{"id":5767,"date":"2024-07-24T10:07:29","date_gmt":"2024-07-24T09:07:29","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=5767"},"modified":"2024-12-05T13:36:33","modified_gmt":"2024-12-05T13:36:33","slug":"ymgorffori-cyflogadwyedd-yn-y-cwricwlwm","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/ymgorffori-cyflogadwyedd-yn-y-cwricwlwm\/","title":{"rendered":"Mewnosod Cyflogadwyedd o fewn y cwricwlwm"},"content":{"rendered":"<p>Mae cyflogadwyedd yn flaenoriaeth gynyddol ym maes addysg uwch, ac mae\u2019n ffactor sy\u2019n dylanwadu fwyfwy ar fyfyrwyr wrth iddyn nhw ddewis pwnc eu gradd neu brifysgol.<\/p>\n<p>Fel yr amlygwyd mewn <a href=\"https:\/\/www.ucas.com\/file\/435551\/download?token=VUdIDVFh\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">adroddiad diweddar gan UCAS<\/a> yn seiliedig ar arolwg a gwblhawyd gan 27,000 o unigolion, mae rhagolygon cyflogadwyedd a gyrfaol wedi dod yn fwyfwy pwysig dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd fe nododd dros 50% o ymgeiswyr bod &#8216;cyfraddau uchel o gyflogaeth ymhlith graddedigion wedi dod yn bwysicach iddyn nhw ers dechrau&#8217;r pandemig&#8217;. Ar ben hynny, dywedodd 54% o ymgeiswyr mai \u201crhagolygon gyrfaol da ar \u00f4l graddio\u201d a wnaeth eu cymell wrth ddewis pwnc. Dyma&#8217;r ail ffactor y cyfeiriwyd ato fwyaf ar \u00f4l &#8216;mwynhad o\u2019r pwnc&#8217; (74%). Mae&#8217;r adroddiad yn dangos hefyd mai &#8216;datblygu sgiliau&#8217; (63%) a chael &#8216;swydd werth chweil&#8217; (62%) oedd yr ystyriaethau pwysicaf pan ofynnwyd iddyn nhw am yr hyn yr hoffen nhw ei gael o&#8217;u gradd. Fel y mae&#8217;r blog hwn gan UCAS yn ei awgrymu, &#8216;mae&#8217;r newid gwleidyddol o &#8216;addysg, addysg, addysg&#8217; i &#8216;sgiliau, sgiliau, sgiliau&#8217; yn cael ei adlewyrchu ym meddylfryd yr ymgeisydd erbyn hyn&#8217;.<\/p>\n<div class=\"well\">\n<p>Fe wnaeth yr erthygl hon ar fforwm <a href=\"https:\/\/www.thestudentroom.co.uk\/university\/apply\/employability-questions-you-should-ask-before-choosing-a-university\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">The Student Room<\/a> dynnu sylw at y math o gwestiynau y dylai myfyrwyr fod yn eu gofyn cyn dewis prifysgol.<\/p>\n<ul>\n<li>Beth yw deilliannau cyflogadwyedd graddedigion yn y brifysgol?<\/li>\n<li>Pa yrfaoedd y gallaf eu dilyn o ganlyniad i gwblhau fy ngradd?<\/li>\n<li>A oes lleoliadau gwaith ar gael?<\/li>\n<li>Beth am gyfleoedd menter<\/li>\n<li>A fyddaf yn cael cymorth ac yn defnyddio cyfleusterau a ddefnyddir yn fy niwydiant?<\/li>\n<li>Sut gallaf gael profiad gwaith y tu allan i&#8217;m cwrs?<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/support-students\/student-careers-and-development\/career-options-support\/career-readiness-survey\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">arolwg Parodrwydd Gyrfaol<\/a>, a reolir gan d\u00eem Dyfodol Myfyrwyr ac sy\u2019n cael ei lenwi gan holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan orfodol o gofrestru, yn atgyfnerthu\u2019r syniad bod myfyrwyr yn barod ac yn awyddus i ddatblygu eu cyflogadwyedd ar bob cam o\u2019u llwybr yn y brifysgol. Mae\u2019r arolwg yn amlygu eu hawydd i drafod eu gyrfaoedd yn y dyfodol, ymgymryd \u00e2 phrofiad gwaith a datblygu sgiliau mentergarwch. Mae\u2019r ystadegau isod yn amlygu rhai o\u2019r prif grynodebau o\u2019r arolygon diweddaraf:<\/p>\n<figure id=\"post-6357 media-6357\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2024\/10\/Welsh-Career-Readiness-Stats-scaled.jpg\" alt=\"CU Career Readiness Stats - Welsh version\" \/><\/figure>\n<p>O safbwynt sefydliadol, mae&#8217;n amlwg bod y cyd-destun newidiol o ran polis\u00efau yn rhoi llawer mwy o gyfrifoldeb ar brifysgolion i baratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith. Mae Deilliannau Graddedigion yn dod yn ddull mesur sy\u2019n cael ei bwysoli fwyfwy mewn cynlluniau rheoleiddio fel y <a href=\"https:\/\/www.officeforstudents.org.uk\/for-providers\/quality-and-standards\/about-the-tef\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF)<\/a> a safleoedd tablau cynghrair fel <a href=\"https:\/\/www.thetimes.com\/uk-university-rankings\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">&#8216;Good University Guide&#8217; y Times<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"fact\"><span class=\"fact-bold\">Prifysgol Caerdydd yn y 13eg safle<\/span><a href=\"https:\/\/www.timeshighereducation.com\/student\/best-universities\/best-universities-graduate-jobs-global-university-employability-ranking\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Y prifysgolion gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion 2025, y Good University Guide<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn Lloegr, mae Swyddfa\u2019r Myfyrwyr (OFS) eisoes wedi cyflwyno <a href=\"https:\/\/www.officeforstudents.org.uk\/media\/490d884f-03aa-49cf-907d-011149309983\/condition_b3_baselines.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">mesurau<\/a> a fydd yn gwneud yn si\u0175r bod prifysgolion yn fwy atebol am ganlyniadau myfyrwyr. Bydd rhaglenni yr ystyrir bod ganddyn nhw ddeilliannau &#8216;gwael&#8217; am nad ydyn nhw\u2019n arwain at swyddi i raddedigion yn wynebu camau craffu ychwanegol yn \u00f4l pob tebyg. Yng Nghymru, nid ydym eto\u2019n ymwybodol a fydd y <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/medr\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Comisiwn Addysg ac Ymchwil Trydyddol<\/a> sydd newydd ei sefydlu, a elwid gynt yn Medr, yn cymryd ymagwedd debyg, ond mae eu blaenoriaethau strategol yn amlinellu eu hymrwymiad i ddatblygu \u201cSystem drydyddol sy&#8217;n paratoi dysgwyr ar gyfer economi ddeinamig sy\u2019n newid, lle gall pawb ennill y sgiliau a&#8217;r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd ac ym myd gwaith\u201d.<\/p>\n<figure class=\"image align-none\">Gyda dylanwad cynyddol deilliannau graddedigion ar enw da a dewis myfyrwyr, mae angen i brifysgolion ystyried gosod y metrig hwn ar sail gyfartal \u00e2 metrigau mwy cyfarwydd eraill, fel y mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.hepi.ac.uk\/2023\/03\/13\/graduate-employability-takes-its-place-in-the-top-set-of-the-metrics-battle-so-we-need-to-get-to-know-how-it-works\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">erthygl hon o&#8217;r Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI)<\/a> yn ei awgrymu.<\/figure>\n<p>\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      Er bod llawer yn anghytuno \u00e2'r agenda, mae\u2019r dyfodol yn flaenllaw ym meddyliau\u2019r myfyrwyr pan maen nhw\u2019n cyrraedd. Felly, mae\u2019n bwysig bod yn barod am gyd-destun mwy rheoledig lle \u2013 er ei fod yn faes cymharol newydd o\u2019i gymharu \u00e2 boddhad a chadw myfyrwyr \u2013 mae deilliannau graddedigion yn cael sylw amlwg ym mrwydr y dulliau mesur.    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        Higher Education Policy Institute (HEPI)<cite  class=\"quote-source\"><\/cite>\n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure>.<\/p>\n<p>O ystyried pwysigrwydd deilliannau graddedigion mewn addysg uwch, mae&#8217;n hanfodol bod ein rhaglenni yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd i&#8217;n myfyrwyr gael datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a&#8217;u rhinweddau fel graddedigion. O&#8217;r herwydd, mae Dyfodol Myfyrwyr wedi cynhyrchu ystod o wybodaeth, adnoddau ac astudiaethau achos i gefnogi\u2019r gwaith o gynllunio a chyflwyno&#8217;r cwricwlwm ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/ymgorffori-cyflogadwyedd-ar-lefel-rhaglenni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">lefel rhaglenni<\/a> a modiwlau (mae&#8217;r adran hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae cyflogadwyedd yn flaenoriaeth gynyddol ym maes addysg uwch, ac mae\u2019n ffactor sy\u2019n dylanwadu fwyfwy ar fyfyrwyr wrth iddyn nhw ddewis pwnc eu gradd neu brifysgol. Fel yr amlygwyd mewn [&hellip;]","protected":false},"author":10621,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[74],"tags":[],"class_list":["post-5767","page","type-page","status-publish","hentry","category-cyflogadwyedd"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5767","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10621"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5767"}],"version-history":[{"count":12,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5767\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8159,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5767\/revisions\/8159"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5767"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5767"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5767"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}