano. Ein nod yw helpu’r myfyrwyr i ddysgu drwy ryngweithio mewn grwpiau bychain a sicrhau bod y dysgu’n cael ei gyflwyno yn y cyd-destun clinigol a bod cleifion a gofal o ansawdd uchel i gleifion yn greiddiol i’r cwricwlwm.

Uchafbwyntiau eich swydd

Yr uchafbwyntiau yw ceisio gwneud i’r profiad fod cystal ag y gall fod i fyfyrwyr. Felly mae hyn yn golygu ei wneud yn ddiddorol, yn ysgogol ac yn rhyngweithiol, ac yn bennaf oll, yn hwyl i’r myfyrwyr. Felly’r darnau gorau yw gallu helpu myfyrwyr mewn grwpiau bychain drwy drafod egwyddorion arferion clinigol a’u cysylltu â gwyddoniaeth sylfaenol.

Unrhyw awgrymiadau / gyngor i staff sy’n gweithio mewn rolau tebyg?

Ceisiwch wrando ar fyfyrwyr bob amser a gwneud i bob rhan o’u cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd fod cystal ag y gall fod. Mae hyd yn oed materion sy’n edrych yn fach i ni yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ganfyddiad myfyrwyr o’r cwrs a’r gyfadran. Mae ymyriad bach hyd yn oed yn gallu gwella profiad myfyrwyr yn fawr.

 

Mwy am ddyfarniadau’r Academi Addysg Uwch (HEA)

Yn rhifyn diwethaf y cylchlythyr buom yn llongyfarch Dr Stephen Rutherford a Dr Keren Williamson sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ennill ceisiadau am ddyfarniadau gan yr Academi Addysg Uwch (HEA) ym maes dysgu cydweithredol. Derbyniwyd 230 cais o bob rhan o’r DU, gyda 12 grant yn unig wedi’u dyfarnu. Felly llongyfarchiadau i Stephen a Karen.

Dr Stephen Rutherford a Dr Keren Williamson yn dweud rhagor wrthym am eu prosiectau.

Mae Dr Stephen Rutherford o Ysgol y Biowyddorau wedi ennill Grant Datblygu Addysgu gan yr Academi Addysg Uwch i ymgymryd ag astudiaeth o ‘Fodiwlau Cysgodi’ i adnabod yr arferion gorau er mwyn rhedeg gweithgareddau cydweithredol.

Steve Rutherford

Manteisio i’r eithaf ar effaith dysgu cydweithredol drwy ‘Fodiwlau Cysgodi’

Steve Rutherford, Sheila Amici-Dargan ac Andrew Shore (Ysgol y Biowyddorau)

Grant Datblygu Addysgu (Adrannol) gan yr Academi Addysg Uwch. Un o’r 12 grant a ddyfarnwyd yn genedlaethol ar draws y sector o dros 230 cais.

Wrth gynorthwyo’r dysgu, mae cyfoedion yn cyfoethogi’r profiad dysgu’n fawr iawn. Drwy gynnwys y myfyrwyr yn weithredol i gynorthwyo dysgu eu cyfoedion, maen nhw’n dod yn bartneriaid yn y profiad dysgu, yn hytrach nag yn ddefnyddwyr gwybodaeth yn unig. Mae gweithgareddau cydweithredol yn gwella dysgu a gwybyddiaeth, ond mae hefyd yn grymuso’r myfyrwyr i gymryd rhan yn y gwaith o gynorthwyo eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion. Gyda’r hinsawdd sy’n newid o ran ysgolion yn ‘addysgu i’r prawf’, mae’n hanfodol ar gyfer Addysg Uwch fod myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol, ac mae dysgu cydweithredol yn gwella hyn.

Rydym wedi peilota dull dysgu ar y cyd, ‘Modiwlau Cysgodi’, sef grwpiau dysgu wedi’u harwain gan fyfyrwyr sy’n cynorthwyo’r modiwlau a addysgir. Mae’r allbynnau’n cael eu rhannu â’r grŵp cyfoedion ehangach gan ddefnyddio TGCh (GoogleDrive, Wikis, Prezi, y cyfryngau cymdeithasol), felly nid yw’r manteision wedi’u cyfyngu i’r cyfranogwyr gweithgar, ond maen nhw ar gael i bob myfyriwr ar y modiwl, yn ogystal â myfyrwyr y dyfodol. Mae’r myfyrwyr yn gweld y rhain yn ddefnyddiol ac yn effeithiol wrth gynorthwyo eu gwaith dysgu ar fodiwl. Yn ogystal, agwedd arwyddocaol ar y dull hwn yw bod y Modiwlau Cysgodi’n rhoi adborth i’r modiwl academaidd ei hun a dangoswyd iddynt ddylanwadu ar gynllunio’r sesiynau addysgu a’r cwricwlwm ei hun, fel bod y myfyrwyr yn bartneriaid gweithredol go iawn yn y profiad Addysg Uwch.

Bydd y prosiect hwn yn asesu effaith 3 model ar gyfer Modiwlau Cysgodi:

a)      Grwpiau astudio cydweithredol, mae’r myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd, yn datrys problemau, yn dylunio eu hadnoddau eu hunain ac yn rhannu’r allbwn â’u cymheiriaid drwy TGCh.

b)      Addysgu cyfoedion, lle mae cyfoed agos o garfan flaenorol y modiwl, neu nifer o’r grŵp cyfoedion eu hunain, yn rhedeg sesiynau addysgu didactig i fyfyrwyr.

c)       Cymorth drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mae nifer bach o unigolion yn nodi adnoddau astudio ffynhonnell agored, yn rhannu nodiadau neu’n ateb cwestiynau drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Nod y prosiect yw nodi cryfderau a chyfyngiadau’r naill ddull a’r llall, er mwyn cynhyrchu arweiniad i sefydlu’r cynlluniau hyn mewn Ysgolion/SAUau eraill. Hefyd dadansoddir y berthynas rhwng y dulliau dysgu a’r agweddau at ddysgu. Myfyrwyr sy’n ymchwilio fydd yn casglu ac yn dadansoddi’r data, gan ddilyn ethos y Modiwlau Cysgodi eu hunain lle mae myfyrwyr yn arwain.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Steve Rutherford (BIOSI, RutherfordS@cf.ac.uk)

Enghreifftiau o allbynnau Modiwlau Cysgodi blaenorol gan fyfyrwyr y Biowyddorau:

http://bit.ly/shared-doc-b   (http://biosi.wikispaces.com)

http://prezi.com/6omfwogb8zez/nuclear-transport

 

Yn ogystal enillodd Dr Keren Williamson o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Grant Datblygu Addysgu i ymgymryd â phrosiect a fydd yn rhoi fframwaith i arweinwyr sy’n fyfyrwyr i gydweithio â staff academaidd er mwyn ddatblygu deunyddiau addysgu newydd ac er mwyn grymuso myfyrwyr i ddylunio a chyflwyno elfennau sy’n cefnogi eu cwricwlwm.

Keren Williamson

Partneriaethau sy’n grymuso ar gyfer dysgu cydweithredol – pennu gweithgareddau ac adnoddau ar gyfer dysgu hyblyg gyda chyfoedion ac oddi wrthynt ar draws disgyblaethau yn y gwyddorau gofal iechyd.

Myfyrwyr gofal iechyd israddedig yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a ddechreuodd y prosiect hwn ar ôl dangos diddordeb mewn dysgu gydag ac oddi wrth eu cyfoedion a’r rhai sydd bron yn gyfoedion iddynt ar draws y disgyblaethau gofal iechyd mewn gweithgareddau dysgu cydweithredol.

CB & SB pic

Bu dwy o arweinwyr y myfyrwyr, sef Stephanie Bird, sydd newydd raddio â BSc (anrh) mewn Radiotherapi ac Oncoleg, a Claire Blakeway, sydd newydd raddio â BSc (anrh) Radiotherapi a Delweddu Diagnostig, ac sy’n Is-Lywydd newydd Undeb y Myfyrwyr y Mynydd Bychan, yn helpu i ddatblygu’r cais. Mynychon nhw Ddiwrnod Sefydlu Grantiau Datblygu Addysgu’r Academi Addysg Uwch yn Birmingham lle buon nhw’n cymryd rhan yn frwd mewn gweithgareddau a oedd yn ymwneud â rheoli prosiectau gyda staff o SAUau eraill.  Steph a Claire oedd yr unig ddwy fyfyrwraig yn y digwyddiad sefydlu ac roeddynt yn llysgenhadon gwych i Brifysgol Caerdydd ac yn dyst i werth gwneud ymchwil gydweithredol gyda myfyrwyr.