Mae’r Coleg yn gweithio’n galed i gefnogi gweithgarwch academaidd. Dyma rai enghreifftiau o waith sydd eisoes yn mynd rhagddo:
- Mae Bwrdd Ystadau’r Coleg wedi’i sefydlu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob Ysgol, myfyrwyr, Ystadau a’r GIG er mwyn dwyn ynghyd ceisiadau am waith adeiladu ac argymell blaenoriaethau i’w cymeradwyo gan Fwrdd y Coleg.
- Mae Partner Busnes Adnoddau Dynol y Coleg, Kim Newcombe, yn adolygu’r strwythur cymorth Adnoddau Dynol yn y Coleg ac rydym wedi hysbysebu nifer o swyddi’n ddiweddar i ddarparu mwy o gapasiti. Bydd adolygiad tebyg o gymorth cyllid yn dilyn.
- O ran yr Athrofa Addysg Feddygol a Deintyddol, mae dau grŵp gweithredol wedi’u sefydlu, sef y ‘Grŵp Cynllunio Addysg’ a’r ‘Grŵp Cynllunio Rheoli’. Bydd y grwpiau hyn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol o’r tair Ysgol i werthuso nifer o ddewisiadau ym meysydd rhyngbroffesiynoldeb, ysgoloriaeth addysgol, astudiaethau ôl-raddedig, datblygiad proffesiynol parhaus, a rheoli’r agweddau hyn. Bydd y grwpiau hyn yn gwneud argymhellion i Grŵp Datblygu’r Athrofa. Yn seiliedig ar argymhellion y grwpiau gweithredol, bydd achos busnes yn cael ei baratoi a’i gyflwyno i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ym mis Ionawr 2014.