Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Gorffennaf yr Is-Ganghellor i’r holl staff

Colin Riordan

Annwyl gydweithiwr

Rydyn ni’n agosáu at ddiwedd blwyddyn academaidd arall, a dyma ni flwyddyn i’w chofio. Cawsom ganlyniad gwych yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ac rydyn ni wedi sicrhau rhai llwyddiannau rhagorol o ran grantiau ymchwil, yn enwedig mewn perthynas â CUBRIC II a’r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Cyflawnodd yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth 100% o ran boddhad myfyrwyr a dechreuon ni ar gam cyntaf prosiect pum mlynedd werth £38m i adnewyddu ein hystafelloedd addysgu. Cwblhawyd Uwchgynllun Ystadau cyntaf erioed Prifysgol Caerdydd gan sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer dau adeilad newydd ar y Campws Arloesedd ar Heol Maendy. Mae nifer y staff wedi cynyddu am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, o 5888 yn 2011 i 6716 eleni.

Felly rwy’n credu y gallwn ni fod yn ddigon hapus gyda’r ffordd mae pethau’n mynd yng Nghaerdydd. Ar y llaw arall, mae’r amgylchedd allanol yn llawer llai sicr. Mae ethol llywodraeth Geidwadol wedi arwain at ymdrech o’r newydd i leihau’r nifer o fyfyrwyr rhyngwladol. Mae’n ymddangos fod yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yn meddwl y dylai prifysgolion Prydain fod yn llai dibynnol yn ariannol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Rhaid dweud bod polisïau ei llywodraeth hi wedi golygu ein bod yn ddibynnol ar niferoedd myfyrwyr, o ble bynnag y daw’r myfyrwyr hynny. Fedrwch chi ddim cyflwyno marchnad mewn niferoedd myfyrwyr ac yna mynd ati i wrthwynebu pan fydd prifysgolion yn recriwtio myfyrwyr, ond dyna sy’n ein hwynebu ni. Mewn symudiad sy’n ein hansefydlogi mewn ffordd arall, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) wedi argymell y dylid datgymalu’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) i bob pwrpas, gyda system gryfach o arholi allanol yn disodli’r Adolygiad Sefydliadol a rhwymedigaeth ar gynghorau llywodraethu i’w sicrhau eu hunain gyda gweithdrefnau sicrhau ansawdd, a hynny drwy archwiliad yn ôl pob tebyg. Mae’r gweinidog prifysgolion newydd Jo Johnson yn awyddus i gyflwyno Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd yn Lloegr i redeg ochr yn ochr â’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), ond does dim manylion o gwbl ynghylch ei strwythur. Yng Nghymru bydd rhaid i ni aros cyn gallwn ni benderfynu sut i ymateb yn y ffordd fwyaf priodol, ac wrth gwrs bydd rhan allweddol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru i’w chwarae. Mewn araith ddiweddar cynigiodd Jo Johnson hefyd y dylid taenu cyllid ymchwil yn fwy cyfartal drwy’r DU yn hytrach na’i ganoli fel y mae ar hyn o bryd yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Gallai hyn fod o fudd i ni wrth gwrs, ond mae’n anodd gweld sut y gellid cyflawni’r fath ailddosbarthu heb gyfaddawdu ar ragoriaeth. Gallai adolygiad Syr Paul Nurse o Gynghorau Ymchwil y DU gael effaith pellgyrhaeddol, a bydd yn adrodd yn ddiweddarach yn yr haf. Ac ar ben popeth arall mae ffurf a dyddiad terfynol y REF nesaf, neu hyd yn oed a fydd REF arall (mae’n edrych bron yn sicr y bydd un) eto i’w cadarnhau.

Yng Nghymru, mae Adolygiad Diamond o gyllid prifysgolion wedi bod yn eistedd am yn agos i flwyddyn, a bydd yn cyhoeddi adroddiad interim ar ôl yr haf. Er syndod, mae’r Gweinidog wedi comisiynu adolygiad arall, dan arweiniad yr Athro Ellen Hazelkorn o Sefydliad Technlog Dulyn, sydd i’w weld yn troedio tir tebyg iawn (yn enwedig o ran cyllid; mae’r cylch gorchwyl yn cynnwys cyllido addysg a hyfforddiant mewn addysg ôl-orfodol). Yn wahanol i Adolygiad Diamond, bydd Hazelkorn yn adrodd cyn etholiad Cynulliad Cymru yn hytrach nag ar ei ôl. Daw’r adolygiad diweddaraf hwn ar ben Adroddiad Furlong ar hyfforddiant i athrawon, yn ogystal â’r amrywiol gynigion ar gyfer newid yn Lloegr rwyf i wedi eu crybwyll uchod, a gallwn ragweld y bydd argymhellion yr amrywiol ymchwiliadau hyn yn cymryd peth amser i’w trefnu unwaith iddyn nhw gael eu cwblhau.

Felly mae llawer i’w ystyried yn allanol, gan gynnwys y posibilrwydd cryf o doriadau cyllid o ganlyniad i Gyllideb mis Gorffennaf a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn yr hydref. Ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen, a chefais fy nghalonogi gan yr ymateb i fy ebost diwethaf lle’r oeddwn i’n sôn am ein prosiect newydd ar gamdriniaeth mewn perthynas. Nododd mwy nag un ymateb y cysylltiad ag anghydraddoldeb rhyw a rhywiaeth yn fwy cyffredinol, sydd wedi bod yn y newyddion mewn sawl ffordd dros yr wythnosau diwethaf. Rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon ynglŷn â hyn; dyw’r record cyflog cyfartal yn y sector ddim yn un da, ac mae Prifysgol Caerdydd yn wynebu problem sy’n arbennig o ddyrys. Er ein bod ni’n gwneud yn dda yn y mwyafrif o feysydd, o ran proffesoriaethau, ni sydd â’r record ail waethaf yng Ngrŵp Russell, yn ôl un amcangyfrif. Mae’r mater yn derbyn sylw ond mae’n cymryd mwy o amser nag y byddwn i’n ei hoffi i sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen. Mae’n bwysig sicrhau ein bod ni’n gwobrwyo’r holl gydweithwyr yn deg a’n bod ni’n rhoi ystyriaeth i lwyddiannau, cyfraniad a phrofiad, ond mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd bod problem i’w hwynebu yma ac rwyf i am fod yn gwbl sicr ein bod ni’n gwneud popeth posibl i sicrhau cydraddoldeb triniaeth. Os hoffech ragor o wybodaeth mae erthygl yn Blas a allai fod o gymorth.

Mae ffyrdd eraill ar gael ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb fodd bynnag, ac un o’r rhain yw modelu ymddygiad da. Pa mor sensitif ddylai deallusion dylanwadol fod wrth siarad am y berthynas rhwng y rhywiau yn gyhoeddus? Mae’n ymddangos yn amlwg, er enghraifft, bod o leiaf dri rheswm am beidio â gwneud jôcs rhywiaethol, neu sylwadau ffwrdd â hi y gellid dirnad eu bod yn rhywiaethol. Mae’r un rhesymau’n berthnasol i jôcs hiliol neu homoffobig neu unrhyw gategori tebyg arall. Yn gyntaf, er eich bod yn cael eich gweld yn gwneud jôc, mae perygl y gallai eich cynulleidfa feddwl eich bod yn cydymdeimlo â’r sylwadau rydych chi’n eu gwneud. Gallai ymddangos eich bod chi ddim ond yn gwneud jôc er mwyn pellhau eich hun o’r farn sydd gennych chi mewn gwirionedd ac yr hoffech chi allu ei mynegi’n gyhoeddus. Yr ail reswm yw hyd yn oed os ydych chi’n amlwg yn gwneud jôc, gallai rhai aelodau o’r gynulleidfa deimlo bod y sylwadau’n ymwneud â nhw’n bersonol mewn modd difrïol, a pheri gwir dramgwydd. Yn drydydd, hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu i’ch sylwadau gael eu dehongli mewn modd rhywiaethol am eich bod yn ystyried mai tynnu coes ysgafn ydyn nhw, gallai hyn arwain at normaleiddio disgwrs sy’n camwahaniaethu. Os ydych chi’n dweud jôcs homoffobaidd, hiliol neu rywiaethol yn ddigon aml, byddan nhw’n dod yn rhan arferol o sgwrsio cymdeithasol. Dyma’r perygl llechwraidd. Dyma sut mae strwythurau patriarchaidd a strwythurau grym eraill yn cael eu creu a’u cynnal. Mae unrhyw un sy’n herio’n cael ei gyhuddo o fod yn ddihiwmor, yn methu cymryd jôc neu o fod yn ymosodol. Yn y 1970au roedd comedi a thynnu coes homoffobaidd yn y gweithle’n gyffredin. Gallai pobl wneud sylwadau homoffobaidd gan honni eu bod yn sylwadau digrif heb ofni’r canlyniadau. Yn ffodus, nid fel yna mae’r byd bellach. Yn gyffredinol, dyw pobl sydd â statws a dylanwad heddiw ddim yn cyfranogi mewn hiwmor sy’n dibynnu ar wahaniaethu. Wrth gwrs, mae’n bosibl fod yr hiwmor ymddangosiadol yn celu barn ddiffuant. Fyddwn i byth yn dweud y dylid atal neb rhag mynegi eu barn, ond os ydyn nhw’n gwneud hynny, dylen nhw ddisgwyl cael eu herio’n gryf. Dyna sut y daeth hi’n gymdeithasol annerbyniol i fod yn hiliol, a thrwy herio, mae modd gwneud rhywiaeth yn gymdeithasol annerbyniol hefyd.

Ar nodyn llawer mwy cadarnhaol, cawsom ni wythnos ragorol o seremonïau graddio’n gynt yn y mis. Derbyniodd tua 6300 o raddedigion eu graddau mewn 13 seremoni (a bûm i’n gweinyddu mewn wyth ohonyn nhw). Cawsom groesawu dros 16000 o westeion o dros 60 o wledydd, ac er iddi fwrw glaw, o leiaf doedd dim rhaid i ni ddioddef yn y gwres. Cynhaliwyd tri chinio i ddathlu llwyddiannau ein Cymrodyr Er Anrhydedd a chryfhau ein perthynas gyda rhanddeiliaid lleol a chyfeillion y Brifysgol. Ar y cyfan rwy’n credu i’r holl beth weithio’n dda iawn ac rwy’n gobeithio bod pob un o’r darpar raddedigion a’u teuluoedd a’u cyfeillion yn teimlo iddyn nhw gael cyfle i nodi eu llwyddiant a dathlu yn y modd y bydden nhw’n ei ddewis. Mae’r trefniadau graddio yn her enfawr, gan eu bod yn cynnwys digwyddiadau gan bob Ysgol yn ogystal â’r seremonïau eu hunain, ac rwy’n hynod o ddiolchgar i bawb fu’n rhan o’r gwaith. Dyw hi ddim yn beth braf i enwi unigolion ond eleni hoffwn i ddiolch i’r tîm Arlwyo dan arweiniad Julia Harris gyda chymorth medrus Neil Crotty ac Anne Lewis, tîm y Porthorion dan arweiniad Gerry Light, sydd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir, a Henry Burns am ymgymryd â swyddogaeth ‘meistr y gwisgoedd’ ar gyfer y Cymrodyr Er Anrhydedd a’r rhai oedd yn gweinyddu’r seremonïau. Gwnaeth Frances Dunderdale a Vicky Young o’r Gofrestrfa waith rhagorol, ac roedd cyfraniad y tîm Cyfathrebu a Marchnata eleni’n gwneud gwahaniaeth mawr, gyda Louise Hartrey wrthi’n fedrus yn hwyluso’r cyfryngau cymdeithasol a Lucy Skellon yn trefnu’r ciniawau graddio hynod lwyddiannus. Gaf i ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi’i adael allan yn annheg; rwy’n gwybod bod llawer o gydweithwyr wedi cyfrannu’n sylweddol, ond byddai’n drueni peidio ag enwi neb am fy mod yn ofni tramgwyddo drwy hepgor enwau.

Dwyf i ddim yn anfon yr ebost hwn ym mis Awst felly y tro nesaf i chi glywed gen i fydd tua diwedd mis Medi. Os byddwch chi’n cael egwyl o’r gwaith, pob dymuniad da i chi; rwy’n ymwybodol iawn o’r gwaith caled mae pawb yn ei wneud ac o’r pwysau a’r straen sydd arnom ni i gyd. Rwyf i mor falch fod yr holl ymdrech yn dwyn ffrwyth fel y soniais i ar y dechrau; gallwn ymfalchïo yn yr hyn rydym ni wedi’i gyflawni eleni ac edrych ymlaen yn hyderus at y flwyddyn academaidd newydd.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor