Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Beirdd Cymru

Heddiw cefais yr anrhydedd o gael Llysgennad Hwngari, Peter Szabadhegy, yn westai i ginio canol-dydd. Hwn oedd ei ymweliad cyntaf â Chymru ac rwy’n sicr iddo fwynhau’n lletygarwch Cymreig ni. Cafodd ef hefyd ei gyflwyno gennym i rai o’n myfyrwyr o Hwngari. Rwyf bob amser wrth fy modd yn gweld ein myfyrwyr yn dangos cymaint o frwdfrydedd. Yn sicr, fe wnaethon nhw’n siŵr i’r Llysgennad gael argraff ragorol o’r Brifysgol, y ddinas a Chymru.

Yn garedig iawn, daeth y Llysgennad ag anrheg i mi. Gan ei bod hi’n rhodd mor feddylgar a diddorol, penderfynais ei disgrifio yn fy mlog. Rhoes i mi gerdd Hwngareg (a chyfieithiad Saesneg ohoni) a ysgrifennwyd ym 1857 gan y bardd o Hwngari, János Arany. Mae’r gerdd, Beirdd Cymru, yn sôn am dynged y 500 o feirdd o Gymru a ddienyddwyd gan Edward I am beidio â chanu ei glodydd mewn gwledd a gynhaliwyd yng Nghastell Trefaldwyn. Trosiad oedd hi mewn gwirionedd gan mai’r bwriad oedd iddi feirniadu rheolaeth yr Hapsbwrgiaid dros Hwngari wedi’r chwyldro yno ym 1848. Gan na allent fynegi eu beirniadaeth ar y pryd, fe gymharai’r gerdd eu sefyllfa â buddugoliaeth y Saeson dros y Cymry ym 1277. Cymaint yw grym y neges yn y gerdd nes bod holl blant ysgol Hwngari hyd heddiw’n ei hastudio ac yn gorfod ei dysgu. Yn ddiweddar, gosododd un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, y cyfansoddwr o Gymro, Karl Jenkins, y gerdd ar gân, a rhoes y Llysgennad grynoddisg ohoni hi, hefyd, i mi. Mae’n syndod beth ddysgwch chi dros ginio.