Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Medi 2015

Annwyl gydweithiwr

Hoffwn ddechrau’r neges hon, ebost cyntaf y flwyddyn academaidd newydd, drwy longyfarch yr Athro Karen Holford ar ei hethol yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol. Mae’n anrhydedd arbennig a haeddiannol dros ben. Fel y gwyddoch, rwy’n cydweithio’n agos â Karen yn ei rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, a gwn ei bod yn gosod esiampl ragorol; rwy’n siŵr y bydd ei llwyddiant yn ysbrydoli pobl eraill yn y Brifysgol a thu hwnt.

Bu’n haf da mewn ffyrdd eraill hefyd. Braf iawn oedd gweld ein cynnydd sylweddol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Bellach, mae 17 o’n 24 o ysgolion yn cyflawni dros 90% ar gyfer boddhad cyffredinol, o’i gymharu â 12 y llynedd, a 4 yn cyflawni dros 80% ar gyfer asesu ac adborth, o’i gymharu ag 1 y llynedd. Edrychaf ymlaen at roi gwybod i’r Cyngor bod holl ymdrechion a gwaith ein cydweithwyr yn yr Ysgolion a’r Gwasanaethau Proffesiynol, yn ogystal ag ymroddiad ac arweinyddiaeth yr Athro Patricia Price, wir yn talu ar eu canfed, ac yn ein helpu i gyrraedd y nodau uchelgeisiol a amlinellwyd gennym yn Y Ffordd Ymlaen. Mae’r newyddion am ein safle yn y tablau cynghrair yn fwy cymysg; rydym wedi codi un lle i safle 122 yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd, sydd dal yn well na safle 143 yn 2012, ar ddechrau cyfnod Y Ffordd Ymlaen. Fodd bynnag, yn nhabl cynghrair y Times, rydym wedi gostwng chwe lle i safle 33. Er bod hyn yn dal yn well na safle 35 yn 2012, nid yw’n ddelfrydol. Y prif resymau dros golli tir oedd y cyfraddau cyflawni a chymarebau myfyrwyr-staff, pethau y gallwn wneud rhywbeth yn eu cylch. Er i ni gynyddu ein gwariant fesul myfyriwr, dyna wnaeth Prifysgolion eraill hefyd. Felly, rydym wedi colli tir yn y maes hwnnw hefyd. Ychydig iawn o newid a fu yn y dull mesur ymchwil, ond roedd rhagolygon graddedigion a chyfran y canlyniadau gradd dosbarth 1af a 2:1 wedi gostwng. Un maes lle cawsom ganlyniadau gwell oedd tariff UCAS, sy’n newyddion da. Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr holl feysydd hyn, ac yn cymryd camau fydd, gyda lwc, yn golygu y gwelwn welliant y flwyddyn nesaf, fel y tro diwethaf. I orffen y pwnc trafod hwn ar nodyn cadarnhaol, mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi codi 26 safle yn rhestr Times Higher Education, i safle 182 yn y byd. Newid y fethodoleg parthed cyfraddau dyfynnu sy’n bennaf gyfrifol am y gwelliant hwn, ond mae’n braf cael cydnabyddiaeth am ein llwyddiant fel hyn, hyd yn oed os nad ydym wedi bod yn targedu rhestr Times Higher Education yn benodol. Mae hefyd o fudd ymarferol, oherwydd mae bod ymhlith y 200 prifysgol orau yn helpu rhai myfyrwyr rhyngwladol i gael ysgoloriaethau i astudio yng Nghaerdydd.

Efallai y bydd rhai ohonoch wedi fy nghlywed yn annerch y staff yn gynharach y mis hwn. Nid wyf am ailadrodd popeth a ddywedais yn yr anerchiad (gallwch wylio’r fideo yma, os oes diddordeg gennych), ond mae’n werth nodi ein bod ar drothwy cyfnod o ansicrwydd unwaith eto Mae’r Adran Busnes, Arloesoedd a Sgiliau (BIS) yn San Steffan yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyrdd yn ystod yr hydref (dogfen ymgynghori sy’n rhagflaenu deddfwriaeth) fydd yn nodi rhai dewisiadau ar gyfer creu Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) ar gyfer prifysgolion yn Lloegr. Er na fydd y cynigion hyn yn effeithio ar Gymru’n uniongyrchol, bydd rhaid i ni addasu mewn rhyw ffordd i’r hyn sy’n digwydd dros Glawdd Offa, gan mai dyna ble mae llawer o’r gystadleuaeth. Yn ddiau, bydd cynigion eraill fydd yn newid addysg uwch yn Lloegr, yn ogystal â’r maes ymchwil yn y DU yn ôl pob tebyg, yn effeithio’n uniongyrchol arnom ni. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd y cynghorau ymchwil yn cael eu diwygio. Ar 25 Tachwedd, bydd y canghellor George Osborne yn cyhoeddi canlyniadau’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y bydd yn arwain at ostyngiadau sylweddol yn yr arian a roddir i brifysgolion Lloegr, o ran addysgu ac ymchwil fel ei gilydd. Byddai hyn yn effeithio ar yr arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael gan San Steffan. Mae meysydd eraill sydd hefyd yn peri ansicrwydd; ni allwn ragweld canlyniadau adolygiad Diamond o ffioedd ac arian yng Nghymru eto. Mae hwn bellach wedi’i uno ag adolygiad o drefniadau rheoleiddio o dan arweiniad yr Athro Ellen Hazelkorn. Nid yw canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch trefniadau sicrhau ansawdd, o dan arweiniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, wedi eu cyhoeddi eto. Mae’n anodd dweud pa effaith, os o gwbl, y bydd ethol Jeremy Corbyn yn ei chael ar etholiadau’r Cynulliad fis Mai nesaf. Fodd bynnag, mae arolwg barn gan ein Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi awgrymu y bydd hwb yn y gefnogaeth ar gyfer y Blaid Lafur yng Nghymru yn ôl pob golwg. Mae llawer o ffactorau amrywiol yma, a’r oll sy’n bendant yw y bydd newid mawr yn y sector dros y flwyddyn nesaf yn ôl pob tebyg – er y bydd yn effeithio ar Loegr yn fwy nag ar Gymru – ac nid yw’r rhagolygon o ran arian gan y llywodraeth yn gadarnhaol.

Fodd bynnag, rwy’n falch o ddweud ein bod ni yma yng Nghaerdydd yn denu sylw cadarnhaol. Yn gynharach y mis hwn, cawsom ein dewis i groesawu Dirprwy Brif Weinidog Tsieina, Liu Yandong, a roddodd gyfle i ni lofnodi tri chytundeb academaidd, gyda Mrs Liu a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dyst. Roedd yr ymweliad yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle gwych i wella ein proffil rhyngwladol a’n statws yng Nghymru. Yr wythnos ddiwethaf, daeth y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson, i’r Brifysgol. Ymwelodd â Sefydliad Catalysis Caerdydd, Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) a Labordy Mellt Morgan-Botti, lle cafodd gyfle i bwyso botwm i greu mellten 200,000 amp mewn arddangosiad o waith ymchwil y labordy. Cefais gyfle i drafod nifer o faterion pwysig gyda Mr Johnson, ac roeddwn yn hynod falch o allu pwysleisio nad yw cynghorau ymchwil a nifer o faterion ymchwil eraill yn feysydd datganoledig, er bod Addysg wedi’i ddatganoli. Mae’r polisïau a wneir gan BIS ar faterion fel y cynghorau ymchwil yn effeithio’n uniongyrchol arnom ni hefyd. Mae materion fel benthyciadau ôl-raddedig, TEF a’r system ariannu ddeuol ar gyfer ymchwil, yn cael effaith anuniongyrchol ar Gymru, felly mae’n bwysig dal ati i gyfathrebu â San Steffan.  Wedi dweud hynny, rydym yn ddiolchgar am agwedd gefnogol Llywodraeth Cymru at ymchwil, drwy gynlluniau fel Sêr Cymru, a thrwy gefnogaeth ar gyfer CUBRIC a’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (y fenter ar y cyd ag IQE y soniais amdani y tro diwethaf). Ddiwedd y mis, lansiwyd Sefydliadau Ymchwil newydd y Brifysgol gennym yn Adeilad y Pierhead, gyda chefnogaeth Mrs Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mrs Hart oedd yn noddi’r digwyddiad, i gydnabod y cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a’r Brifysgol wrth hyrwyddo rhagoriaeth wyddonol. Mae’r holl ddigwyddiadau hyn yn hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn gwybod am ac yn gwerthfawrogi ein canlyniad REF rhagorol, yn ogystal â’n proffil ymchwil yn fwy cyffredinol.

Er gwaethaf yr ansicrwydd y tynnais sylw ato yn gynharach yn y neges hon, rwy’n gobeithio y bydd y flwyddyn academaidd hon yn un gyffrous a llwyddiannus i’r Brifysgol. Disgwyliaf fwy o ymweliadau proffil uchel, ond byddwn yn canolbwyntio’n benodol eleni ar adolygu ac adnewyddu ein strategaeth. Byddaf yn sôn mwy am y broses honno yn fy ebost nesaf.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor