I ymweld â’n gwefan newydd, ewch i: www.corcencc.cymru
Gwybodaeth…

Casgliad o ddata iaith o gyd-destunau go iawn yw corpws. Mae’n galluogi defnyddwyr i amlygu ac astudio iaith fel y mae’n cael ei defnyddio mewn gwirionedd yn hytrach na dibynnu ar reddf neu gyfarwyddiadau rhagnodol o sut ‘dylai’ gael ei defnyddio. Mae hyn o fudd i ymchwilwyr academaidd, geiriadurwyr, athrawon, dysgwyr iaith, aseswyr, datblygwyr adnoddau, llunwyr polisi, cyhoeddwyr, cyfieithwyr ac eraill drwy roi tystiolaeth gadarn iddynt. CorCenCC yw’r corpws cyntaf i gynrychioli Cymraeg modern ac mae’n chwyldroadol gan mai cymunedau sy’n ei arwain. Mae’n defnyddio technolegau symudol a digidol i alluogi cydweithio cyhoeddus.
Mae’r prosiect yn torri tir newydd fel adnodd iaith a model o adeiladu corpws, achefyd yn cynnig manteision cymdeithasol, economaidd ac academaidd. Mae’r rhain yn cynnwys hwyluso defnyddio’r Gymraeg mewn lleoliadau cyhoeddus, masnachol, addysgol a llywodraethol. Mae hefyd yn ailddatblygu cwmpas, perthnasedd a seilwaith dylunio methodoleg datblygu corpws. Mae CorCenCC yn cynorthwyo datblygiad technolegau hefyd megis darogan testun, offer prosesu geiriau, cyfieithu peirianyddol, adnabod llais ac offer chwilio’r we. Hyd yma, nid yw’r Gymraeg erioed wedi cael corpws cynhwysfawr i gyflawni a galluogi’r datblygiadau hyn.