Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Mawrth yr Is-Ganghellor i’r holl staff

Annwyl gydweithiwr

Ddoe, cymerais ran mewn cyfarfod i dynnu lluniau ar gyfer ymgyrch Undeb y Myfyrwyr, ar y cyd â’r Brifysgol, i ddarbwyllo myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio.  Fe fuon ni’n rhoi hufen iâ am ddim i ffwrdd ar ddiwrnod hyfryd ond rhewllyd o Fawrth.  Roedd hi’n braf gweld bod hynny fel petai’n gweithio’n dda am fod newid wedi bod, fel y soniais y tro diwethaf, yn y ffordd y caiff pleidleiswyr eu cofrestru a’i bod hi’n bwysig felly fod myfyrwyr yn cymryd yr ychydig funudau y mae eu hangen i gofrestru.

Mae’r Etholiad Cyffredinol bron ar ein gwarthaf ac un o’r achosion mwyaf o ansicrwydd yw hwnnw ynghylch addysg uwch yn y DU.  Mae byd addysg uwch fel petai wedi symud dros y blynyddoedd o ryw ferddwr lle byddai ambell newid bach i’r drefn ac amrywio ar yr ariannu i un lle y gall fod newid mawr i holl sylfaen ein ffordd ni o weithio.  Mae cyflwyno ffioedd uwch a’r dileu graddol ar y cyfyngiadau ar niferoedd y myfyrwyr oddi ar etholiad 2010 wedi newid tirwedd addysg uwch yn rhyfeddol.  Er ei bod hi’n gwbl ansicr pa fath o lywodraeth a gawn ni nesaf – ac wrth lunio hyn o lith mae’r ddwy brif blaid mewn sefyllfa debyg iawn i’w gilydd yn y polau piniwn a’r naill a’r llall ymhell o fod â gobaith o sicrhau mwyafrif absoliwt – fe wyddom ni y bydd y llywodraeth nesaf dan arweiniad Llafur gydag Ed Miliband wrth y llyw neu’r Ceidwadwyr â David Cameron yn dal yn Brif Weinidog.  Beth allai’r naill neu’r llall o’r canlyniadau hynny ei olygu i fyd addysg uwch?  Mae’n amhosibl dweud i sicrwydd, wrth gwrs, am y gallai llywodraeth glymblaid neu lywodraeth leiafrifol wynebu pob math o ddynameg wleidyddol.  Ond mae’r ddwy brif blaid wedi dweud digon erbyn hyn am eu polisïau ar brifysgolion a materion cysylltiedig fel mewnfudo i roi rhai cliwiau i ni.

Dan arweiniad Ed Miliband byddai llywodraeth Lafur yn cyfyngu uchafswm y ffi y gallai prifysgolion yn Lloegr ei godi i £6000.  Cafwyd arwydd y câi’r bwlch yn y cyllid yn Lloegr o ganlyniad i hynny, sef rhyw £3bn, ei lenwi drwy newid yr ysgogiadau treth ynghylch pensiynau; y syniad, mae’n debyg, yw y gallai’r rhai sydd eisoes wedi elwa o ddilyn gyrfa lwyddiannus, a hynny efallai ar sail addysg mewn prifysgol, fforddio aberthu i helpu’r rhai sydd ar gam llawer cynharach yn eu bywyd.  Bydd llawer yn dibynnu ar faint o arian a ddaw’n ôl i’r prifysgolion drwy’r cyngor cyllido; bydd arian yn dynn ac efallai na chaiff y bwlch mo’i lenwi’n llwyr.  Un o effeithiau posibl y newid hwnnw fyddai peri bod deddfwriaeth i reoleiddio prifysgolion yn Lloegr yn llai o flaenoriaeth am y byddai gan y cyngor cyllido gamau ariannol y gallai eu cymryd i reoleiddio drwy osod amodau ynglŷn â’r grant addysgu.  Cwestiwn agored yw’r hyn a olygai hynny i Gymru; yma eto, byddai angen llenwi’r bwlch yn y cyllid er y gellid arbed llawer ar grant y ffioedd dysgu ac fe ellid ailgyfeirio hynny.  Ond gan fod newid systemau cyllido’n ddychrynllyd o gymhleth, mae’n ffodus bod gennym ni yng Nghymru arolwg o gyllid myfyrwyr ar waith ac y bydd hwnnw’n gallu ystyried y materion hyn, gan gynnwys unrhyw effeithiau anfwriadol.  Gallem ddisgwyl i newid yn y system o dalu ffioedd yn Lloegr achosi rhywfaint o aflonyddwch ac ansicrwydd, fel y gwnaiff y pethau hyn, a byddai hynny’n peri bod cynllunio’n anodd.  Ar fater mewnfudo, mae Llafur wedi gwneud y cyhoeddiad, sydd i’w groesawu’n fawr, y byddent yn tynnu myfyrwyr o’r cyfrif net ar fewnfudwyr ac yn ymchwilio i ffyrdd o wella’r fisa i weithio ar ôl astudio.  Yn sicr, byddai tinc mwy amlwg-groesawgar yng ngeiriau’r Swyddfa Gartref yn gymorth.  O ran cyllid ymchwil, mae Llafur wedi gwneud synau cadarnhaol ond heb ddweud eto a fyddai’r cylch cadw o amgylch y gyllideb wyddoniaeth yn parhau.  Mae’n werth nodi i’r Ysgrifennydd Gwladol, Peter Mandelson, ein rhybuddio ni cyn etholiad 2010 y byddai’n rhaid i ni ddisgwyl sicrhau arbedion effeithlonrwydd o 20-25%, ac mae’n sicr y byddai hynny wedi effeithio ar yr arian a fyddai ar gael i ariannu ymchwil.

Os arweinir y llywodraeth newydd gan David Cameron, fyddai gennym ni ddim rheswm dros ddisgwyl i system y ffioedd newid.  Mae’n bosibl, wrth gwrs, y gellid cynnal adolygiad ohoni ac fe wyddom nad oes fawr o awydd gwleidyddol i godi’r terfyn o £9000 ar ffioedd.  Erbyn diwedd y senedd nesaf, felly, fyddai’r ffi o £9000 ond yn werth rhyw £7500 yn ôl prisiau 2012.  Neu, o’i roi mewn geiriau eraill, byddai costau prifysgolion yn dal i godi o flwyddyn i flwyddyn ond nid felly’r incwm a gaent o bob myfyriwr.  Wrth i’r economi wella, bydd y cynllun yn fwyfwy fforddiadwy (am y gall y Trysorlys ragweld y caiff mwy o’r arian sydd wedi’i roi ar fenthyg gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ei dalu’n ôl), ond ymhen amser bydd angen ei ddiwygio i ryw raddau os bwriedir iddo fod yn gynaladwy.  Rhaid aros i weld pa effaith a gâi unrhyw ddiwygio o’r fath ar y gyfundrefn yng Nghymru a byddwn ni bob amser yn wynebu’r broblem y gallai’r newidiadau a wneir yn Lloegr orfodi cyflwyno newidiadau yng Nghymru cyhyd ag y byddwn ni’n dal mewn system sy’n cystadlu â phrifysgolion Lloegr.  Ar fater mewnfudo, go brin y bydd llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn datgymalu’r rhwystrau sydd wedi’u gosod yn systematig ar ffordd myfyrwyr rhyngwladol sy’n dymuno dod i’r wlad hon i astudio.  Yn ddiweddar, dywedodd Theresa May y dylai myfyrwyr aros o fewn y targed net ar fewnfudwyr os bydd gweinyddiaeth Geidwadol arall, ond mae’n anodd dod o hyd i unrhyw un arall sy’n cytuno â hynny.  Wnâi hyd yn oed UKIP ddim cadw myfyrwyr yn y targed hwnnw.  Felly, mae’n amlwg y byddem ni’n dal i wynebu risgiau ynghylch y polisi ar fisâu os na chawn ni unrhyw sicrwydd gan y Ceidwadwyr ynghylch hynny.  Does dim dwywaith nad yw polisi’r Glymblaid ar fisâu wedi bod yn niweidiol i’r prifysgolion a byddwn ni’n dal i ddadlau’n gryf y dylid ei newid.  Dylid hwyluso llawer ar y broses o gael fisa i astudio yma, dylid dileu’r costau ychwanegol sydd wedi’u gosod, a dylid adfer y fisa i weithio ar ôl astudio.  Ar fater ymchwil, mae’r Canghellor George Osborne wedi cefnogi llawer ar y cyllid i wyddoniaeth ac ymchwil yn ystod y senedd hon ac wedi llwyddo i gadw’r un lefel o arian ar gyfer y maes hwnnw ag a gawsom yn 2010, er y bydd chwyddiant wedi peri iddo golli peth o’i werth.  Hynny er gwaethaf toriadau dwfn mewn meysydd eraill.  Os bydd gweinyddiaeth arall o dan arweiniad y Ceidwadwyr, mae’n debyg y byddai’r pwyslais ar fuddsoddi mewn gwyddoniaeth ac arloesi yn parhau.

Bydd y cwestiynau cysylltiedig ynghylch perthynas y DU ag Ewrop a dyfodol y DU ei hun yn effeithio ar bob un ohonom.  Os bydd Cameron yn ennill, cawn refferendwm ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn 2017 neu cyn hynny, efallai, os bydd gan UKIP ddylanwad yn y senedd newydd.  Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, byddai gadael Ewrop yn niweidiol i brifysgolion y DU am fod gweithredu mewn cymuned o 500 miliwn o ddinasyddion o 27 o aelod-wladwriaethau yn well o lawer o ran cyfleoedd ymchwil a symudedd myfyrwyr a staff, heb sôn am amrywiaeth, na pheidio â gwneud hynny.  Dydw i ddim yn credu y dylem ni ofni refferendwm am fod y dadleuon o blaid aros yn Ewrop yn gryf, ond mae’n amlwg bod posibilrwydd y gallai’r DU adael.  Gallai hynny yn ei dro gryfhau’r achos dros annibyniaeth i’r Alban ac, yn wir, mae cynnydd dramatig yr SNP yn ddiweddar yn golygu bod y posibilrwydd hwnnw’n fwy tebygol unwaith eto.  Gall pleidiau llai gael cryn ddylanwad ar lywodraeth leiafrifol neu ar y partner sy’n arwain clymblaid, ac felly nid yw’n amhosibl rhagweld sefyllfa lle bydd y DU yn gadael yr UE ac yna’n dechrau proses o chwalu neu, yn wir, lle y bydd hynny i gyd yn digwydd yr un pryd.

Swm a sylwedd yr uchod yw ein bod ni’n wynebu cyfnod o ansicrwydd eithafol.  Yr unig beth y gallwn ni fod yn sicr ohono yw y bydd yr adnoddau’n dynn iawn pa lywodraeth bynnag a fydd mewn grym.  Os na cheir ad-drefnu llwyr ar ein strwythurau a’n system ariannol ac economaidd, mae cyflwr yr arian cyhoeddus yn golygu bod toriadau mawr ar wariant eto i ddod.  Yn yr hydref fe gynhelir adolygiad cynhwysfawr o wariant a gallai hynny olygu y gwnaiff llai o arian lifo i addysg uwch.  Gallai’r polisi ar fisâu a dyfodol cyfansoddiadol ansicr y DU olygu ei bod hi’n lle llai deniadol i’r doniau gorau astudio a gweithio ynddo.  Gallai newidiadau i’r drefn o ariannu myfyrwyr esgor ar ganlyniadau anfwriadol.

A derbyn nad oes gennym ni fawr o reolaeth dros lawer o’r materion hynny, y peth synhwyrol yw hoelio’n sylw ar yr hyn y gallwn ni ei reoli.  Cawsom dipyn o newyddion gwych yr wythnos hon, sef ein bod wedi cael dyfarniad o £17.3m ac y cawn ni gyllid allanol cyfatebol iddo ar gyfradd o 2:1.  Daw’r arian o Gronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU a bydd yn fodd i ni greu Sefydliad Ymchwil yn Nhechnoleg Lled-ddargludyddion mewn partneriaeth â’r cwmni dargludyddion, IQE, i ysgogi arloesi a thwf economaidd.  Mae’r dyfarniad hwnnw’n adeiladu ar ein llwyddiant mawr yn yr REF ac yn cadarnhau rhagor ar ein partneriaeth gadarn ag IQE i greu canolbwynt byd-eang i dechnoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd.  Braf hefyd oedd gweld i ymchwil gan yr Athro Emma Renold o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol gael clod fel un o’r ysgogiadau i gyflwyno gwelliannau pwysig i fil Llywodraeth Cymru ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.  Mae hwnnw’n fater sydd o bwys aruthrol i gymdeithas ac yn effeithio mwy a mwy ar brifysgolion (neu yr ydym ni, fan lleiaf, yn llawer mwy ymwybodol ohono).  Rwyf wrth fy modd o weld bod yr Athro Renold wedi gallu cael dylanwad mor gadarnhaol ar bolisi gan Lywodraeth Cymru a bod Prifysgol Caerdydd yn gallu arwain yn hyn o beth.  Fe ddo’ i’n ôl at y mater hwnnw yn y dyfodol, i’r graddau y mae’r Brifysgol ei hun yn ymwneud ag ef.

Bydd y mathau hyn o lwyddiannau’n fodd i ni fod ar flaen y gad a delio â pha ddatblygiadau allanol bynnag a all ddigwydd.  Ffolineb fyddai peidio â chymryd y newidiadau yn y dirwedd wleidyddol i ystyriaeth, ond mae profiad yn dangos bod prifysgolion yn ymdopi’n dda â newidiadau gwleidyddol a’u bod yn gallu ymladd dros eu hachos, fel y gwnawn ni ar y polisi ar fisâu ac ar Ewrop, heb sôn am amrywiol broblemau ariannu.  Ond yn ei hanfod fe lwyddwn ni drwy ganolbwyntio ar ddiben ein bodolaeth ni fel prifysgol, ac ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda, ac rwy’n ffyddiog iawn ynglŷn â’r dyfodol yn hynny o beth.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor