Lansiwyd y cynllun hwn ar 1 Gorffennaf i gymryd lle’r cynllun ‘Taliadau Dewisol’. Fel yr awgryma’r enw, cafodd ei ddatblygu i wobrwyo a chydnabod staff y mae eu cyfraniad yn mynd y tu hwnt i’r safonau disgwyliedig ac sydd wedi bod yn eithriadol ac yn deilwng o gydnabyddiaeth arbennig. Gwahoddir ceisiadau am wobrau a chânt eu hasesu ar draws y Brifysgol yn flynyddol ar adeg benodol bob blwyddyn.
Mae’r holl staff (ac eithrio staff a gynhwysir yn y Cynllun Adolygu Cyflogau Uwch) yn gymwys ar gyfer y wobr hon. Mae ceisiadau’n gymwys i’w hystyried gan staff waeth beth fo’u trefniadau cytundebol ac ni waeth a yw’r swydd yn cael ei hariannu’n allanol.
Mae dau fath o wobr:
Dyfarniad ar ffurf cyfandaliad amhensiynadwy untro am gyfraniad a pherfformiad eithriadol i’r brifysgol yw’r ‘Wobr Untro ar gyfer Cyfraniad Eithriadol’. Bydd yr aelod o staff yn cael ei gydnabod fel esiampl a pherfformiwr rhagorol yn y maes perthnasol o fewn y cyfnod asesu.
Taliad cyfunol o hicyn carlam neu bwynt cyfraniad sy’n bensiynadwy yw’r ‘Wobr ar gyfer Cyfraniad Eithriadol Parhaus’. Fe’i dyfernir lle cydnabyddir cyfraniad eithriadol y tu hwnt i rôl a chyfrifoldebau’r unigolyn dros o leiaf dwy flynedd, a lle na roddwyd Gwobr Untro ar gyfer Cyfraniad Eithriadol o fewn y cyfnod asesu.
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, anogir y rheolwyr llinell i adolygu cyfraniad yr holl staff yn eu meysydd, a lle byddant yn teimlo ei bod hi’n briodol, gwneud argymhelliad am wobr i gyswllt perthnasol yr Ysgol a restrir isod. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2014 am 5pm. Yna bydd y ceisiadau’n cael eu hadolygu ar lefel yr Ysgol cyn cael eu hadolygu ar lefel y Coleg.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Brifysgol maes o law. Fel arall, siaradwch â chyswllt lleol eich Ysgol:
Meddygaeth – Ali Tovar
Deintyddol – Lesley Bennison
Addysg Feddygol a Deintyddol i Raddedigion – Justine Cooper / Sally Walsh
Optometreg – Fliss Brooks
Fferylliaeth – Fliss Brooks
Seicoleg – Elaine Rees
Gofal iechyd – Linda Thomas
Biowyddoniaeth – Karen Fitzgibbon
Coleg – Kathryn Davies/ Antonia Faithfull
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ewch i: http://www.cardiff.ac.uk/humrs/staffinfo/policyprocedures/discretionary-payments.html