Animation

Resource title and description Type
Rhybuddion allweddair drwy Google Scholar
Cyflwyniad fideo am sut i set up keyword alerts in Google Scholar. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion dyfynnu Scopus
Cyflwyniad fideo am sut i set up citation alerts on Scopus. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion allweddair SCOPUS
Cyflwyniad fideo am sut i set up Rhybuddion allweddair SCOPUS. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion allweddair Web of Science
Cyflwyniad fideo am sut i set up Rhybuddion allweddair Web of Science Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Defnyddio hidlyddion yn LibrarySearch
Cyflwyniad fideo am sut i defnyddio hidlyddion yn LibrarySearch. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael  i'w lawrlwytho. Ymhlith y fideos eraill yn seiliedig ar y pwnc hwn, mae:
  • Eich cyfrif LibrarySearch
  • Pori'n rhithwir ar LibrarySearch
  • Ymchwilio i’ch pwnc drwy ddefnyddio LibrarySearch
  • Gwneud cais am eitemau drwy LibrarySearch
Gallwch ddod o hyd i restr chwarae ar gyfer ein canllawiau YouTube.
Ymchwilio i’ch pwnc drwy ddefnyddio LibrarySearch
Canllaw fideo am sut i ddefnyddio LibrarySearch i ymchwilio i'ch pwnc. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael  i'w lawrlwytho.
Defnyddio cronfeydd data: y camau sylfaenol
Cyflwyniad fideo ar sut i lywio wrth ddefnyddio cronfeydd data. Cewch hyd i'r fideo ar YouTube hefyd. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Defnyddio cronfeydd data: cyrchu testun llawn
Cyflwyniad fideo ar sut i gael mynediad at destunau llawn wrth ddefnyddio cronfeydd data. Cewch hyd i'r fideo hefyd ar YouTube hefyd. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Chwilio gydag allweddeiriau yn Scopus
Cyflwyniad fideo ar sut i chwilio gydag allweddeiriau yn Scopus. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Cyrchu British standards online
Cyflwyniad fideo am sut i gael mynediad British standards online. Cewch hyd i'r fideo ar YouTube hefyd. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
EndNote Desktop ar gyfer adolygiadau tystiolaeth
Mae'r tiwtorial hwn ar gyfer unrhyw un sy'n defnyddio EndNote i gynorthwyo gyda chynnal adolygiad tystiolaeth (e.e. adolygiad systematig, adolygiad cwmpasu, adolygiad cyflym ac ati). Felly, yn y tiwtorial hwn, rydym yn ymdrin â'r camau canlynol:
  • Mewnforio eich cyfeiriadau i EndNote gyda'r holl ddata gofynnol
  • Gweithio gyda'r cyfeiriadau o fewn eich llyfrgell EndNote at ddibenion cynnal adolygiad
  • Defnyddio EndNote i sgrinio teitlau/crynodebau/testun llawn dwywaith
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
Darllen a dadansoddi erthygl cyfnodolyn yn feirniadol
Bydd y tiwtorial hwn yn trafod sut i ddarllen a dadansoddi erthygl cyfnodolyn academaidd yn feirniadol. Bydd y tiwtorial hwn yn:
  • Esbonio categoreiddio eang erthyglau cyfnodolion
  • Esbonio/amlinellu'r broses adolygu gan gymheiriaid lle cyflwynir erthygl i'w gwerthuso'n ysgolheigaidd gan arbenigwyr
  • Awgrymu cwestiynau y mae angen i chi eu gofyn wrth ddarllen a dadansoddi erthygl cyfnodolyn yn feirniadol
  • Rhoi awgrymiadau ymarferol i hwyluso darllen a gwneud dadansoddiad beirniadol o erthygl
Beth yw erthygl cyfnodolyn?
Bydd y tiwtorial cyflwyniad i erthyglau cyfnodolion; beth ydyn nhw, pam mae eu hangen nhw a sut mae awduron yn cyfrannu. Bydd y tiwtorial hwn yn:
  • Rhoi trosolwg o rywfaint o'r broses ymchwil sy'n ymwneud ag ysgrifennu a chyhoeddi erthyglau cyfnodolion
  • Esbonio sut mae erthyglau cyfnodolion yn cael eu llunio
  • Esbonio pam mae erthyglau cyfnodolion yn cael eu llunio fel hyn
Dyfynnu’r gyfraith: cyfeirio drwy ddefnyddio OSCOLA
Canllaw i ddyfynnu’r gyfraith drwy ddefnyddio Safon Rhydychen ar gyfer Dyfynnu Awdurdodau Cyfreithiol (OSCOLA). Mae’r tiwtorial yn arddangos sut i ddyfynnu ffynonellau ‘cynradd’ o’r gyfraith (h.y. achosion a deddfwriaeth) a sut i gyfeirio at ffynonellau ‘eilaidd’ fel llyfrau, cyfnodolion ac adroddiadau llywodraeth.
Pa adroddiad ydw i’n ei ddyfynnu?
Profwch ddealltwriaeth o ddyfyniadau OSCOLA gyda'r gweithgaredd byr hwn.
Rhestrwch y cyfeiriadau (OSCOLA)
Profwch y gallu i greu cyfeiriadau wedi'u fformatio'n gywir yn arddull OSCOLA. Rhowch y darnau o gyfeiriad ynghyd i ffurfio cyfeiriad wedi’i fformatio’n gywir.
Activity
Dyfynnu enghreifftiau (OSCOLA)
Gweithgaredd rhyngweithiol sy'n disgrifio'r cydrannau sy'n ffurfio dyfyniad o Ddeddf, dyfyniad o achos, a dyfyniad niwtral yn arddull Oxford Standard for Citation of Legal Authorities (OSCOLA)
Dyfynnu deddf
Delwedd sy'n disgrifio'r cydrannau sy'n ffurfio dyfyniad Deddf yn arddull Oxford Standard for Citation of Legal Authorities (OSCOLA).
Dyfynnu achos
Delwedd sy'n disgrifio'r cydrannau sy'n ffurfio dyfyniad achos yn arddull Oxford Standard for Citation of Legal Authorities (OSCOLA).
Image
Dyfyniad niwtral
Delwedd sy'n disgrifio'r cydrannau sy'n ffurfio dyfyniad niwtral yn arddull Oxford Standard for Citation of Legal Authorities (OSCOLA).
Pyramid tystiolaeth
Wrth chwilio am wybodaeth am gwestiwn iechyd penodol, bydd y pyramid tystiolaeth yn helpu i bennu pa ddarnau o dystiolaeth sydd o’r ansawdd gorau. Gellir lawrlwytho’r pyramid tystiolaeth mewn taflen esboniadol neu fel delwedd. Gellir cael gafael arno drwy Xerte gan ddilyn y ddolen View.
Image
Technegau astudio i’ch helpu i osgoi llên-ladrad
Mae'r fideo hwn yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ar wallau cyffredin wrth ddyfynnu a chyfeirnodi yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i osgoi cyhuddiadau o lên-ladrad. Cewch hyd i'r fideo ar YouTube hefyd. Darperir trawsgrifiad.
Arddull cyfeirnodi IEEE
Mae'r tiwtorial Xerte hwn yn cynnig canllawiau cam wrth gam i gyfeirnodi yn arddull IEEE. Mae'n cynnwys enghreifftiau o ffyrdd o gyfeirio at amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae canllawiau PDF hefyd ar gael ar y fewnrwyd [bydd angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ym Mhrifysgol Caerdydd].
Llên-ladrad: pam y dylech ei osgoi
Mae Professor Stephen Rutherford, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod llên-ladrad a pham y dylech ei osgoi. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd.
Video
Meddwl ac ysgrifennu myfyriol

Canllaw i'ch helpu i ddatblygu eich arfer myfyriol. Yn y tiwtorial hwn rydym am eich helpu i:

  • Ddeall beth yw arfer myfyriol a pham ei fod yn bwysig
  • Nodi pryd y gall arferion myfyriol fod yn ddefnyddiol
  • Rhoi technegau arferion myfyriol ar waith (yn seiliedig ar fodelau a damcaniaeth fyfyriol sefydledig)
  • Datblygu eich sgiliau ysgrifennu myfyriol, ar gyfer eich gwaith academaidd a'ch gyrfa
Gwerthuso r dystiolaeth: darllen eich ffynonellau’n feirniadol
Mae’r tiwtorial Xerte hwn, sydd ar gyfer disgyblion chweched dosbarth ac addysg bellach yn bennaf, yn canolbwyntio ar ddarllen gwybodaeth yn feirniadol i bennu hygrededd a dilysrwydd dadleuon. Mae’r tiwtorial hwn yn rhan o gyfres Gwerthuso’r Dystiolaeth a grëwyd i gefnogi ysgolion sy’n cefnogi Uwch Fagloriaeth Cymru.
Gwerthuso’r dystiolaeth: dod o hyd i wybodaeth o safon uchel ar-lein
Mae’r tiwtorial Xerte hwn, ar gyfer disgyblion 6ed dosbarth ac addysg bellach yn bennaf, yn cwmpasu: diffinio cwmpas eich pwnc ymchwil, technegau chwilio i fanteisio’n llawn ar Google ac offer chwilio, a gwefannau i gael gwybodaeth o ansawdd da sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r tiwtorial hwn yn rhan o gyfres Gwerthuso’r Dystiolaeth a grëwyd i gefnogi ysgolion sy’n cefnogi Uwch Fagloriaeth Cymru.
Gwerthuso’r dystiolaeth: asesu ansawdd eich ffynonellau
Mae’r tiwtorial Xerte hwn, sydd ar gyfer disgyblion chweched dosbarth ac addysg bellach yn bennaf, yn canolbwyntio ar dechnegau ar gyfer asesu ansawdd ffynonellau o wybodaeth. Mae’r tiwtorial hwn yn rhan o gyfres Gwerthuso’r Dystiolaeth a grëwyd i gefnogi ysgolion sy’n cefnogi Uwch Fagloriaeth Cymru.
Tutorial
Darllen a meddwl yn feirniadol
Canllaw i'ch helpu i gymhwyso strategaethau darllen a meddwl yn feirniadol i'ch gwaith academaidd. Drwy weithio drwy'r tiwtorial hwn, dylech allu:
  • Datblygu dealltwriaeth o feddwl, darllen ac ysgrifennu'n feirniadol.
  • Defnyddio strategaethau i ddethol eich darllen.
  • Deall y Model Meddwl yn Feirniadol a’i gymhwyso i’ch gwaith academaidd.
Ddylwyn i ddyfynnu? llifsiart
Ddylwn i ddyfynnu? Dyma siart lif fydd yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi ddyfynnu ffynhonnell benodol o wybodaeth.
Lluniwch y gweithgaredd cyfeirio
Gweithgaredd sy’n profi’r gallu i restru cyfeiriadau wedi’u fformatio’n gywir ar ddull Harvard Caerdydd. Rhowch wahanol elfennau o gyfeiriad ynghyd i ffurfio cyfeiriad wedi’i fformatio’n gywir.
Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy
Mae'r fideo byr hwn yn awgrymu ystod o ffynonellau ar-lein o ansawdd da ac sydd ar gael am ddim ar gyfer dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae trawsgrifiad Cymraeg ar gael.
Cwis pa un yw’r fformat cyfeirio cwyir?
Profwch eich dealltwriaeth o sut i gyfeirio at wahanol fathau o ddeunydd yn Arddull Harvard Prifysgol Caerdydd.
Cwis adnabod y ffynhonnell
Edrychwch ar y cyfeiriadau wedi’u fformatio ar ddull Harvard Caerdydd a phenderfynu pa fath o ddeunydd sy’n cael ei ddisgrifio ym mhob achos.
Gweithgaredd osgoi llên-ladrad
Ymarfer byr sy’n cynnwys pedwar cwestiwn sy’n profi eich gallu i gydnabod llên-ladrad.
Ai llên-ladrad yw hwn?
Profwch eich gwybodaeth am lên-ladrad â'r cwis hwn.
Quiz
Creu map meddwl
Sleid PowerPoint y gellir ei addasu sy’n cynnwys enghraifft o sut gallwch greu map meddwl er mwyn helpu i chwilio am wybodaeth am bwnc.
Arfarnu Beirniadol – Nodi Cynllun Astudiaeth
Er mwyn arfarnu ymchwil yn feirniadol, mae angen i fyfyrwyr allu nodi'r math o astudiaeth y maent yn ei gwerthuso. Gall y cwis hwn helpu i brofi dealltwriaeth o'r gwahanol fathau o gynllun astudiaeth.
Quiz
Arfarnu Beirniadol – Nodi Rhagfarn
Mae'r cwis byr hwn yn profi dealltwriaeth myfyriwr o'r gwahanol fathau o ragfarn a all effeithio ar ddibynadwyedd ymchwil.
Arfarnu beirniadol

An interactive tutorial which teaches students how to think critically about research and research methodology. It gives students the opportunity to:

  • identify different types of bias
  • identify study designs
  • use critical appraisal checklists
Rhoi eich cyflwyniad

Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut i ymdopi â gorbryder a rhoi cyflwyniad yn hyderus. Mae hefyd yn trafod technegau i siarad yn effeithiol, ynghyd ag iaith y corff..

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.

Cynllunio ac ysgrifennu eich cyflwyniad

Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut i ddiffinio pwrpas a negeseuon allweddol cyflwyniad. Mae hefyd yn ystyried sut i strwythuro, ysgrifennu a golygu cynnwys cyflwyniad.

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.

Dylunio eich cyflwyniadau

Bydd y tiwtorial rhyngweithiol hwn yn helpu i nodi adnoddau priodol ar gyfer datblygu cymhorthion gweledol, yn ogystal â dangos sut i ddefnyddio testun, delweddau, siartiau ac elfennau amlgyfrwng eraill yn effeithiol.

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.

Deall cyflwyniadau

Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried gwahanol fathau o gyflwyniad a'u dibenion. Mae hefyd yn amlinellu'r broses o ysgrifennu a rhoi cyflwyniad.

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.

Goroesi eich cyflwyniadau

Bydd y gyfres hon o bedwar tiwtorial rhyngweithiol yn arwain myfyrwyr drwy’r broses o ysgrifennu, dylunio a rhoi cyflwyniad. Mae'n cynnwys y tiwtorialau canlynol:

Gellir defnyddio pob tiwtorial fel adnodd ar ei ben ei hun neu’n rhan o gyfres Goroesi eich Cyflwyniadau.

Golygu ac adolygu
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn tywys myfyrwyr drwy'r broses o olygu ac adolygu eu traethawd. Mae'n cynnwys gweithgareddau sy'n eu galluogi i ymarfer adolygu cynnwys a strwythur, yn ogystal â sillafu, atalnodi a gramadeg. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Ysgrifennu’n feirniadol a strwythuro eich traethawd
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn rhoi arweiniad cynhwysfawr ar ysgrifennu drafft cyntaf traethawd ac ysgrifennu mewn arddull academaidd. Mae'n archwilio sut i ysgrifennu'n feirniadol a defnyddio tystiolaeth yn briodol. Mae hefyd yn ystyried strwythur traethawd, strwythur paragraffau, a sut i ysgrifennu brawddegau effeithiol. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Datblygu eich syniadau
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut y gall myfyrwyr ddefnyddio eu gwaith ymchwil i ddatblygu eu syniadau a'u dadleuon eu hunain. Mae'n eu tywys drwy'r broses o gasglu eu syniadau, creu dadl gref, a threfnu a strwythuro eu syniadau i greu amlinelliad o draethawd. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Ymchwilio a darllen yn feirniadol
  Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o sut i wneud gwaith ymchwil a darllen yn gritigol wrth baratoi ar gyfer ysgrifennu traethawd. Mae'n tywys myfyrwyr drwy'r broses o nodi'r hyn y dylent ymchwilio iddo, sut a ble y dylid ymchwilio iddo, a sut i ddarllen yn feirniadol a gwerthuso ansawdd y wybodaeth y byddent yn dod o hyd iddi. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Dehongli’r cwestiwn
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn tywys myfyrwyr drwy'r broses o ddehongli teitl eu traethawd. Mae'n ystyried berfau cyfeiriol a geiriau allweddol, yn ogystal ag archwilio'r meini prawf asesu. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Deall traethodau
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn edrych ar beth yw traethodau, pam rydym yn eu hysgrifennu, a'r hyn sydd angen ei wneud wrth ysgrifennu traethawd. . Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Canllaw goroesi traethodau

Mae hon yn gyfres o chwe thiwtorial rhyngweithiol ar gyfer israddedigion. Mae'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o ysgrifennu traethawd academaidd.

Mae'n cynnwys y tiwtorialau canlynol:

Nodiadau Effeithiol
Strategaethau ar gyfer cymryd a gwneud nodiadau i gefnogi eich astudiaethau.
EndNote Ar-lein: Defnyddio EndNote Ar-lein gydag Microsoft Word
Bydd y tiwtorial hwn yn dangos sut i wneud y canlynol:
  • gosod Word er mwyn gweithio gydag EndNote ar-lein
  • gosod a dileu dyfyniadau yn eich dogfennau Word
  • golygu'r modd y caiff dyfyniadau eu dangos
  • newid yr arddull gyfeirio.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote Ar-lein: Gweithio gyda’ch llyfrgell
Bydd y tiwtorial hwn yn dangos sut i wneud y canlynol:
  • trefnu eich cyfeiriadau i mewn i grwpiau
  • rhannu grwpiau â defnyddwyr eraill
  • golygu, dileu a dod o hyd i gyfeiriadau lluosog
  • creu llyfryddiaeth unigol.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote Ar-lein: Ychwanegu cyfeiriadau at eich llyfrgell
Bydd y tiwtorial hwn yn dangos sut i wneud y canlynol:
  • ddod o hyd i gronfeydd data llyfryddol priodol
  • chwilio am ac allgludo cyfeiriadau o gronfeydd data amrywiol
  • mewngludo cyfeiriadau i'ch llyfrgell
  • ychwanegu cyfeiriadau â llaw at eich llyfrgell.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
EndNote Ar-lein: Dechrau Arni
Bydd y tiwtorial hwn yn eich tywys drwy'r broses o wneud y canlynol:
  • cofrestru ar gyfer cyfrif EndNote ar-lein
  • mewngofnodi i EndNote Ar-lein
  • gosod ategion fel eich bod yn gallu rhoi cyfeiriadau yn Microsoft Word
  • sefydlu'r arddulliau cyfeirio y bydd eu hangen arnoch.
Wedi'i gyhoeddi dan drwydded Creative Commons gyda chaniatâd Clarivate Analytics.
Siart llif gwerthuso gwybodaeth
Siart llif sy'n arwain gam wrth gam drwy broses o werthuso gwybodaeth o wefannau.
Dewis ffynonellau o safon ar gyfer eich gwaith academaidd
Cewch wybodaeth am sut i werthuso gwybodaeth, darllen yn feirniadol, a phenderfynu pa mor gredadwy yw'r wybodaeth y daethoch o hyd iddi, er mwyn dewis y ffynonellau mwyaf priodol a dibynadwy ar gyfer eich gwaith academaidd.
Chwilio y tu hwnt i’ch rhestr ddarllen defnyddio LibrarySearch
Tiwtorial byr ar-lein â'r nod o gyflwyno technegau chwilio allweddol er mwyn ymchwilio i bwnc drwy LibrarySearch.
Tutorial
Chwilio y tu hwnt i’ch rhestr ddarllen defnyddio cronfeydd data cyfnodolion
Bydd y tiwtorial hwn yn eich tywys drwy'r broses o gynllunio chwiliad, datblygu strategaeth chwilio effeithiol a chwilio drwy gyfrwng cronfeydd data priodol.
Gwerthuso gwybodaeth
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Pam y dylech chi werthuso gwybodaeth
  • Sut mae pennu a yw’r wybodaeth rydych chi wedi dod o hyd iddi yn ddilys
  • Sut mae darllen ffynonellau yn feirniadol
  • Sut mae dewis gwybodaeth a fydd yn cyfrannu'n effeithiol at eich aseiniad
Mae'r tiwtorial hwn yn rhan o'r gyfres Ysgrifennu ar Lefel Ôl-raddedig.
Cwis deall cyfosod (gwyddorau cymdeithasol)
Cwis a gweithgaredd i helpu myfyrwyr i ddeall beth mae cyfosod yn ei olygu. Mae hefyd yn dangos sut y gall myfyriwr lunio paragraffau sy’n cyfosod ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir.
Cwis deall cyfosod (Biowyddorau)
Cwis a gweithgaredd i helpu myfyrwyr i ddeall beth mae cyfosod yn ei olygu. Mae hefyd yn dangos sut y gall myfyriwr lunio paragraffau sy’n cyfosod ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir.
Gweithgaredd Cyfosod
Yn y gweithgaredd hwn, gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu paragraff drwy ddefnyddio gwybodaeth, tystiolaeth, neu safbwyntiau o ddetholiad o wahanol ffynonellau. Y nod yw helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfosod gwybodaeth er mwyn ategu eu dadleuon.
Ymarfer prawfddarllen
Mae’r gweithgaredd hwn yn dangos pwysigrwydd prawfddarllen gwaith cyn ei gyflwyno. Rhoddir paragraff o destun i fyfyrwyr a gofynnir iddynt nodi chwe chamgymeriad sy’n cynnwys gwallau sillafu, gwallau teipio a homoffonau.
Arddull academaidd cwis
Cwis deg cwestiwn sy'n asesu dealltwriaeth o'r gwahanol agweddau ar sut i ysgrifennu’n dda yn academaidd.
Cadw eich ymchwil yn gyfredol
Mae ein tiwtorial am sut i gadw eich ymchwil yn gyfoes yn eich tywys drwy'r gweithdrefnau sylfaenol i wneud y gorau o ymwybyddiaeth gyfredol yn eich maes ymchwil. Mae'n dangos sut i sefydlu gwahanol fathau o rybuddion ac mae'n tynnu sylw at ystod o offer ac adnoddau eraill i wneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn effeithlon ac yn effeithiol.
Sut y byddech yn cyfeirnodi’r llyfr hwn? (Cyfeirnodi Vancouver Caerdydd)
Cyflwyniad fideo am sut i gyfeirio at lyfr drwy ddefnyddio dull cyfeirnodi Vancouver Caerdydd. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Sut y byddech yn cyfeirnodi’r llyfr hwn? (Cyfeirnodi MHRA)
Cyflwyniad fideo am sut i gyfeirio at lyfr drwy ddefnyddio dull cyfeirnodi MHRA. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Video
Deall eich tasg asesu
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Pam mae gennym feini prawf asesu
  • Pa beth y disgwylir gennych pan fyddwch yn cwblhau aseiniad
  • Sut y dylid ymdrin â chwestiwn aseiniad
  • Sut i gynllunio eich ysgrifennu ac ymchwil
Mae'r tiwtorial hwn yn rhan o'r gyfres Ysgrifennu ar Lefel Ôl-raddedig
Datblygu dadleuon beirniadol
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • gwahaniaethu rhwng ysgrifennu beirniadol a disgrifiadol
  • ystyried pwysigrwydd cyfuno gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol
  • edrych ar ffyrdd i gyfuno’r wybodaeth yn effeithiol er mwyn cefnogi eich dadleuon
  • dangos sut i lunio paragraffau sy’n cyfuno ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir
Mae'r tiwtorial hwn yn rhan o'r gyfres Ysgrifennu ar Lefel Ôl-raddedig
Arddull ysgrifennu academaidd
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Strwythuro eich gwaith
  • Ysgrifennu mewn arddull academaidd
  • Defnyddio iaith academaidd briodol
  • Adolygu, golygu a phrawfddarllen yr hyn yr ydych wedi'i ysgrifennu
Mae'r tiwtorial hwn yn rhan o'r gyfres Ysgrifennu ar Lefel Ôl-raddedig
Tiwtorial cyfeirnodi MHRA
Mae'r tiwtorial Xerte hwn yn cynnig canllawiau cam wrth gam i gyfeirnodi yn arddull MHRA. Mae'n cynnwys enghreifftiau o ffyrdd o gyfeirio at amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae canllawiau PDF hefyd ar gael ar y fewnrwyd [bydd angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ym Mhrifysgol Caerdydd].
Tiwtorial cyfeirnodi Vancouver
Mae'r tiwtorial Xerte hwn yn cynnig canllawiau cam wrth gam i gyfeirnodi yn arddull Vancouver. Mae'n cynnwys enghreifftiau o ffyrdd o gyfeirio at amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae canllawiau PDF hefyd ar gael ar y fewnrwyd [bydd angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ym Mhrifysgol Caerdydd].
Cyngor hanfodol ynghylch chwilio â Google
Bydd y fideo hwn yn dangos awgrymiadau syml i gael y gorau o Google. Mae'r fideo hefyd ar gael ar YouTube yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae trawsgrifiad ar gael. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Gwneud i’ch hunaniaeth ar-lein gyfri: Adeiladu eich proffil ar-lein
Bydd yr ail diwtorial yn ystyried sut y gallwch chi ddatblygu hunaniaeth ar-lein sydd wedi'i theilwra ar gyfer amgylchedd proffesiynol a sut mae rheoli’r hunaniaeth honno’n effeithiol. Bydd y tiwtorial yn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar-lein er mwyn creu a datblygu eich proffil proffesiynol. Bydd hefyd yn ystyried sut i greu rhwydweithiau proffesiynol defnyddiol, sut i ryngweithio mewn cymunedau ar-lein yn effeithiol, a sut i reoli, trefnu a chysylltu eich proffiliau ar-lein i'w cadw'n gyfoes.
Gwneud i’ch hunaniaeth ar-lein gyfri: Adnabod eich ôl-troed digidol
Bydd y cyntaf o ddau diwtorial yn trin a thrafod sut y gallwch ddatblygu hunaniaeth effeithiol a phroffesiynol ar-lein. Bydd y tiwtorial yn trafod pam mae hunaniaeth effeithiol ar-lein yn bwysig mewn bywyd proffesiynol, yn eich helpu i gadw llygad ar eich ôl-troed digidol ac yn awgrymu meysydd lle byddai'n werth i chi eu newid.
Dyfynnu o fewn y testun (Harvard)
Ymarfer "llenwi’r bylchau" i brofi sgiliau dyfynnu cyfeiriadau o fewn testun gan ddefnyddio arddull Harvard Prifysgol Caerdydd.
Ymarfer pryd i ddyfynnu
Ymarfer llusgo a gollwng i brofi eich gwybodaeth am bryd i ddyfynnu gwaith pobl eraill.
Cwis dyfynnu a chyfeirio
Profwch eich gwybodaeth am ddyfynnu a chyfeirio gyda’r cwis hwn.
Nodi’r prif syniadau i ymchwilio iddynt
Gweithgaredd i helpu nodi syniadau neu gysyniadau pwysig cyn dechrau ymchwilio.
Activity
Cylch chwilio am lenyddiaeth
Delwedd yn dangos y cylch chwilio am lenyddiaeth.
Sut y byddech yn cyfeirnodi’r llyfr hwn? (Cyfeirnodi Harvard Caerdydd)
Cyflwyniad fideo am sut i gyfeirio at lyfr drwy ddefnyddio dull cyfeirnodi Harvard Caerdydd. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Cyfeirnodi Harvard Caerdydd
Mae'r tiwtorial Xerte hwn yn cynnig canllawiau cam wrth gam i gyfeirnodi yn arddull Harvard Caerdydd. Mae'n cynnwys enghreifftiau o ffyrdd o gyfeirio at amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae canllawiau PDF hefyd ar gael ar y fewnrwyd [bydd angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ym Mhrifysgol Caerdydd].
Dod o hyd i Ffynonellau Priodol
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Cynllunio eich chwiliad am wybodaeth drwy ddiffinio geiriau allweddol perthnasol ar eich pwnc
  • Nodi’r adnoddau gwybodaeth allweddol ar gyfer eich pwnc drwy’r fewnrwyd i fyfyrwyr
  • Mynd ati i chwilio am lenyddiaeth ar eich pwnc gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau chwilio
  • Cyrchu testun llawn y dogfennau fel erthyglau o gyfnodolion ar-lein
  • Defnyddio cronfeydd data er mwyn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau ar bwnc
Osgoi llên-ladrad
Erbyn diwedd y tiwtorial Xerte hwn, byddwch wedi dysgu’r canlynol:
  • Beth yw dyfynnu a chyfeirnodi, a pham maent yn bwysig
  • Beth yw llên-ladrad a chydgynllwynio, a pham mae rhai gweithredoedd yn cael eu hystyried yn llên-ladrad neu gydgynllwynio
  • Sut i ddefnyddio ymchwil pobl eraill yn eich gwaith eich hun
  • Sut i ddyfynnu a chyfeirio at waith pobl eraill gan ddefnyddio'r arddull a argymhellir gan eich Ysgol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael sy'n ymwneud yn benodol ag arddulliau cyfeirnodi Caerdydd Harvard, MHRA a Vancouver, gan gynnwys tiwtorialau gam wrth gam.
EndNote: Chwilio cronfeydd data a mewnforio cyfeiriadau
Yr ail mewn cyfres o bum tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion fersiwn bwrdd gwaith EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn trin a thrafod sut i fewnforio cyfeiriadau o gronfeydd data llyfryddol ac ychwanegu eich cyfeiriadau eich hun o ffynonellau eraill.
EndNote a Microsoft Word

Y pedwerydd mewn cyfres o bum tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn trafod dyfynnu a chyfeirnodi mewn Word, gan ddefnyddio cyfeirnodau yn eich llyfrgell EndNote a newid yr arddull dyfynnu.

Wedi'i gyhoeddi dan drwydded CC gyda chaniatâd Clarivate Analytics.

Gweithio gyda ch cyfeiriadau yn EndNote

Y trydydd mewn cyfres o bum tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn esbonio sut i drefnu eich Llyfrgell EndNote a chwilio ynddo, ynghyd â sut i ychwanegu ac anodi ffeiliau PDF.

Wedi'i gyhoeddi dan drwydded CC gyda chaniatâd Clarivate Analytics.

EndNote: Dechrau arni gydag EndNote

Y cyntaf mewn cyfres o bum tiwtorial Xerte sy'n cyflwyno prif nodweddion y fersiwn bwrdd gwaith o EndNote. Mae'r tiwtorial hwn yn esbonio sut i osod EndNote ar eich cyfrifiadur, a chreu eich Llyfrgell EndNote eich hun.

Wedi'i gyhoeddi dan drwydded CC gyda chaniatâd Clarivate Analytics.

Llên-ladrad yn erbyn arfer academaidd da
Mae'r amcan dysgu hwn yn ystyried beth yw llên-ladrad, ac yn edrych ar sut y gallwch fabwysiadu arfer da i'w osgoi. Addaswyd y tiwtorial o becyn Xerte a ddatblygwyd gan Karl Drinkwater, Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.
Dod o hyd i wybodaeth
Fideo llawn gwybodaeth ar y ffyrdd gorau i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich pwnc. Mae’r fideo ar gael hefyd ar YouTube yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae trawsgrifiad ar gael.
Sut i gael mynediad i gyfnodolion oddi ar y campws gan ddefnyddio Google Scholar
Dyma fideo fyr ar weld testun llawn erthyglau i ffwrdd o'r campws gan ddefnyddio Google Scholar.
Google Scholar – Awgrymiadau hanfodol
Bydd y fideo yma yn dangos y prif awgrymiadau i gael y gorau o Google Scholar. Mae Google Scholar yn gronfa ymchwil i ddarganfod erthyglau, llyfrau, trafodion cynhadledd a gweithiau eraill academaidd.
  • Awgrym 1 - Manylwch wrth chwilio
  • Awgrym 2 - Mynediad i’r testun llawn
  • Awgrym 3 - Crëwch hysbysiad e-bost
  • Awgrym 4 - Defnyddiwch y dolenni "Cited by..."
  • Awgrym 5 - Crëwch ddolenni sefydlu eich meddalwedd rheoli cyfeiriadau
Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Dod o hyd i eitemau ar eich rhestr darllen
Fideo gloi, addysgiadol ar sut i ddod o hyd i eitemau ar eich rhestr ddarllen. Mae’r fideo ar gael hefyd ar YouTube yn Gymraeg ac yn Saesneg.