Newyddion yr Is-Ganghellor

Ymgysylltu â’r Almaen

Oherwydd fy nghefndir academaidd a’m Halmaeneg rhugl, bydda i’n aml yn cael gwahoddiad gan brifysgol neu ryw gorff arall sy’n ymwneud ag addysg uwch i fynd ar ymweliadau byr â’r Almaen. Mae’n gyfle pellach i dynnu sylw at Gaerdydd a chodi syniadau gan bobl eraill yn ogystal â chyfrannu o’r hyn rwyf wedi’i ddysgu o ’mhrofiad i yma. Rwy’n aelod o Gyngor Rhyngwladol Prifysgol Rydd Berlin, er enghraifft, ac yn y cyfarfod blynyddol ym mis Tachwedd 2014 fe drafodon ni eu strategaeth o ddatblygu’n ‘brifysgol rwydwaith ryngwladol’, un sy’n debyg i’n nod ni o sicrhau dau bartner rhyngwladol agos (Leuven yw’r cyntaf ohonyn nhw). Mae hi bob amser yn fuddiol cymharu’r hyn a wnawn ni â’r hyn y mae prifysgolion nodedig eraill yn ei wneud.

Yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, rhoddais ddarlith ym Mhrifysgol Rostock cyn mynd i gyfarfod o Gyngor Menter Ragoriaeth Prifysgol Bremen. Y stori fawr ym myd yr economi tra oeddwn i yno oedd hollti E.on, y cwmni ynni mawr o’r Almaen, yn ddau gwmni newydd: bydd ‘Eon Future’ yn hoelio’i sylw ar ddefnyddiau adnewyddadwy, y grid cenedlaethol a defnyddwyr, ac ‘Eon Classic’ yn delio ag ynni niwclear, gorsafoedd cynhyrchu sy’n llosgi glo, a masnachu nwy ac ynni. Canlyniad yw hynny i’r hyn sy’n cael ei alw yn yr Almaen yn ‘Energiewende’, sef y ‘shifft ynni’ lle mae’r llywodraeth, er mwyn hybu’n gryf y symud at ddefnyddio defnyddiau adnewyddadwy, yn rhoi cymorthdaliadau blynyddol o ryw €23bn i’w gwneud hi’n aneconomaidd cynhyrchu ynni drwy’r dulliau ‘traddodiadol’. Ofn y beirniaid ‘gwyrdd’ yw mai troi’n ‘fanc drwg’ y system ynni wnaiff ‘Eon Classic’ ac mai’r trethdalwr, yn y pen draw, fydd yn talu cost datgomisiynu’r holl offer a ddefnyddir i gynhyrchu ynni niwclear, glo a nwy. Elfen sy’n cymhlethu’r broblem yw bod sylwebwyr amgylcheddol blaenllaw – a George Monbiot yn eu plith ym Mhrydain – yn dadlau’n gryf bod gan ynni niwclear rôl hollbwysig i’w chwarae am mai allyriadau carbon yw’r gwir fygythiad ac y dylen ni felly, lle bynnag y gallwn ni, fod yn canolbwyntio ar ddefnyddio ynni niwclear yn hytrach na thanwyddau ffosil. Yn yr Almaen, mae hanes y protestio gwrth-niwclear yn golygu bod hynny’n wleidyddol amhosibl, ond nid yw’n cynnig ateb i’r cwestiwn sut mae cadw’r goleuadau ynghynn yn gyson ac yn ddibynadwy. Yn absenoldeb ynni niwclear, does dim ateb i hynny ar hyn o bryd. Er nad yw’r syniad yn apelio aton ni efallai, hyd y gallwn ni weld bydd angen defnyddio tanwyddau ffosil yn y dyfodol. Mae’n dibyniaeth ni arnyn nhw’n aruthrol ar hyn o bryd; o’r ffynhonnell honno y daw’r rhan fwyaf o lawer o’r ynni a gynhyrchir yma a does dim ateb cyflym er ein bod ni wedi ymrwymo i gwtogi ar allyriadau carbon dros amser os oes unrhyw obaith o atal y newid yn yr hinsawdd. Ni all neb ddianc rhag y ddibyniaeth honno; yr eiliad y cyneuwch chi olau neu yr ewch chi ar fws, rydych chi’n defnyddio ffrwyth proses sy’n allyrru carbon, serch y gall hynny ragori ar deithio mewn car, ac er eich bod chi efallai wedi diffodd yr holl oleuadau eraill yn y tŷ. Bathodd Uwe Johnson, yr awdur o’r Almaen y lluniais fy nhraethawd PhD arno ac un a oedd yn gyfarwydd iawn â Rostock, ymadrodd bachog i gyfleu anhawster ceisio peidio â chael ein llygru’n foesegol mewn byd lle mae popeth wedi’i blethu i’w gilydd, sef ‘nad oes yr un Swistir foesol y gallwn ni ymfudo iddi’. Rhaid mai’r ateb i hyn yw cwtogi cymaint ag y gallwn ni ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil a chymryd pob cam rhesymol-bosibl, fel unigolion ac fel sefydliad, i wneud hynny. Ni fydd ceisio ymwrthod â thanwyddau ffosil yn gwneud iddyn nhw fynd i ffwrdd, ac er bod gwahanu Eon, o leiaf yn yr achos penodol hwnnw, yn peri bod hynny’n gam a fyddai’n ymarferol-bosibl, mae problemau ymarferol aruthrol yn codi mewn llu mawr o achosion eraill ac mae cryn botensial i ni weld colledion mawr.

Dylai prifysgolion fod yn fannau lle y byddwn ni’n mynd i’r afael â chymhlethdod dyrys problemau fel y rhain ac yn peidio â’n twyllo’n hunain fod safbwynt moesegol rhwydd yn bod. Rwy’n gyrru car ‘hybrid’ oddi ar 2007 ond go brin bod diben credu y bydd hynny’n dileu defnyddio tanwyddau ffosil; yn sicr, mae ei beiriant trydan yn helpu i leihau allyriadau wrth i mi ddefnyddio’r car, ond dros oes y cerbyd dyw’r sefyllfa o ran defnyddio tanwyddau ffosil ddim yn argyhoeddi dyn cymaint. Mae llywodraeth yr Almaen wrthi’n cyflwyno pecyn mawr newydd o fesurau i gwtogi ar allyriadau carbon, gan gynnwys rhagor o gerdded a beicio a defnyddio rhagor ar gludiant cyhoeddus. Yn ein hachos ni, rwy’n gobeithio y bydd y Prif Gynllun newydd ar gyfer ystadau, sydd i’w ystyried gan y Cyngor cyn y Nadolig, a phrosiect Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, a fydd yn cynnwys cynllun cludiant cynhwysfawr, yn ein helpu ni i allyrru llai o garbon a gronynnau niweidiol. Bydd rhan fawr i’w chwarae gan ymdrechion i gwtogi cymaint â phosibl ar ynni, ymladd gwastraff a gwella inswleiddio. Drwy fuddsoddi yn adeiladwaith y brifysgol ac addasu’n harferion personol ymhellach fyth, gallwn ni wneud cyfraniad go-iawn i daclo’r broblem. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn un real, a’i fygythiad at y dyfodol yn un difrifol; gadewch i ni sicrhau’n bod ni’n cymryd mesurau ystyrlon i’w ymladd.