Mae’r tîm Gwasanaethau Proffesiynol wedi croesawu dau aelod staff newydd y mis hwn: Lizanne Duckworth a Jeff White.

Lizanne Duckworth – Partner Busnes Cynllunio

  • Uwch Swyddog Cynllunio yn nhîm Gwybodaeth a Dadansoddi’r Is-adran Gynllunio, â chyfrifoldeb penodol am gyd-drefnu’r gwaith o gynllunio niferoedd myfyrwyr a chefnogi prosesau adolygu Cynllunio, Cyllidebu a Pherfformiad y Brifysgol;
  • Darparu cymorth wedi’i neilltuo ar gyfer Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd fel Partner Busnes y Coleg Cynllunio;
  • Ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi ar gyfer amrywiol gyrff llunio polisïau a chynghori’r Brifysgol, gan gyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaeth y Brifysgol ymhellach.

Jeff White – Cyfrifydd Rheoli’r Coleg

  • Cynorthwyo’r Uwch Gyfrifydd Rheoli ag adroddiadau ariannol ar gyfer Bwrdd y Coleg, gan gynnwys cynllunio, rhagweld a monitro gwariant.
  • Cysylltu ag Ysgolion i ddarparu gwasanaeth cyfrifyddu rheoli llawn, gan gynnwys gosod, monitro a rheoli cyllidebau.
  • Datblygu a chynnal systemau, adroddiadau a gweithdrefnau cyfrifyddu drwy’r Coleg.