Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Chwefror yr Is-Ganghellor i’r holl staff

Annwyl Gydweithiwr

Hoffwn gychwyn drwy roi’r newyddion diweddaraf i chi am fater y soniais amdano fis diwethaf, sef y toriadau a gynigiwyd gan Arlywydd newydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, i Raglen 2020. Erbyn hyn, €2.7bn yw’r gostyngiad arfaethedig, a bydd toriad o €221m yng nghyllid y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (yr ERC). Ysgrifennaf hwn ar yr Eurostar wrth ddychwelyd o arwain dirprwyaeth lobïo i Frwsel ar ran UUK, ac rwy’n falch o ddweud i ni gael gwrandawiad llawn cydymdeimlad mewn mannau dylanwadol. Byddai’n ormod disgwyl i’r toriad hwnnw ddiflannu – er i ni, ynghyd â chynrychiolwyr prifysgolion o wledydd eraill yr UE, ddadlau’n gryf o blaid hynny – ond mae angen i ni ei gwneud hi’n glir bod rhaid i hyn beidio â digwydd eto. Dau ddarn o newyddion da: nid effeithir ar y galwadau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan yr ERC ar gyfer 2014 a 2015, a hyd yn hyn mae Caerdydd wedi gwneud yn dda o ran ennill grantiau Horizon 2020. Fe lwyddon ni i ennill 26 o brosiectau sy’n amrywio ar draws pob un o’r tair colofn, sef Gwyddoniaeth Ragorol, Arwain Diwydiant a Heriau i Gymdeithas, ac mae cyfanswm ein cynigion llwyddiannus yn werth bron £13m. Mae hynny’n newyddion gwych ac yn deyrnged i’r holl gydweithwyr sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau’r prosiectau hynny.

A dal ar thema ymchwil, fe gymeradwyodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn ddiweddar sefydlu tri Sefydliad Ymchwil newydd yn y Brifysgol, sef Troseddu a Diogelwch, Imiwnedd Systemau a Systemau Ynni. Adnewyddwyd hefyd y pedwar sefydliad sy’n bod yn barod, sef Sefydliad Catalysis Caerdydd (y CCI), y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl a’r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy. Nod y Sefydliadau, a ddatblygir gan y gymuned academaidd, yw sicrhau’r cydlynu strategol ar ein hymdrechion i roi sylw i’r heriau byd-eang sy’n wynebu’r ddynoliaeth, neu ddefnyddio ymagweddau penodol fel ymchwil i fôn-gelloedd canser neu i gatalysis i ganolbwyntio ar heriau o’r fath. Rydyn ni eisoes wedi sicrhau rhai llwyddiannau trawiadol: adnewyddwyd grant y Cyngor Ymchwil Feddygol i Sefydliad y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, sefydliad sydd â record wych o ennill grantiau, ac mae Sefydliad Catalysis Caerdydd bellach mewn partneriaeth â Sefydliad Fritz Haber o gymdeithas hynod nodedig, Cymdeithas Max Planck, i ddefnyddio catalysis i ddatblygu ymchwil i ynni. Mae hynny’n golygu bod Caerdydd yn rhan o’r rhwydwaith MaxNet ar ynni sydd nid yn unig o’r safon uchaf yn academaidd ond hefyd yn uchel ei broffil o ran ein henw da ni. Dyma dystiolaeth wirioneddol o lwyddiant ymchwil ryngwladol gan yr Athro Graham Hutchings a’i dîm yn y Sefydliad ac mae’n bluen yng nghap Caerdydd.

Wrth greu’r Sefydliadau newydd, bu’n gymorth bod â chanlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (yr REF) wrth law. Yn wir, cadarnhaodd y canlyniadau hynny y gwaith meddwl roedden ni wedi’i wneud ymlaen llaw ac, fel rwyf wedi dweud o’r blaen, roedd hi’n braf gweld cystal perfformiad gan bawb ac ym mhob un o’r tri Choleg. Yr her, bellach yw cynnal y safon uchel iawn honno ond ehangu’r sylfaen. Cyflwynwyd 738 o bobl gennym ar gyfer yr REF y tro hwn; y tro nesaf, byddwn ni’n awyddus i gyflwyno llawer mwy na hynny, efallai dros 1200, er bod angen i ni wneud rhagor o waith i weld beth sy’n realistig. Fel y gwyddoch chi, doedd dim modd cynnwys amryw o gydweithwyr y tro hwn am resymau strategol ond, gan fod eraill ar y ffordd i gael eu cynnwys yn bendant, mae gennym ni sylfaen dda. Bydd angen rhoi sylw i unrhyw broblem o ran perfformiad a bydd eisiau i ni wneud y math o benodiadau sy’n fodd i ni ehangu’n sylfaen ond dal i gynnal y safon uchaf a chanolbwyntio ar gael effaith nodedig. Wrth gwrs, nid yr REF yw unig ddimensiwn bod â strategaeth ymchwil lwyddiannus ar gyfer 2020 ac, fel y nodwyd yn Y Ffordd Ymlaen,mae angen i ni gymryd pa fesurau rhesymol bynnag sy’n angenrheidiol i gynyddu 10% y flwyddyn ar ein hincwm ymchwil. Mae angen i ni adnewyddu’n canolbwyntio strategol ar fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hefyd; mae’r Athro Hywel Thomas (Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter) wedi bod wrthi’n gweithio ar hynny a materion eraill fel rhan o’r adnewyddu wedi’r REF ar ein strategaeth ymchwil a chawn ragor o fanylion ganddo yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ar fater arall, byddwch chi’n gwybod bod Etholiad Cyffredinol i’w gynnal ar Fai 7. Fe soniaf ragor am hynny, ac am y materion gwleidyddol sy’n wynebu sector y prifysgolion, yn fy e-bost fis nesaf neu, efallai, ym mis Ebrill. Yn y cyfamser, rydyn ni’n gweithio’n agos gydag Undeb y Myfyrwyr i annog myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio. Bellach, chân nhw mo’u cofrestru i gyd gyda’i gilydd os ydyn nhw’n byw mewn preswylfa i fyfyrwyr; rhaid iddyn nhw fynd ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio a bod â’u rhif Yswiriant Gwladol wrth law. Mae’n broses fer a didrafferth iawn. Mae manylion dod o hyd i rif Yswiriant Gwladol sydd ar goll neu’n angof i’w cael yma. Does gan hyn ddim byd i’w wneud, wrth gwrs, â darbwyllo myfyrwyr i bleidleisio mewn ffordd benodol; nid yw ond yn fater o’u hannog i gofrestru er mwyn ymarfer eu hawl democrataidd fel y gwelan nhw’n dda.

Yn olaf, ac ar ran y Brifysgol, a ga’ i longyfarch yr Athro Sally Holland o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ar ei phenodi’n Gomisiynydd Plant Cymru. Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno’r rôl hynod bwysig hon – rôl ac iddi gyfrifoldebau mawr o ran cynrychioli buddiannau plant a phobl ifanc – ac mae’n rôl sydd bellach yn rhan safonol o’r drefn ledled y DU. Llongyfarchiadau mawr i Sally. Mae hi’n benodiad gwych ac yn glod i Brifysgol Caerdydd.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor