Newyddion yr Is-Ganghellor

Going Global 2015

Ar 1 Mehefin fe es i Going Global 2015, sef cynhadledd flynyddol a blaenllaw’r Cyngor Prydeinig ac un sy’n denu cynadleddwyr o bedwar ban y byd. Siaradais mewn sesiwn ynghylch sut y gall prifysgolion y DU lynu wrth eu gwerthoedd wrth iddyn nhw ryngwladoli. Yn ei hanfod, dywedais mai’r hyn a ddylai fod ar flaen ein meddwl bob amser yw’n nod elusennol ni (sef creu a lledaenu gwybodaeth er lles pawb). Os gwnawn ni hynny yma ac mewn gwledydd tramor – gan fod yn ymwybodol iawn o unrhyw heriau moesegol penodol y gallai gweithio’n rhyngwladol eu codi – fe lwyddwn ni o ddifrif fel prifysgol fyd-eang. Cymerais ran hefyd mewn cyfarfodydd â dirprwyaethau o Iran, India ac Indonesia lle y mynegwyd gwir ddiddordeb mewn ymgysylltu â’r DU serch y rhwystrau gwleidyddol go ddifrifol sy’n bod mewn rhai achosion. Un o’r uchafbwyntiau oedd araith gyhoeddus gyntaf y Gweinidog newydd dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson. Byddai hi wedi bod yn siom i’r sawl a fyddai (yn annheg, wrth gwrs) wedi disgwyl iddo ymdebygu i’w frawd Boris wrth ei thraddodi. Braidd yn ddi-fflach oedd ef, ac roedd hi’n amlwg ei fod yn darllen sgript o waith gweision sifil. Bydd y gweinidogion mwyaf hyderus yn gosod eu stamp eu hunain ar araith ac, a bod yn deg, roedd ef wedi ychwanegu ambell gyffyrddiad personol ati. Esboniodd Mr Johnson ei ymrwymiad i astudio dramor drwy’n hatgoffa ni iddo astudio ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig ym Mrwsel a Pharis. Mae hynny, ynghyd â’r amser a dreuliodd wedi hynny’n gweithio yn Ewrop, yn argoeli’n dda ar gyfer ein hymgyrch ni i gadw Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd. Bu hefyd am gyfnod yn ohebydd y Times yn New Delhi a deallaf mai ei fwriad yw sicrhau mai India fydd cyrchfan ei daith gyntaf fel gweinidog yn yr hydref. Rydyn ni yng Nghaerdydd, fel llawer prifysgol arall, yn awyddus iawn i feithrin ein perthnasoedd ni yno ac mae croeso mawr, felly, i’r ymrwymiad hwnnw. Fel arall, doedd dim byd a barodd syndod, na dim sôn am bolisïau newydd. Chafwyd mo’r un cyhoeddiad am y cylch cadw sydd wedi diogelu cyllid ymchwil oddi ar 2010, nac am agwedd y llywodraeth newydd at ffioedd cartref. Soniodd y Gweinidog ddim gair am fewnfudo net ond fe ailadroddodd y safbwynt y bydd croeso i’r gorau a’r disgleiriaf ac nad oes cyfyngiad ar niferoedd y fisâu i fyfyrwyr. Mae’n debyg  mai bwriad y llywodraeth yw glynu wrth ei nod o gynyddu’r incwm o allforio addysg o £18bn i £30bn erbyn 2020, ond chafwyd dim gair am y gwrthddweud ymddangosiadol rhwng hynny a rhai o elfennau’r polisi ar fisâu fel y’i gweithredir gan y Swyddfa Gartref. Serch hynny, cyhoeddodd ef y newyddion da fod ehangu’n mynd i fod ar gynllun ysgoloriaethau Chevening. Tipyn o gymysgedd, felly, ond mae’n braf bod â Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth sy’n deall pa mor bwysig yw Ewrop (ac astudio dramor), sy’n rhyngwladol ei fryd ac, am iddo arfer bod wrth galon llunio polisïau yn rhif 10, yn un y bydd y Prif Weinidog yn gwrando arno. Fe gawn ni weld beth ddaw o hyn i gyd ond mae’n benodiad sy’n dangos ôl meddwl ac rwy’n credu y gallwn ni fod yn ddiolchgar am hynny.