Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff ar gyfer Mis Hydref

Annwyl gydweithiwr

Darllenais pa ddiwrnod fod y Frenhines wedi dechrau trydar. Gan nad ydw i’n trydar, alla i ddim honni bod yn arbenigwr ar y pwnc ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n cael ychydig o drafferth dygymod â’r syniad bod ein brenhines yn bwydo geiriau i’w ffôn am yr ymweliad diweddaraf neu bethau tebyg. Wedi dweud hynny, dydw i ddim mor allan ohoni nes sylweddoli nad y Frenhines fydd yn trydar: menter yw hon gan swyddfa gyfathrebu’r Palas ac mae hynny’n berffaith resymol. Gan fod y frenhiniaeth bob amser wedi ymaddasu i newidiadau cymdeithasol a thechnolegol, dydy trydar yn ddim mwy na’r cam diweddaraf yn y broses honno.

Yr hyn a wnaeth i mi feddwl am hynny oedd ein bod ni wrthi’n lansio blog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol. Mae ef i’w weld yma.  Y syniad yw y gall ein cydweithwyr weld yr holl weithgareddau gwahanol y mae aelodau’r Bwrdd yn eu cyflawni a chael cip ar y ffordd y mae pethau’n gweithio. Ond yn wahanol i’r e-bost hwn y bydda i’n ei lunio bob mis, caiff y mwyafrif o’r cyfraniadau i’r blog o dan fy enw eu llunio ar fy nghyfer i. Bydda i’n eu hadolygu ac, os bydd angen, yn eu golygu, ac ambell waith bydda i’n ysgrifennu fy rhai fy hun. Rwy’n credu mai dyna’r drefn arferol gan mwyaf a bydd gen i reolaeth olygyddol o hyd, ond mae’n bwysig i mi fod yn glir ynglŷn â’r materion hyn. Beth bynnag, gobeithio y cewch chi flas ar y blog – lle cewch chi gyfraniadau gan amrywiaeth o aelodau’r Bwrdd – ac yn ei gael yn ddefnyddiol.

Yn gynharach yn y mis fe siaradais mewn digwyddiad sy’n un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn fy marn i: y derbyniad i ysgolheigion rhyngwladol. Fe wnes i gyfarfod â myfyrwyr o bedwar ban y byd yno. Yr Unol Daleithiau, Ghana, Tsieina, De Affrica ac India yw dim ond dyrnaid o’r gwledydd sy’n dod i’r meddwl. Roedd y myfyrwyr yno’n hynod lafar, disglair a difyr, ac yn ysbrydoliaeth. Atgoffodd hynny fi – er nad oes angen f’atgoffa – mai amrywiaeth ein myfyrwyr yw un o’r pethau sy’n ein gwneud ni’n gryf ac yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd, brodorion o diroedd y tu hwnt i’r ynysoedd hyn yw chwarter ein myfyrwyr; yn wir, mae’r gyfran yn codi i ychydig dros hanner yn achos ein myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir. Mae hynny’n beth da. Gan mai prifysgol ydyn ni, mae angen i ni recriwtio’r myfyrwyr gorau a disgleiriaf – y rhai sydd â’r potensial i lwyddo ble bynnag y byddan nhw, boed yng nghymoedd y De neu ar gyfandir arall. Mae ymchwil UUK yn dangos yn eithaf clir bod y mwyafrif o bobl yn y wlad hon yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol ac yn sylweddoli eu bod yn dod i’r wlad hon i astudio, ac efallai i weithio am gyfnod os gallan nhw, ac yna’n mynd adref i’w gwlad â set wych o sgiliau, addysg a phrofiad. Yn ystod cynadleddau’r pleidiau eleni, syndod oedd gweld y byddai hyd yn oed UKIP yn symud myfyrwyr o’r targed net ar gyfer mewnfudwyr. Mae’n debyg bod cytundeb eang â’r dadleuon rydyn ni fel sector wedi’u bod yn eu cyflwyno ynghylch fisâu myfyrwyr ac rwy’n gobeithio y gwelwn ni beth symud ynghylch hynny ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Bu mis Hydref yn un mawr am lansiadau. Fe lansion ni System Arloesi Caerdydd yn Adeilad Hadyn Ellis, y pum prif brosiect ymgysylltu yn y Senedd, a Chynghrair GW4 yn Nhŷ’r Cyffredin. Denwyd llawer i bob un ohonyn nhw a bu’r sylwadau’n ffafriol. Am amrywiaeth o resymau, mae’n bwysig nid yn unig i ni arloesi, ymgysylltu a chydweithio ond i bobl weld ein bod ni’n gwneud hynny. Rwy’n sylweddoli, wrth gwrs, ein bod ni’n cyflawni’r mathau hynny o brosiectau ers blynyddoedd ond bellach rydyn ni’n arddel ymagwedd ymwybodol a strategol a gaiff ei bwydo i’n penderfyniadau buddsoddi ac a fydd yn weladwy iawn i bobl y tu allan. Bydd hyn i gyd yn ein helpu ni i wella’n safle’n hunain ac o fantais i iechyd, ffyniant a lles pobl yng Nghymru a thu hwnt.

Cyn cau, hoffwn ddweud ychydig eiriau am Gynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (yr USS) gan fod y newidiadau arfaethedig iddo’n effeithio ar nifer fawr o gydweithwyr yn y Brifysgol a’i fod yn destun cynllun gan Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (yr UCU) i weithredu’n ddiwydiannol. Y pwynt cyntaf yw bod y materion dan sylw’n hynod gymhleth ac yn destun trafod ar lefel Prydain yn hytrach na chan brifysgolion unigol. Mae’r cynnig gan UUK y cytunwyd arno gan Grŵp yr USS o Fforwm Pensiynau y Cyflogwyr yn destun ymgynghoriad ac ni ellir cytuno arno ond gan y Cyd-Bwyllgor Negodi (y JNC), sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r cyflogwyr a’r UCU. Bydd angen i unrhyw gynnig gan y corff hwnnw fod yn destun cytundeb gan Ymddiriedolwyr yr USS a’r Rheoleiddiwr Pensiynau, a bydd yn destun ymgynghoriad ffurfiol â holl aelodau’r USS. Yn amodol ar y trafodaethau, go brin y byddai unrhyw newid yn dod i rym tan fis Ebrill 2016 o leiaf. Proses faith yw hon, felly, a hir fydd y trafod. Ond mae’n bwysig sylweddoli hyn: os na all y partïon perthnasol lunio cynllun sy’n datrys problem diffyg y cynllun, ac yn bodloni’r Rheoleiddiwr Pensiynau, gellir gorfodi datrysiad iddo a allai fod yn llai deniadol i’r aelodau nag y gallai’r naill ochr a’r llall ddymuno’i weld. Bydd hi er budd i ni i gyd, felly, i ddod i gytundeb.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor