Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Ebrill yr Is-Ganghellor i’r holl staff

Annwyl gydweithiwr

Pan ddeuthum yma’n Is-Ganghellor yn 2012 teimlais ei bod hi’n bwysig ymweld â’r holl Ysgolion Academaidd ac adrannau’r Gwasanaethau Proffesiynol i geisio cyfarfod cynifer o bobl â phosibl, neu o leiaf roi cyfle i grwpiau o bobl fy holi ac i mi sôn ychydig am y ffordd y mae pethau’n mynd a’r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Gan ei bod hi’n brifysgol fawr, mae’n cymryd peth amser i fynd o amgylch pob un o’r gwahanol fannau a doedd arna i ddim eisiau ymweld â phobman unwaith a pheidio â mynd yn ôl. Dyna pam rwyf wrthi’n awr ar fy ail rownd o ymweliadau, a’r mis hwn fe ymwelais â Seicoleg a Chemeg unwaith eto. Ymwelais â Chemeg ddwywaith, fel mae’n digwydd: ar un achlysur bûm yn siarad â’r uwch-staff cyn mynd i weld y cyfleusterau sydd wedi’u huwchraddio a’r rhai y mae cryn dipyn o angen o hyd i’w huwchraddio, a’r tro arall fe agorais y ganolfan newydd a ariannwyd gan yr EPSRC, sef y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Catalysis. Er fy mod i’n ymwybodol iawn bod llawer o fannau yn y Brifysgol o hyd lle mae problemau y mae angen eu datrys, calondid oedd gweld effaith y buddsoddi a’r ailwampio a ffrwyth llwyddiant cydweithwyr sy’n ymroi’n egnïol iawn i sicrhau cyllid i wella’r sefyllfa. Adeg f’ymweliad â Seicoleg, fe’m trawyd gan y ffordd y mae pobl yn barod i gynnig awgrymiadau buddiol ac adeiladol ac i ofyn cwestiynau treiddgar. Holai un o’r rheiny a gâi’r Ysgolion neu’r disgyblaethau a wnaeth yn dda iawn yn yr REF – drwy sicrhau safon uchel iawn a chyflwyno cyfran fawr o’u staff – eu gwobrwyo am hynny. Yr ateb yw y cânt, ond gall ymddangos fel pe gallai hynny gymryd peth amser ac na fydd, efallai, yn bodloni’r holl ddisgwyliadau. Er ei bod hi’n amlwg ein bod ni’n awyddus i fuddsoddi yn ein meysydd cryf a gwobrwyo’r rhai sydd wedi cyflawni llawer, mae cymaint yn dibynnu ar yr hinsawdd ariannol cyffredinol, ar yr hyn a fydd yn digwydd o ran y cyllid a gaiff addysg uwch ac ymchwil ar ôl yr etholiad cyffredinol ac etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, ac ar lu o ffactorau eraill. Rhywbeth rwyf wedi sylwi arno yw bod pobl yn aml yn diystyru’r buddsoddiad sydd wedi digwydd yn ddiweddar neu nad yw ef, efallai, yn effeithio’n uniongyrchol arnynt (rwyf wedi gweld hyn ym mhob un o’r tri Choleg). Er bod hynny’n ddigon naturiol, mae hi ychydig yn annheg; rwy’n credu y byddai pawb yn y sefydliad yn elwa yn y pen draw os byddwn ni’n fwy a mwy llwyddiannus yn y meysydd y gallwn ni ddisgleirio o ddifrif ynddynt, cyhyd â’n bod ni’n gofalu cynnig cymorth o safon dderbyniol ym mhob maes. Er enghraifft, mae’r Cyngor wedi cytuno i fuddsoddi £38m dros bedair blynedd mewn ailwampio ac uwchraddio’r cyfleusterau addysgu ledled y Brifysgol, ac mae llond gwlad o waith yn mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni i wella’r sefyllfa i’r holl staff a myfyrwyr, yn enwedig o ran technoleg gwybodaeth.

Holodd cwestiwn arall a fyddem ni, o dan y system gyllidebu ddiwygiedig, yn symud y tu hwnt i gynllunio fesul blwyddyn. Yr ateb yw y byddwn; yn ystod y cylch cyllidebu nesaf byddwn ni’n gofyn i’r Ysgolion a’r Colegau gynllunio dros dair blynedd. Dyna fu’r bwriad erioed ond mae’r newid mawr o ariannu ar sail fformiwla i ymagwedd fwy mentrus a strategol wedi cymryd amser. Bydd angen i ni greu cronfa ariannol wrth gefn am ddau brif reswm. Y naill yw bod rhaid i ni fuddsoddi – fel rwyf wedi’i ddweud droeon – os bwriadwn lwyddo. Mae prifysgolion eraill wedi buddsoddi llawer mwy na ni dros y blynyddoedd diwethaf ac mae angen i ni wneud yr un peth os bwriadwn beidio â chael ein gadael ar ôl. Fe fuddsoddwn ni nid yn unig mewn adeiladau ac offer newydd ond mewn ailwampio ac uwchraddio ac, yn bwysicach na dim, mewn pobl. Fel y dywedais yn gynharach eleni, mae angen i ni fynd i mewn i REF 2020 â nifer a fydd yn nes at 1200 na’r 738 a gyflwynwyd gennym i REF 2014, a sicrhau’r un pryd yr un safon neu ragori arni. Bydd angen i ni gynyddu’n niferoedd o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gweithio ar ffyrdd o wella’n heffaith a chynyddu’r incwm a gawn ni o ymchwil yn unol â thargedau Y Ffordd Ymlaen. Ystyr hynny i gyd yw bod rhaid cael rhagor o bobl i weithio i safon ragorol, a bydd hynny yn ei dro yn golygu buddsoddi er mwyn ennill arian yn ogystal â rheoli’n perfformiad a chynllunio’n strategol dros gyfnod o flynyddoedd. Daw’r holl fesurau hynny o dan brosiect ymchwil strategol o’r enw Ymchwil Ymlaen 2020 dan arweiniad yr Athro Hywel Thomas. Yn ei hanfod, mae angen i ni fel Prifysgol fod yn fwy cynllungar (gair llai na deniadol, ond defnyddiol).

Soniais am reswm arall dros greu arian wrth gefn, sef creu gwarged blynyddol a sylweddol o arian. I gynllunio’n ofalus, mae angen i ni gymryd i ystyriaeth y ffaith fod y cyllid cyhoeddus yn dal heb fod yn agos at fod mor gadarn ag yr hoffai unrhyw lywodraeth gyfrifol iddo fod. Mae’r Ddyled Genedlaethol yn uwch nag erioed a bydd y diffyg blynyddol yn y gyllideb yn dal i ychwanegu at gyfanswm y ddyled honno am nifer o flynyddoedd i ddod. Ar ôl yr etholiad bydd cyfyngiadau tynn ar wariant cyhoeddus a gallai hynny effeithio’n ddwysach ar brifysgolion nag a welwyd hyd yn hyn. Bydd creu’n gwarged ein hunain ar ein cyllideb yn helpu i’n hamddiffyn rhag yr effeithiau gwaethaf os daw hi i’r gwaethaf. Felly, sut bynnag yr edrychwn ni arni, cam gwirioneddol fuddiol fydd cynllunio at y dyfodol i greu gwarged.

Er bod rhaid i ni gynllunio ar gyfer pob sefyllfa, mae’n wych gweld bod gwaith caled ac ymrwymiad cydweithwyr ledled y Brifysgol yn dwyn ffrwyth. Rydym wedi’n gosod ar restr fer tri o ddyfarniadau’r Times Higher Education; bydd y llwyddiant hwnnw’n help i gynyddu’n hamlygrwydd, a phwy a ŵyr na allem ni ennill. Roeddwn i hefyd wrth fy modd o weld bod yr Athro Kevin Morgan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi’i benodi’n gynghorydd i’r Comisiynydd Ewropeaidd dros Bolisi Rhanbarthol. Mae honno’n rôl nodedig dros ben ac yn un sy’n bwysig i ddyfodol pob un o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd. Ynghanol hyn i gyd rydyn ni’n dal i ganolbwyntio ar y cyfleusterau a’r cymorth a roddwn i’n myfyrwyr. Yn ogystal ag uwchraddio’n cyfleusterau addysgu, fel y soniais uchod, mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym ar gynigion i sefydlu Canolfan Bywyd Myfyrwyr mewn man canolog a thynnu ynghyd y mwyafrif mawr o’r gwasanaethau y mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn eu darparu i’n myfyrwyr. Fe wnawn ni’n siŵr y caiff darpariaeth dda’i gwneud ar gyfer y myfyrwyr ar safle’r Mynydd Bychan, ond mae ar brifysgol fel Caerdydd angen canolbwynt a fydd nid yn unig yn rhoi i’n myfyrwyr y cymorth y disgwyliant ei gael ond hefyd yn cadarnhau’n safle ni fel presenoldeb o bwys yn y ddinas. Er gwaetha’r holl ansicrwydd a achosir gan y sefyllfa wleidyddol bresennol a chyflwr y cyllid cyhoeddus, rwy’n ffyddiog bod Prifysgol Caerdydd nid yn unig ar y llwybr cywir ond o ddifrif ar ei ffordd i fyny.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor