{"id":9416,"date":"2026-01-23T15:37:39","date_gmt":"2026-01-23T15:37:39","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/?page_id=9416"},"modified":"2026-04-07T10:36:15","modified_gmt":"2026-04-07T09:36:15","slug":"addysgeg-wyllt","status":"publish","type":"page","link":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/cy\/trosolwg-or-themau\/cynaliadwyedd\/cynaliadwyedd-cyflogadwyedd-a-menter-partneriaethau-mewn-addysg-ar-gyfer-datblygu-cynaliadwy\/addysgeg-wyllt\/","title":{"rendered":"Addysgeg wyllt"},"content":{"rendered":"<p><strong><span class=\"cf0\">Beth yw addysgeg wyllt?<\/span><\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-9547 media-9547\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/files\/2026\/04\/trees-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p><!--StartFragment --><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Ffordd o ailystyried ein perthynas \u00e2 phrofiadau dysgu yw addysgeg wyllt. Eu nod yw cefnogi dysgwyr i ailystyried yn feirniadol ystyr dysgu mewn cyd-destunau gwahanol a sut mae dysgu&#8217;n dod i&#8217;r amlwg yn y mathau o berthynas rhwng y byd dynol a&#8217;r byd y tu hwnt i\u2019r ddynolryw. Mae addysgeg wyllt yn ehangu ar feithrin dysgu o brofiad yng ngwaith John Dewey ond yn pwysleisio natur a phrofiadau byd natur sy\u2019n gyd-athro yn y broses ddysgu, gan ystyried yr hyn mae\u2019n ei olygu i ddysgu yn ein disgyblaethau a sut mae hynny&#8217;n ein cysylltu \u00e2&#8217;r amgylchedd ehangach. Gan ddeillio o&#8217;i wreiddiau etymolegol, mae&#8217;r term &#8216;addysgeg wyllt&#8217; yn awgrymu addysgeg sy&#8217;n cwmpasu rhyw lun ar hunanewyllys, sef addysgeg sy\u2019n ewyllysio ei hun ac yn deall bod sawl ewyllys eisoes yn cystadlu \u00e2\u2019i gilydd bob amser i godi eu llais a gweithredu: gan gynnwys hunanewyllys yr athro, hunanewyllys y myfyrwyr a hunanewyllys y tir, neu fyd natur yn ehangach (Quay a Jensen 2018). Bydd addysgeg wyllt felly yn ymgysylltu&#8217;n bwrpasol \u00e2&#8217;r ewyllysiau hynny y tu <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Wrth gysylltu theori ag ymarfer, yn sgil addysgeg wyllt cr\u00ebwyd chwe maen prawf allweddol (a ddisgrifir isod) i atgoffa, herio a bod yn lle i ddychwelyd ato i addysgwyr sydd \u00e2 diddordeb mewn arbrofi ag addysgeg wyllt. Maen nhw\u2019n cynnig cwestiynau y gall addysgwyr eu gofyn bob dydd er mwyn atgoffa eu hunain o&#8217;r hyn maen nhw&#8217;n ceisio ei wneud yn eu gweithgareddau beunyddiol. I rai, bydd addysgeg wyllt yn cydnabod yr hyn y maen nhw eisoes yn ei wneud. I bobl eraill hwyrach y bydd yn ysbrydoli\u2019r broses o wylltio eu harfer, gan roi\u2019r cyfle iddyn nhwthau a\u2019u myfyrwyr fynd i wylltni lleoedd mewn ffordd ddyfnach (Blenkinsop, Morse, a Jickling 2022).<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\"> Chwe phrif faen prawf Addysgeg Wyllt yw:<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">1. Asiantaeth ddynol a r\u00f4l byd natur yn gyd-athro<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">2. Gwylltni a syniadau heriol am reolaeth<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">3. Cymhlethdod, yr anhysbys a digymhellrwydd<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">4. Lleoli&#8217;r gwyllt<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">5. Amser ac ymarfer<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">6. Newid diwylliannol<\/span><!--EndFragment --><\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Pam mae Addysgeg Wyllt yn fuddiol i brofiadau dysgu?<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-1\"><p><!--StartFragment --><span class=\"cf0\">Yn aml, bydd yr awydd am reolaeth yn dod i\u2019r amlwg yn ein sefydliadau addysgol mewn ffyrdd sy'n gwneud pethau'n fesuradwy, yn arferol, yn gyfanfydol, gan gyfyngu yn y pen draw ar ffyrdd o fod. Mae'n dod i\u2019r amlwg mewn sawl ffordd trwy gydol addysg - gan wthio yn aml arferion addysgol i ffyrdd rhesymolaidd penodol o weld y byd (Morse, Blenkinsop a Jickling, 2021). Mae addysgeg wyllt yn caniat\u00e1u ffordd o gwestiynu hyn ac yn cefnogi llwybrau i ddysgwyr ddatblygu sgiliau, mathau o wybodaeth a phrofiadau gwahanol sy'n caniat\u00e1u iddyn nhw ddatblygu ffordd amlweddog o weld, gweithredu a bod yn y byd.<\/span><!--EndFragment --><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Sut gall hyn gefnogi Addysg Datblygu Cynaliadwy yn fy ymarfer dysgu ac addysgu?<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-2\"><p><!--StartFragment --><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Mae addysgeg wyllt yn cefnogi, yn gwella ac yn datblygu\u2019r broses o fyfyrio mewn profiadau dysgu, yn enwedig mewn perthynas \u00e2 deall a datblygu ein perthynas y tu hwnt i\u2019r ddynolryw. Mae\u2019n cefnogi dealltwriaeth sy'n helpu dysgwyr i ddeall a gweithredu 8 cymhwysedd cynaliadwyedd UNESCO sydd eu hangen er mwyn dysgu a byw yn ystod cyfnod o amlargyfwng.<\/span><\/p>\n<p><!--EndFragment --><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Astudiaeth achos: Dr Kevin Smith, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-3\"><p><!--StartFragment --><\/p>\n<p class=\"pf0\"><strong><span class=\"cf0\">Ychydig eiriau amdanoch chi eich hun a sut y daethoch chi'n ymwybodol o addysgeg wyllt <\/span><\/strong><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Fy enw i yw Dr Kevin Smith, ac rwy\u2019n Ddarllenydd Addysg ac yn arwain y T\u00eem Addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar theori cwricwlwm, dulliau o ailgysyniadu\u2019r cwricwlwm ac ymchwil agos-i\u2019r-ymarferol sy'n dadansoddi profiadau addysgol a'i ddylanwad ar unigolion a chymdeithas. Mae fy modiwl Addysg Radical yn gwahodd myfyrwyr i gamu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac ystyried sut mae dysgu'n datblygu drwy ein perthynas \u00e2 lle, ein gilydd a'r byd y tu hwnt i\u2019r ddynolryw. Mae fy niddordeb mewn addysgeg wyllt yn deillio o athroniaeth John Dewey o brofiad, gan gynnwys fy ymchwil barhaus i theori cwricwlwm sy\u2019n canolbwyntio ar ddysgu seiliedig ar le a dysgu gan ddefnyddio\u2019r corff. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><strong><span class=\"cf0\">Sut mae addysgeg wyllt wedi cefnogi dysgu eich myfyrwyr? Tystiolaeth o effaith yma \u2013 canlyniadau arholiadau\/ymgysylltu\/sylwadau gan ddysgwyr <\/span><\/strong><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Mae sylwadau myfyrwyr mewn adroddiadau ar wella modiwlau\u2019n dangos bod addysgeg wyllt wedi cael effaith drawsnewidiol ar ymgysylltu, dysgu a lles. Roedden nhw\u2019n canmol yn gyson y cyfle i \u201cmynd allan yn yr awyr agored a dysgu\u2019n wahanol,\u201d gan ddisgrifio ein sesiynau ym Mharc Bute yn rhai \u201canhygoel\u201d a dweud eu bod \u201cyn wahanol i unrhyw fodiwl arall\u201d y maen nhw wedi\u2019i ddilyn. Nododd llawer fod y modiwl wedi creu \u201camgylchedd dysgu cadarnhaol a chefnogol\u201d lle mae \u201ccysylltiadau go iawn yn ffurfio\u201d a bod addysgeg wyllt wedi helpu i \u201cgwneud addysg yn hwyl eto\u201d. Mae ein holl sesiynau dysgu wedi'u cynllunio i gyd-fynd ag 'asesiadau dilys' y modiwl, ac mae myfyrwyr ac arholwyr allanol wedi gwneud sylw ar natur arloesol yr aseiniadau hyn. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><strong><span class=\"cf0\">Pa mor heriol oedd addysgeg wyllt i'w gweithredu? Sut y gwnaethoch chi ddechrau arni, a sut rydych chi\u2019n ei defnyddio wrth ymarfer ar hyn o bryd? <\/span><\/strong><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Roedd cyflwyno addysgeg wyllt yn heriol i ddechrau. Datblygais i berthynas \u00e2 Pharc Bute i drefnu lleoliad ar gyfer ein gwaith, a des i\u2019n arweinydd Ysgol Goedwig cymwys gyda chymorth yr Ysgol. Roedd y trefniadau ymarferol yn cynnwys ailystyried amserlenni, rheoli iechyd a diogelwch, ymateb i anghenion myfyrwyr, ac, wrth gwrs, ymdopi \u00e2 thywydd yr hydref. Yn y sesiynau cynnar ym Mharc Bute, cafodd myfyrwyr eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau \u2018addysgeg wyllt\u2019 o safbwynt gwyddonwyr cymdeithasol. Drwy brofiadau uniongyrchol, roedd angen iddyn nhw asesu eu profiad a phenderfynu a oedd honiadau sy\u2019n gysylltiedig ag addysgeg wyllt yn amddiffynadwy neu\u2019n ddilys. Dros amser, oherwydd effaith addysgeg wyllt ar ymdeimlad myfyrwyr o les a chymuned, daeth y sesiynau\u2019n ganolog i'r modiwl. Bob blwyddyn ers hynny, mae myfyrwyr wedi disgrifio'r profiadau hyn yn rhai \u201cysbrydoledig\u201d a \u201ctrochol\u201d. Drwy ddatblygu cysylltiadau \u00e2 phartneriaid cymunedol, creu profiadau cwricwlaidd ar y cyd \u00e2 myfyrwyr a chynllunio asesiadau\u2019n.<\/span><\/p>\n<p><!--StartFragment --><\/p>\n<p class=\"pf0\"><strong><span class=\"cf0\">Sut mae addysgeg wyllt wedi newid eich dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu? <\/span><\/strong><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Dw i'n dod o Utah yn yr Unol Daleithiau yn wreiddiol, sef lle sy'n enwog am ei olygfeydd rhyfeddol a\u2019i wylltni helaeth. Er pan oeddwn i\u2019n ifanc, cefais fy nenu at yr hyn y gallai byd natur ei ddatgelu y tu hwnt i ddealltwriaeth wybyddol yn unig. A minnau\u2019n addysgwr, rwy wedi ceisio dod o hyd i safbwynt damcaniaethol a allai gyfleu'r profiad hwn o ddysgu yn y byd a\u2019r tu hwnt iddo. Mae addysgeg wyllt, a ddylanwadwyd gan Dewey, Freire a hooks, ynghyd \u00e2 fy ymchwil agos-i\u2019r-ymarferol ar fyfyrio ar y lle a\u2019r corff\u2014yn cynnig yr union beth hwnnw. Roedd y safbwynt hwn wedi gwella fy nealltwriaeth o sut i hwyluso symud o gwricwlwm sydd o dan ddylanwad epistemoleg (gwybod) i un sydd \u00e2'i wreiddiau mewn ontoleg (bod a datblygu i fod). Mae gweithio gyda myfyrwyr i ystyried sut maen nhw'n meddwl, yn ymarfer ac yn datblygu yn eu hamgylcheddau wedi arwain at ddull mwy cyfannol o addysg, un sy'n ymgysylltu \u00e2'r person cyfan yn hytrach na thrin dysgu yn broses o drosglwyddo gwybodaeth, a hynny\u2019n unig. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">Yn ogystal, mae cipolwg ar waith Laura wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o \u2018fywydau\u2019 ein myfyrwyr. Roedd y ffordd yr aeth hi ati i fapio hyd a lled ei pherthnasoedd yn dangos y ffyrdd y mae gwybyddiaeth ac ontoleg yn cael eu creu ar y cyd mewn deunyddiau, cyrff, amser a lle. Roedd gweithio gyda\u2019r myfyrwyr hyn i ddeall y perthnasoedd hyn yn well wedi ein helpu i greu addysgeg wirioneddol ddeialogol sydd, yn ein barn ni, yn arwain at brofiadau trawsnewidiol yn yr ystafell ddosbarth (a thu hwnt!) <\/span><\/p>\n<p><!--EndFragment --><\/p>\n<p><!--EndFragment --><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Awgrymiadau hynod ddefnyddiol i bobl eraill sy'n awyddus i ddefnyddio addysgeg wyllt yn eu hymarfer<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-pam-mae-addysgeg-wyllt-yn-fuddiol-i-brofiadau-dysgu-4\"><p><!--StartFragment --><br \/>\n<span class=\"cf0\"><strong>Dechreuwch drwy fod yn sylwgar, yna symudwch at y bwriad.<\/strong><br \/>\nGan ddilyn syniad Dewey o\u2019r \u201cdiwedd-mewn-golwg,\u201d gadewch i\u2019r cyfarfyddiad arwain y dysgu yn lle rhagweld ei gasgliad. Canolbwyntiwch ar bresenoldeb, nid cynhyrchiant. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\"><strong>Y byd yn asiant addysgeg. <\/strong><br \/>\n<\/span><span class=\"cf0\">Nid cynhwysydd i fywyd ddigwydd ynddo yw'r amgylchedd; cyfrwng ydyw y mae bywyd, ac felly, addysg, yn cael ei amlygu drwyddo. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\"><strong>Dylunio\u2019r hyn sy\u2019n anrhagweladwy.<\/strong><br \/>\nEwch ati i greu gweithgareddau \u00e2 digon o strwythur i sicrhau diogelwch, gan ganiat\u00e1u amser os bydd pethau\u2019n mynd o chwith, datblygiadau a sypreisys. Weithiau, bydd ansicrwydd yn gynhyrchiol. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\"><strong>Cyfunwch brofiadau ac ymholiadau<\/strong><br \/>\nCysylltwch symudiadau a rhyngweithio synhwyraidd a chymdeithasol ag eiliadau strwythuredig o fyfyrio; ysgrifennu, mapio neu sgyrsiau tawel.\u00a0<\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\"><strong>Addysgeg berthynol yw addysgeg wyllt<\/strong><br \/>\n: Mae\u2019n golygu meithrin gofal a bod yn gyfrifol am ein cydweithwyr, y myfyrwyr, a'r byd y tu hwnt i\u2019r ddynolryw. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\"><strong>Gwnewch y cyfarwydd yn wyllt.<\/strong><br \/>\nNid oes rhaid wrth wylltni i fod yn \"wyllt\". Mae\u2019n bosibl i ardd, cae neu barc fod yn safle i greu addysg berthynol sy\u2019n canolbwyntio ar y corff a\u2019r lle. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">\u2022 <strong>Arfer.<\/strong><br \/>\nGadewch i theori lywio eich camau, mae camau\u2019n bwydo myfyrdod ac mae myfyrdod yn sail i theori. Fframiwch brofiadau ar ffurf cwestiwn neu syniad arweiniol, yna myfyriwch er mwyn deall a chanfod mewn ffyrdd dyfnach a newydd. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">\u2022 <strong>Cydnabod ymarferoldeb<\/strong>.<br \/>\nCynlluniwch yn gynnar rhag ofn y bydd pethau\u2019n mynd o chwith ac i sicrhau hygyrchedd, cynhwysiant a pholis\u00efau\u2019r sefydliad. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\">\u2022<strong>Modelwch fregusrwydd a chwilfrydedd<\/strong>.<br \/>\nDysgwch ochr yn ochr \u00e2\u2019r myfyrwyr; modelwch y ffordd. <\/span><\/p>\n<p class=\"pf0\"><span class=\"cf0\"><strong><br \/>\n\u2022 Dechreuwch ar sail bob yn dipyn, gan ddatblygu mewn ffordd glyfar a chwilio am ffrindiau.<\/strong> <br \/>Treialwch un sesiwn awyr agored neu synhwyraidd. Cydlynwch y gweithgareddau \u00e2 deilliannau ac asesiadau modiwlau, ac ewch ati i gydweithio \u00e2 chydweithwyr i gael eu harbenigedd a\u2019u cefnogaeth.<\/span><\/p>\n<p><!--EndFragment --><\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<p><strong>Dolenni<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wildpedagogies.com\/\">wildpedagogies.com<\/a><\/p>\n<p>Quay, J., Jensen, A. (2018) Wild pedagogies and wilding pedagogies: teacher-student-nature centredness and the challenges for teaching.\u202f<em>Journal of Outdoor and Environmental Education<\/em>\u202f<strong>21<\/strong>, 293\u2013305 (2018). <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1007\/s42322-018-0022-9\">https:\/\/doi.org\/10.1007\/s42322-018-0022-9<\/a><\/p>\n<p>Morse, M., Blenkinsop, S., &amp; Jickling, B. (2021). Wilding educational policy: Hope for the future. <em>Policy Futures in Education<\/em>, <em>19<\/em>(3), 262-268. <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1177\/14782103211006649\">https:\/\/doi.org\/10.1177\/14782103211006649<\/a> (Original work published 2021)<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/link.springer.com\/book\/10.1007\/978-3-030-90980-2\">Pedagogy in the Anthropocene: Re-Wilding Education for a New Earth.<\/a>\u202f2022. Edited by Michael Paulsen, jan jagodzinski, and She M. Hawke. Part of the\u202f<a href=\"https:\/\/link.springer.com\/series\/15418\">Palgrave Studies in Educational Futures Collection.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wildpedagogies.com\/podcast\">Podcast | wildpedagogies.com<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Beth yw addysgeg wyllt? Ffordd o ailystyried ein perthynas \u00e2 phrofiadau dysgu yw addysgeg wyllt. Eu nod yw cefnogi dysgwyr i ailystyried yn feirniadol ystyr dysgu mewn cyd-destunau gwahanol a [&hellip;]","protected":false},"author":9338,"featured_media":0,"parent":4456,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-9416","page","type-page","status-publish","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9416","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9338"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9416"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9416\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9549,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/9416\/revisions\/9549"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4456"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9416"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9416"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/education-development-toolkit\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9416"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}