Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Ionawr yr Is-Ganghellor i’r holl staff

Annwyl gydweithiwr

Gadewch i mi ddechrau’r e-bost cyntaf hwn yn 2015 drwy longyfarch amryw o’n cydweithwyr. Gwn fod llawer o bobl yn y Brifysgol a thu hwnt wrth eu bodd o glywed bod yr Athro Terry Rees wedi’i dyrchafu’n Fonesig yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Mae Terry wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol eithriadol nid yn unig yn y bywyd academaidd ond yn ehangach o lawer, ac nid yn unig yng Nghymru ond ar lefel y DU ac yn rhyngwladol. Hoffwn longyfarch Terry’n gynnes ar ran pawb ohonom ni yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Llongyfarchiadau hefyd i’r Athro Steve Eales ar ddyfarnu iddo fedal hynod nodedig Herschel am ymchwiliad o deilyngdod arbennig mewn astroffiseg arsylwadol, ac i Dr Haley Gomez ar iddi gael Gwobr Fowler am gyfraniad o bwys i astroffiseg.  Mae’r gwobrau hynny, wrth gwrs, yn ategu perfformiad arbennig Ffiseg yn yr REF, ac mae’n wych gweld cymaint o lwyddiant. Ond nid dyna’i diwedd hi am i’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth gyflawni camp driphlyg pan lwyddodd tri chais i’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (yr ERC) am grantiau ymchwil yn yr un rownd. Mae’n arbennig o braf bod y ceisiadau llwyddiannus yn rhai am grantiau cyfnerthu hynod gystadleuol sydd wedi’u hanelu at academyddion sy’n datblygu eu gyrfa tuag at uwch-swydd Athro prifysgol. Enillwyd y tri dyfarniad gan Dr Haley Gomez (unwaith eto!) am brosiect o’r enw ‘Lighting up the dark – the evolution of dust throughout cosmic time’, Dr Mark Hannam (‘Mapping gravitational waves from collisions of black holes’) a Dr Oliver Williams (‘Superconducting Diamond Quantum Nano-Electro-Mechanical Systems’). Gan fod cyfanswm y grantiau hynny’n werth dros €6.5 miliwn, maent yn argoeli’n dda at y dyfodol. Unwaith eto, llongyfarchiadau i bawb perthnasol.

Newyddion llai dymunol yw bod cynnig a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd yn gynharach yn y mis yn debyg o effeithio er gwaeth ar yr ERC am y bydd yn tynnu rhyw €2.2bn o raglen Horizon 2020 y mae’r ERC yn rhan ohoni. Byddai’r cynnig yn ailgyfeirio cyllid o Horizon 2020 i helpu i greu Cronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd (EFSI) mewn ymdrech i ysgogi twf a swyddi. Byddai’r ERC yn colli €221m, yn bennaf o alwadau yn 2016 a 2017. Rhaid aros i weld a gaiff twf a swyddi eu hysgogi, ond mae hi’n glir bellach y caiff y gronfa newydd honno’i chyfeirio mewn gwirionedd at ganiatáu i’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd wneud benthyciadau – creu dyled gyhoeddus, i bob pwrpas – a bod y rheiny’n debyg o gael eu dosbarthu ar sail daearyddiaeth. Dosbarthu cyllid ar sail rhagoriaeth wna’r ERC, ac ar ffurf grantiau yn hytrach na benthyciadau. Felly, os cyfeirir hyd yn oed gyfran fach o’r EFSI newydd tuag at ymchwil, fel yr awgrymwyd, ni fydd yn destun y broses drylwyr o adolygu gan gydweithwyr, ac nid yw cyllid dyledion yn rhyw ddefnyddiol iawn o ran ymchwil bur. Datblygiad hynod o ddiflas yw hwn ar ôl i’r blynyddoedd o drafod arwain yr hen Gomisiwn a’r Senedd i gytuno yn y pen draw ar y setliad o ryw €80bn ar gyfer Horizon 2020. Bydda i’n arwain dirprwyaeth yr UUK i Frwsel ym mis Chwefror a byddwn ni’n lobïo’n egnïol ynghylch hyn. Er ’mod i’n ofni mai cyfyngedig fydd ein gallu i sicrhau newid go-iawn yn y cynnig, fe wnawn ni’n gorau. Gwaetha’r modd, symudiadau mympwyol fel hyn sy’n tueddu i atgyfnerthu’r argraff negyddol o’r UE yr ydym ni’n ceisio’i hymladd yn y wlad hon, ac rwy’n credu bod hynny’n bwynt y mae angen i ni ei gyfleu. Wedi dweud hynny, daliwch ati i geisio i ennill grantiau gan yr ERC; i Brydain ac i Brifysgol Caerdydd mae’n stori o lwyddo ac mae arnon ni eisiau ei gweld hi’n parhau.

Fel y dywedais yn fy e-bost fis Ionawr diwethaf, mae etholiadau Undeb y Myfyrwyr ar y gweill a hoffwn ofyn i’m holl gydweithwyr academaidd esmwytho llwybr y myfyrwyr sy’n sefyll neu sy’n cymryd rhan fel arall. Byddwch cystal â chytuno â cheisiadau rhesymol am amser i ymroi i’r broses honno yn ystod y cyfnod ymgyrchu eleni, sef 23-27 Chwefror; mae’n bwysig i fyfyrwyr gael eu cynrychioli’n briodol ac i ni gefnogi’r broses ddemocrataidd sy’n fodd i hynny ddigwydd.

Mae’n dda gen i ddweud i ni lwyddo o’r diwedd, ym mis Rhagfyr, i gwblhau’r broses o lunio’n prif gynllun ac i’r Cyngor gymeradwyo’r cynllun hwnnw. Fel yr esboniais o’r blaen, mae prif gynllun yn arwydd cyffredinol o’r cyfeiriad y byddwn ni’n ei gymryd i ddatblygu’r ystâd dros y deg i ugain mlynedd nesaf ac nid yw’n manylu ar brosiectau penodol. Ond gan ei fod yn rhan hanfodol o’r broses benderfynu pan ddaw hi’n fater o fuddsoddi cyfalaf, rwyf wrth fy modd o weld bod y cynllun yn ei le. Os oes gennych ddiddordeb, cewch wybod rhagor amdano yma.

Yn olaf, byddwch chi’n gwybod bod UUK a’r UCU wedi gallu dod i gytundeb ar fater pensiynau ac felly na fydd y gweithredu diwydiannol sydd wedi’i ohirio ers mis Tachwedd yn ailgychwyn. Nid yw’n achos dathlu am nad oes ar neb eisiau bod mewn sefyllfa i orfod diwygio darpariaethau pensiwn yr USS ond bellach mae gennym ni o leiaf ffordd adeiladol ymlaen ac mae buddiannau’r myfyrwyr wedi’u diogelu.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor