Llongyfarchiadau i Dr John Gallacher o’r Ysgol Feddygaeth, sydd wedi sicrhau £7.5 miliwn ychwanegol ar gyfer cam dau rhaglen y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) sy’n werth miliynau o bunnoedd, sef ‘Platfform Ymchwil i Ddementiâu y DU (UKDP)’, sydd â’r nod o gyflymu cynnydd mewn ymchwil i ddementia.
Mae UKDP yr MRC, a lansiwyd y mis hwn, yn bartneriaeth gyhoeddus-breifat a fydd yn uno cyfoeth o bartneriaid a gwybodaeth mewn ymgyrch o’r newydd i ddeall dechrau a datblygiad clefyd niwroddirywiol. Bydd y Platfform yn cyfuno dull cysyniadol eang â thechnolegau arloesol a grym ystadegol sylweddol, gan integreiddio cryfderau’r DU mewn niwrowyddoniaeth, gwyddor boblogaeth a gallu ymchwil glinigol.
Dyfarnwyd cyllid cam cyntaf o £4.5 miliwn i’r prosiect yn 2013, gyda Dr Gallacher yn arwain y prosiect, a thîm gweithredol o ymchwilwyr o chwe sefydliad: Caergrawnt, Caeredin, Coleg y Brenin Llundain, Coleg Imperial Llundain, Coleg Prifysgol Llundain ac Abertawe, ynghyd ag Uned yr MRC ar gyfer Iechyd Gydol Oes a Heneiddio sydd wedi’i lleoli yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Bydd cam un, a fydd yn dechrau’r mis hwn, yn datblygu Platfform newydd, sef canolfan wybodeg borthol sengl, a fydd yn darparu dull unigryw o fynd i’r afael ag ymchwil i ddementiâu, gan edrych ar y corff cyfan yn hytrach na’r ymennydd yn unig.
Mae Dr Gallacher wedi sicrhau cyllid cam 2 o £7.5 miliwn. Mae cynnig cam 2 yn canolbwyntio ar ddarparu adnoddau strategol ar gyfer Meddygaeth Frys trwy gyfoethogi carfanau a ddewiswyd yn strategol, mynd i’r afael â materion methodolegol allweddol ac ysgogi rhaglen o astudiaethau meddyginiaeth arbrofol.
Disgwylir i’r platfform gael ei ddatblygu ymhellach wrth i’r cyfleoedd a ddarperir ganddo gael eu deall yn ehangach. Er enghraifft, yn seiliedig ar ragfynegiadau ynglŷn â gallu’r platfform i ffurfio haenau risg yn gywir, mae’r MRC a NIHR wedi ariannu astudiaeth ddichonoldeb Ffenoteipio dwfn ac aml (DFP) yn ddiweddar gyda’r bwriad o ddarparu £5 miliwn ychwanegol ar gyfer yr astudiaeth lawn. Gellid ystyried y prosiect DFP yn ddatblygiad cam 3 o UKDP, ac mae’n enghraifft o sut y gellir defnyddio UKDP i sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer ymchwil i ddementiâu.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://medicine.caerdydd.ac.uk/news/cardiff-lead-new-mrc-uk-dementias-research-platform/
****
Mae dau aelod o staff y Coleg wedi llwyddo i ennill cynigion ar gyfer dyfarniadau addysgu gan yr Academi Addysg Uwch (HEA) ym maes dysgu cydweithredol.
Mae Dr Stephen Rutherford o Ysgol y Biowyddorau wedi ennill Grant Datblygu Addysgu gan yr HEA i gynnal yr astudiaeth ‘Modiwlau Cysgod’ er mwyn nodi’r ymarfer gorau ar gyfer cynnal gweithgareddau cydweithredol.
Mae Dr Keren Williamson o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi ennill Grant Datblygu Addysgu hefyd i gynnal prosiect a fydd yn darparu fframwaith i arweinwyr myfyrwyr gydweithio â staff academaidd er mwyn datblygu deunyddiau addysgol newydd ac i rymuso myfyrwyr i gynllunio a chyflawni elfennau sy’n cefnogi eu cwricwlwm.
Cafwyd 230 o geisiadau o bob rhan o’r DU, a dyfarnwyd 12 grant yn unig. Felly, llongyfarchiadau i Stephen a Karen.