Menter newydd yn cefnogi ymchwil bioleg synthetig yng Nghaerdydd
Mae academyddion ar draws Prifysgol Caerdydd yn cael cyfle i ddatblygu ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar fioleg synthetig fel rhan o ymrwymiad ariannol sylweddol gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Menter Bioleg Synthetig Caerdydd wedi’i chynllunio i ariannu nifer o brosiectau byr (tua 12 mis) ar gyfer hyrwyddo a datblygu maes cyffrous bioleg synthetig yng Nghaerdydd. Mae cefnogi dilyniant gyrfa a chadw staff ymchwil eithriadol a fydd yn datblygu eu gyrfaoedd mewn bioleg synthetig hefyd yn rhan allweddol o’r fenter hon. Nod arall y gronfa yw hyrwyddo cysylltiad â’r Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth (IKC) mewn Bioleg Synthetig yn y Coleg Imperialaidd (SynbiCITE), y mae Prifysgol Caerdydd yn bartner academaidd ynddi.
Dywed yr Athro Jim Murray, sy’n arwain Menter Bioleg Synthetig Caerdydd yng Nghaerdydd, “Mae Bioleg Synthetig yn dod ag ystod amrywiol o weithgareddau at ei gilydd ar draws peirianneg, cyfrifiaduro, a gwyddorau ffisegol, biolegol a biofolecwlaidd i ganolbwyntio ar atebion i rai o’r Heriau Mawr y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw. Ein nod yw nid yn unig cynyddu’r prosesau cymhleth sy’n digwydd o fewn systemau biolegol o organebau cyfan i’r graddfeydd cellog a molecwlaidd, ond datblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio’r ddealltwriaeth hon at ddibenion defnyddiol mewn diwydiant, meddygaeth, amaethyddiaeth ac mewn mannau eraill. Er enghraifft, rydym ni eisiau datblygu technegau ar gyfer ffabrigo mathau newydd o ddyfeisiau sydd ag elfennau synhwyro biolegol, sy’n golygu gweithio ar ryngwyneb systemau ffisegol a biolegol. Rydym ni hefyd eisiau ymchwilio i ddulliau ar gyfer gwneud cemegolion newydd trwy ail-raglennu systemau biolegol i’w cynhyrchu nhw ar ein cyfer ni, mewn ffyrdd a fydd yn fwy glân a mwy gwyrdd na diwydiant cemegol confensiynol.”
“Ein gweledigaeth yw creu canolfan ddynamig bioleg synthetig entrepreneuraidd yng Nghaerdydd, ac rydym ni’n gyffrous i fod yn rhan o’r ganolfan genedlaethol yn SynbiCITE a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig i adeiladu ymhellach ar ein cydweithio â diwydiant i fasnacheiddio cynnyrch a gwasanaethau newydd yn y maes hwn sy’n ehangu’n gyflym”.
Mae pump o brosiectau bioleg synthetig eisoes wedi cael eu gwobrwyo o dan y cynllun hwn i ymchwilwyr yn yr ysgolion Cemeg, Peirianneg a Biowyddorau, sy’n amlygu natur draws-ddisgyblaethol y maes ymchwil hwn sy’n ehangu’n gyflym.
Mae bioleg synthetig yn cynnwys dylunio systemau newydd o “flwch offer” o elfennau biolegol, sydd yn ei hanfod fel dylunio a chydosod cylched electronig newydd. Neu gall gynnwys ail-raglennu ac ail-ddylunio systemau biolegol sy’n digwydd yn naturiol. Y nod yw creu cynnyrch dibynadwy i’w defnyddio mewn ystod eang o gymwysiadau. Trwy gymhwyso egwyddorion peirianneg i fioleg, mae gan fioleg synthetig y potensial i ddarparu atebion newydd ar gyfer rhai o’r prif heriau rydym ni’n eu hwynebu mewn cymdeithas, mewn meysydd fel gofal iechyd, ynni a’r amgylchedd. Mae hyn i gyd yn bosibl gan ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y degawd diwethaf o ran deall systemau biolegol, ynghyd â chamau enfawr yn y modd yr ydym yn cyfosod a dadansoddi DNA.
Deiliad presennol gwobr Menter Bioleg Synthetig Caerdydd yw’r Athro Eshwar Mahenthiralingam o Ysgol y Biowyddorau Caerdydd sy’n gosod y sylfeini ar gyfer cynllunio synthetig bacteria Burkholderia, fel organeb letyol neu “siasi” newydd i’w defnyddio mewn bioleg synthetig: “Mae bacteria Burkholderia yn digwydd gan amlaf mewn natur, yn enwedig o amgylch gwreiddiau cnydau pwysig. Mae ganddyn nhw lawer o swyddogaethau pwysig fel gwneud gwrthfiotigau, ensymau masnachol, torri llygryddion i lawr, hyrwyddo tyfiant planhigion a diogelu cnydau rhag clefydau. Trwy gynllunio’r swyddogaethau buddiol hyn ac elwa arnyn nhw, mae gennym ni gyfle cyffrous i gyflwyno cyfres o offer bioleg synthetig ar gyfer ymchwil a defnydd biodechnegol ehangach yn y pen draw”.
Cyhoeddwyd galwad newydd, yn gwahodd rhagor o geisiadau am brosiectau ymchwil newydd mewn bioleg synthetig, hyd at uchafswm o £46,500. Dyma yw prif nodau Menter Bioleg Synthetig Caerdydd:
- Hyfforddi neu ailhyfforddi ymchwilwyr ôl-ddoethurol sydd â diddordeb ac wedi eu cymell, i ddarparu sgiliau ymchwil hanfodol ar gyfer bioleg synthetig
- Darparu data a hanes er mwyn cael cyllid allanol trwy SynbiCITE, RCUK, diwydiant, ac ati, yn ogystal â chymrodoriaethau datblygu gyrfa annibynnol mewn bioleg synthetig yn y 1-2 flynedd nesaf.