Roedd nifer o aelodau staff y Coleg ymhlith yr enillwyr yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enwyd Dr Sally Anstey o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn Diwtor Personol y Flwyddyn. Dywedodd enwebwr Sally: “Mae Sally wedi dangos cymaint o garedigrwydd, cefnogaeth ac anogaeth – ni allwn fod wedi gofyn am […]




Adolygiad Sefydliadol Cynhaliodd Adolygwyr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ymweliad ym mis Ebrill yn dilyn eu hymweliad tîm cyntaf ym mis Chwefror. Cyfarfu’r Adolygwyr â nifer o grwpiau staff a chanddynt wahanol gyfrifoldebau, gan gynnwys staff darlithio, staff proffesiynol ac uwch aelodau staff o bob rhan o’r Brifysgol. Gwnaethant hefyd gyfarfod ag ystod o fyfyrwyr (israddedig, […]


Prifysgol Feddygol y Brifddinas (CMU), Beijing: Bydd cryfhau cydweithrediadau rhyngwladol yn rhoi hwb ychwanegol i enw da rhyngwladol y Coleg a’r Brifysgol, yn unol ag agenda ‘Y Ffordd Ymlaen’ y Brifysgol. Mae’r prosiect Prifysgol Feddygol y Brifddinas yn fenter strategol allweddol i ysgogi symudedd myfyrwyr rhyngwladol i mewn ac allan, datblygu rhaglenni gradd cydweithredol a […]


Cefnogaeth Academaidd: Galluogi Llwyddiant Myfyrwyr – Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Caerdydd Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2014 – Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maindy Mae systemau cefnogaeth academaidd yn ddull pwysig o alluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau, y perthnasoedd a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i ffynnu yn y Brifysgol. Gan fod llawer o enghreifftiau arloesol yn […]



Mae dau Bennaeth Ysgol newydd wedi’u penodi’n ddiweddar. Dechreuodd yr Athro John Bligh yn ei swydd fel Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth yn gynharach y mis hwn. Ymunodd John â’r Brifysgol yn 2010 fel Deon Addysg Feddygol ac mae wedi bod yn goruchwylio adolygiad cwricwlwm C21. Mae’r Athro Marcela Votruba bellach yn Bennaeth yr Ysgol Optometreg […]


Mae ymrwymiad staff yn y Coleg wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth y Brifysgol. Mae’r gwobrau, sydd yn eu hail flwyddyn, yn cynrychioli gwerthfawrogiad y Brifysgol o staff sydd wedi dangos ymrwymiad a chyfraniad eithriadol, ac sy’n cael eu cydnabod am ragoriaeth yn eu gwaith. Enillydd y wobr Cyfraniad Eithriadol at Arweinyddiaeth oedd yr Athro […]