Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd

Dwyn arbenigedd ynghyd sy'n arwain y byd mewn delweddu ymennydd, gan ddefnyddio mapio ac ysgogiad i ddeall achosion cyflyrau niwrolegol a seiciatrig.

Gyda chyfuniad o offer niwroddelweddu unigryw yn Ewrop, rydym yn gweithio i ddeall yr ymennydd ac achosion sylfaenol cyflyrau niwrolegol a seiciatrig.

Rydym yn ymgymryd â dulliau ymchwil arloesol wrth ymdrin ac yn ei gymhwyso i gwestiynau seicolegol a chlinigol allweddol.

Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd PhD yn ogystal â MSc mewn Dulliau a Chymwysiadau Niwroddelweddu.

Rydym yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau sy'n arddangos ein gwaith ymchwil ac yn ennyn diddordeb ein myfyrwyr, staff a'r cyhoedd ehangach

Ymunwch â chymuned amlddisgyblaethol, fywiog a deinamig sy'n meithrin ymchwil sy'n arwain y byd.

Darganfyddwch sut y gallwch ddefnyddio ein cyfleusterau at ddibenion ymchwil, masnachol neu glinigol.

Newyddion diweddaraf

Yr Athro Derek Jones yn edrych ar sgrin yn arddangos model ymennydd

Creu partneriaeth i ddeall dementia yn well

12 Mawrth 2024

Bydd partneriaeth newydd yn gwella dealltwriaeth wyddonol o'r newidiadau yn yr ymennydd sy'n digwydd yn sgil clefyd Parkinson ac Alzheimer

Yr Athro Derek Jones, Yr Athro Marianne van den Bree, yr Athro Rogier Kievit a'r Athro Sarah-Jayne Blakemore

Deall datblygiad ymennydd plant yn well

31 Ionawr 2024

Mae Dyfarniad Cyllid Darganfod gan Wellcome yn cyllido astudiaeth newydd fydd yn nodweddu datblygiad yr ymennydd yn ystod plentyndod a glaslencyndod mewn manylder na welwyd ei debyg o’r blaen

Ffotograff o saith ymchwilydd ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Digwyddiad cyflwyno ymchwil Prifysgol Caerdydd ar Affrica

14 Rhagfyr 2023

Digwyddiad sy’n dod â staff y Brifysgol ynghyd i ysbrydoli rhagor o waith ar Affrica.