Newyddion yr Is-Ganghellor

Cynhadledd eilflwydd yr Uned Her Cydraddoldeb

Rwy’n ysgrifennu hyn ar fy ffordd yn ôl o gynhadledd eilflwydd yr Uned Her Cydraddoldeb (yr ECU) a gynhaliwyd eleni yn Lerpwl (lle cefais fy magu, fel mae’n digwydd). Rwy’n aelod o Fwrdd yr Uned oddi ar 2008 ac wedi llwyddo i fynd i bob un o’i chynadleddau hyd yn hyn. Rwyf wedi dysgu rhywbeth newydd yno bob tro a bydd yna gyfraniadau sydd bob amser yn ysbrydoli dyn. Cadeiriais sesiwn lle soniodd yr Athro Julius Weinberg, Is-Ganghellor Prifysgol Kingston, a’r Athro Maggie Kinloch, Is-Brifathro Conservatoire Brenhinol yr Alban, am eu profiad wrth arwain newidiadau i gynyddu cydraddoldeb a hybu rhagor o amrywiaeth. Cawson nhw ill dau dderbyniad da ac fe ysgogon nhw lwyth o gwestiynau: er enghraifft, sut y byddwch chi’n ymdrin â’r gwrthdrawiadau sy’n codi’n aml wrth i amrywiaeth gynyddu? Neu sut mae ateb y cyhuddiad bod mesurau i gynyddu cydraddoldeb yn golygu bod ansawdd y bobl yn gostwng am nad ydych chi bellach yn dewis ar sail rhagoriaeth? Er ’mod i heb roi cyflwyniad, cefais gais i fod yn un o’r rhai a fyddai’n ateb y cwestiynau mwy cyffredinol hynny; manteisiais ar y cyfle am fod gen i farn gref am y materion hyn. Fy ateb i’r cwestiwn olaf ynghylch meini prawf dewis yw ei bod hi’n amlwg nad yw hynny’n wir. Dwy’ i ddim yn credu am eiliad mai’r rheswm pam nad yw ond 17% o is-gangellorion yn fenywod yw nad oes digon o fenywod sydd â’r priodoleddau angenrheidiol i fod yn ymgeiswyr. Yn ddiweddar, mae ymchwil wedi dangos bod menywod yn ymgeisio am swyddi is-gangellorion ac yn cael eu rhoi ar y rhestr hir – ac felly maen nhw yno – ond bod tuedd i beidio â’u rhoi nhw ar y rhestr fer, ac anamlach byth y cân nhw eu penodi, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael cyfleoedd tebyg i rai’r dynion i ddatblygu. Dydy’r ddadl nad yw menywod ddim wedi cyrraedd y safon iawn neu nad oes ganddyn nhw mo’r priodoleddau cywir i arwain ddim yn dal dŵr o gwbl. Mae gennym ni broblem ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth ym myd addysg uwch, a chystal i ni gyfaddef hynny. Yn achos academyddion, mae’r bwlch rhwng cyflogau’r ddau ryw yn fwy na 12% ac yn fwy nag 11% yn achos cydweithwyr sydd heb fod ar gontractau academaidd. Mae hynny’n wir ar draws y sector, ac nid yng Nghaerdydd neu Gymru’n unig. Dyna pam y mae’r Uned Her Cydraddoldeb yn bod. Y newyddion calonogol yw bod nifer anhygoel o fawr o bobl wedi dod i’r gynhadledd; yn wir, doedd dim lle i bawb a fyddai wedi hoffi bod yno. Roedd lefel brwdfrydedd, ymrwymiad ac arbenigedd y cyfranogwyr yn hynod uchel. Roedd pump neu chwech o is-gangellorion yno; byddai’n dda gen i weld rhagor o uwch-arweinwyr prifysgolion yn dod er mwyn iddyn nhw weld awydd angerddol y bobl yn eu sefydliadau eu hunain i sicrhau newid. Gobeithio y gwelwn ni hynny’n digwydd erbyn y gynhadledd nesaf ymhen dwy flynedd.