Mae’n ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol ymysg plant a’u teuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau. Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn newyddion am ein digwyddiadau a chyhoeddiadau rhad ac am ddim a chost isel: CASCADE@caerdydd.ac.uk
Bydd yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:
- Cynhyrchu tystiolaeth mewn ymchwil sylfaenol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol.
- Trefnu bod canlyniadau’r ymchwil hon, ac ymchwil a wneir mewn mannau eraill, ar gael ar ffurf hwylus i blant a theuluoedd sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol a gwneuthurwyr polisi.
- Ymgysylltu ag ystod o gydweithwyr mewn ymchwil gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi a darparwyr gofal cymdeithasol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
- Datblygu’r gallu i ymchwilio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy gynnig cyfleoedd i ymchwilwyr o’r cyfnod israddedig drwodd i gyfnod gyrfa uwch.
Mae CASCADE mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad unigryw at ymchwil ar ofal cymdeithasol i blant yng Nghymru. Nodweddion arbennig y ganolfan yw:
- mai dyma’r unig ganolfan o’i math yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ymchwil mewn gofal cymdeithasol i blant.
- bod gan y ganolfan gysylltiadau cryf â pholisi ac ymarfer ill dau. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phrosesau polisi Llywodraeth Cymru, ymwneud yn agos ag awdurdodau lleol ac elusennau plant, a grŵp cynghori ymchwil o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae gan academyddion a myfyrwyr doethuriaeth y ganolfan doreth o brofiad mewn polisi ac mewn ymarfer, ac mae gan lawer ohonyn nhw yrfa bresennol neu yrfa flaenorol mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
- bod gan aelodau’r ganolfan hanes llwyddiannus o sicrhau cyllid grant o amryw o ffynonellau, gan gynnwys y cynghorau ymchwil, y llywodraeth a’r sector gwirfoddol.
- bod gan academyddion y ganolfan hanes sefydledig o arbenigedd methodolegol mewn ystod amrywiol o ddulliau ymchwilio, gan gynnwys cynlluniau ansoddol a meintiol, sy’n gadael y ganolfan mewn sefyllfa dda i ymateb i ystod eang o gwestiynau polisi. Mae’r rhain yn cynnwys ethnograffeg, ymchwil baratoadol, dadansoddiadau eilaidd ar setiau data carfannau a setiau data rhigolaidd ac ymwneud â hap-dreialon wedi’u rheoli.
- nifer fawr o fyfyrwyr doethuriaeth (15+) sy’n gweithio ar bynciau o sylwedd mewn gofal cymdeithasol i blant.