Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Mehefin yr Is-Ganghellor i’r holl staff

Annwyl gydweithiwr

Efallai i chi weld erthygl yn y Times Higher Education yn ddiweddar lle dyfynnir geiriau Mr Rob Behrens, prif weithredwr Swyddfa Dyfarnwr Annibynnol Addysg Uwch, fod y diwylliant goryfed yn y prifysgolion yn esgor ar ‘ymddygiad “laddish”’ ar y campws a bod hwnnw wedi’i gysylltu ag amryw o achosion o aflonyddu ac ymosod rhywiol’. Mae hynny wedi esgor, meddai, ar achosion lle nad yw myfyrwyr sy’n wynebu aflonyddu honedig yn gwybod ble mae cael cyngor a chymorth. Fel mae’n digwydd, cychwynnais brosiect rai misoedd yn ôl i ddelio â set eang o broblemau nad yw’r ‘diwylliant ‘laddish’ ond un agwedd arni, sef cam-drin mewn perthynas a thrais yn y cartref. Mae Mr Ben Lewis, Cyfarwyddwr yr Adran Cymorth a Lles Myfyrwyr, wedi bod wrthi’n gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chomisiynydd Heddlu’r De i gyflwyno polisi ac ymrwymiad gan y Brifysgol i helpu myfyrwyr sy’n eu cael eu hunain mewn perthynas lle cânt eu cam-drin yn seicolegol neu drwy drais corfforol. Gan ei bod hi weithiau’n anodd canfod yr arwyddion, a’i bod hi’n anodd i ddioddefwyr wybod pa ddewisiadau sy’n agored iddynt, rhan o ddelio â’r broblem yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r broblem, a hyfforddi’r staff. Dylwn ychwanegu fod prosiect yn cael ei ddatblygu i helpu staff sy’n dioddef y math hwnnw o gam-drin.

Cefndir allanol y mentrau hynny yw deddf a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sef y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol . Yn y man, bydd honno’n fodd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, neu i weinidogion yn uniongyrchol, roi cyfarwyddyd i gyrff llywodraethu ynghylch darpariaethau’r Ddeddf. Er mai’n hymagwedd ni yw bod yn rhagweithiol, ond heb i hynny gael ei ysgogi’n uniongyrchol gan y ddeddfwriaeth, cam synhwyrol, yn sicr, yw gweithredu o fewn ysbryd y fframwaith deddfwriaethol newydd hwnnw. At hynny, mae’n ymddangos i mi bod gennym ni gyfle yma i wneud gwahaniaeth fel prifysgol. Er gwaetha’n record gymharol wael ynghylch pethau fel cyflog cyfartal (rwy’n sôn am y sector, ac nid Caerdydd yn unig), dylai prifysgolion allu arwain y ffordd o ran diwygiadau cymdeithasol a bod yn batrymau o werthoedd blaengar ym meysydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynaladwyedd. Gan ein bod ni’n credu mai cynllun Caerdydd fydd y cyntaf yn y sector, gallwn ni chwarae rôl arweiniol fel y gwnaethom ni, er enghraifft, o ran achredu Cyflogau Byw. Bydd prosiectau o’r math hwn yn gweithio orau o’u cyflawni mewn partneriaeth, ac felly, ar wahân i’r cydweithwyr a grybwyllwyd uchod ac, wrth gwrs, Undeb y Myfyrwyr, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chyrff yn y trydydd sector, gan gynnwys Atal y Fro, Cymorth i Fenywod a Chymru Ddiogelach. Yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth i helpu myfyrwyr a staff i ganfod symptomau cam-drin mewn perthynas, byddwn ni’n cyflwyno system gyfeirio, ledled y Brifysgol, er mwyn i aelod o’r staff sy’n poeni am unigolyn allu cyflwyno adroddiad am hynny, ac i fyfyrwyr wybod ble mae cael cymorth. A dyfynnu papur gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, a gytunodd ar y prosiect, bwriadwn ‘greu cyfleuster ledled y Brifysgol, ar lefel y sefydliad a’r drefniadaeth, i ymateb i ragolwg, ac enghreifftiau go-iawn, o drais a cham-drin domestig, trais i ddiogelu anrhydedd y teulu, stelcio, ymosod yn rhywiol a cham-drin gan gyfoedion neu gydweithwyr’. Yn ogystal, byddwn ni’n ‘datblygu deunyddiau, prosesau a llwybrau sy’n addas i sefyllfa Addysg Uwch. Er y bydd hynny ynddo’i hun yn ddatblygiad arloesol yn y sector hwn, byddwn ni hefyd yn datblygu ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth ac o ymgyrchu ymlaen llaw i newid diwylliant y sefydliad a herio “dallineb bwriadol”’.

Nid yn unig rwy’n cefnogi’r prosiect hwnnw, ond fi a’i cychwynnodd. Rwy’n credu’n gryf bod gan bawb yr hawl i fyw bywyd yn rhydd rhag bygythion, bwlio a thrais. Yn drist ddigon, mae cam-drin un rhyw gan y llall, a ffurfiau eraill ar fwlio, yn fwy cyffredin nag yr hoffem ni gredu ei fod, efallai, yn enwedig y ffurfiau mwy andwyol ar gam-drin seicolegol arno. Gobeithio y gallwn ni fel Prifysgol wneud rhywbeth i newid hynny.

Yn wir, un o elfennau mwyaf gwerthfawr gweithio mewn prifysgol yw gallu dylanwadu ar y byd a’i newid er gwell. Er bod y gallu hwnnw wedi’i grisialu yn y gair ‘effaith’ neu ‘impact’ sydd bellach yn rhan mor ganolog o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, mae’r syniad bod prifysgolion yn rym er lles i gymdeithas yn bod ers blynyddoedd maith. Calondid i mi, er enghraifft, oedd gweld bod yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu, wedi cyhoeddi papur i’r Senedd yn ddiweddar ar ordewdra gan ddangos nid yn unig effeithiau cymdeithasol ac economaidd difäol yr epidemig hwnnw ond wedi cynnig ymagweddau ymarferol i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Ym mhapur y Sefydliad Materion Cymreig i’r Senedd, sef Good Food for All, mae’r Athro Morgan yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r asiantaethau perthnasol a busnesau cefnogol i ‘drechu pŵer aruthrol y diwydiant bwyd sothach, sef ffynhonnell sylfaenol ein hamgylchedd obesogenig’. Fy hun, credaf fod helpu pobl i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w hymddygiad yn golygu gwneud newidiadau systemig i’r ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu, ei ganfod a’i gyflwyno. Llywodraeth yn unig all wneud hynny, ac ni all ei wneud ond drwy gyfuno newidiadau deddfwriaethol â gweithio mewn partneriaeth. Rôl y Brifysgol yw bod yn beiriant deallusol sy’n gyrru’r newidiadau hynny (fel yn achos y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a ysbrydolwyd gan yr Athro Emma Renold o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) a chynnig patrwm o’r mathau cywir o ymddygiad, os yw hynny’n bosibl. Mae arloesi’n fwy na chyflwyno technolegau newydd. Mae’n fater o siapio cymdeithas a’r economi i wynebu heriau’r dyfodol ac yn sicr mae gordewdra’n her sy’n cynyddu beunydd.

Gan ddilyn trywydd tebyg, aethom ati’n ddiweddar i gomisiynu adroddiad gan Viewforth Consulting i asesu, am y tro cyntaf, effaith Prifysgol Caerdydd ar yr economi lleol ac economi ehangach Cymru. Mae’r adroddiad yn dangos y caiff manteision economaidd y Brifysgol eu teimlo nid yn unig yng Nghaerdydd ond ym mhob rhan o Gymru. Ymhlith pethau eraill, mae’n nodi bod y Brifysgol yn denu 12,045 o fyfyrwyr i Gymru o rannau eraill o’r DU a 6,605 o fyfyrwyr i Gymru o’r tu allan i’r DU. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu cyfanswm o 13,355 o swyddi, sef bron 1% o’r holl gyflogaeth yng Nghymru yn 2013. Bob blwyddyn, cynhyrchwn gyfanswm o £168M mewn enillion o allforion ac mae’n hallbwn ni’n werth £456M ac yn esgor ar £613M ar ben hynny mewn diwydiannau eraill ledled y DU, a’r rhan fwyaf o hwnnw (£458M) yng Nghymru. Ohonynt eu hunain, mae myfyrwyr o’r tu allan i’r UE yn cynhyrchu £94M o allbwn i economi Cymru. Mae Prifysgol Caerdydd yn gyfrifol am £696M o Werth Ychwanegol Gros Cymru (GVA, sef mesur o gyfraniad economaidd), sef 1.34% o holl GVA Cymru yn 2013. Credaf fod hyn yn record i ymfalchïo ynddo ac mae’n dangos pwysigrwydd Prifysgol Caerdydd i ragolygon Cymru at y dyfodol.

Mae’n hollbwysig i ni lwyddo yn y tablau cynghrair, yn yr REF ac yn yr holl fesurau eraill a ddefnyddir yn gyffredin i asesu perfformiad prifysgolion. Ond yn y pen draw rhaid i ni gofio bod prifysgolion yn eu hanfod yn brosiectau i sicrhau gwelliannau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, ac mae’n braf iawn gwybod ein bod ni’n gwneud ein rhan.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor