
Yr wythnos hon fe ryddhawyd canlyniadau Workplace Equality Index Stonewall ar gyfer 2015. Braf dros ben oedd gweld bod Prifysgol Caerdydd yno unwaith eto, yn y24ain lle y tro hwn, ac i ni ragori ar ei 52ain lle yn 2014 (tipyn o naid i fyny’r rhestr). Dim ond un brifysgol arall sydd yn yr 20 uchaf a Chaerdydd yw’r brifysgol ail uchaf.
Roedden ni i gyd wrth ein bodd ym mis Rhagfyr o weld ein canlyniad rhyfeddol yn yr REF, sef cael ein gosod yn 5ed brifysgol yn y DU am ansawdd ein hymchwil ac yn ail am ein heffaith (gwn eich bod chi’n gwybod hyn i gyd ond byddai’n drueni colli cyfle i glochdar!). Ond mae hi lawn cyn bwysiced i ni ddal i symud ymlaen mewn meysydd fel cydraddoldeb ac amrywiaeth. Fis Medi diwethaf, ni oedd un o ddim ond chwe phrifysgol yn y DU i gael marciau llawn yng nghanllaw Stonewall, Gay by Degree, a osododd 158 o brifysgolion y DU yn ôl pa mor gyfeillgar y maen nhw wrth hoywon a pha mor dda yw eu cefnogaeth i’r gymuned o fyfyrwyr LGB. Mae’n wych bod lle mor uchel i ni yn yr arolygon hyn o’n myfyrwyr a’n staff.