Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Tachwedd 2015

Annwyl gydweithiwr

Bu Tachwedd 2015 yn fis cofiadwy i addysg uwch yn y DU; yn enwedig ac yn uniongyrchol yn Lloegr, ond yn sicr hefyd i’r cenhedloedd eraill gan gynnwys Cymru. Gwelwyd cyhoeddi’r Papur Gwyrdd hirddisgwyliedig â’r teitl ‘Cyflawni ein Potensial: Rhagoriaeth Addysgu, Symudedd Cymdeithasol a Dewis Myfyrwyr’. Ar 19 Tachwedd cyhoeddwyd Adolygiad Nurse o’r cynghorau ymchwil, ac ar y 25ain, clywsom o’r diwedd beth yw bwriadau Canghellor y Trysorlys, George Osborne, o ran blaenoriaethau gwariant ac incwm y llywodraeth dros y bum mlynedd nesaf. Rwyf am grynhoi’r hyn y gallai pob un o’r cyhoeddiadau hyn ei olygu i Brifysgol Caerdydd ac i addysg uwch yn fwy cyffredinol.

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, mae’r Papur Gwyrdd yn cwmpasu mwy na’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) arfaethedig yn unig, er mai dyma asgwrn cefn y ddogfen, sef ymgais lew i gymhwyso egwyddorion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) i addysgu a dysgu. Mae’n bwysig nodi y bydd y TEF yn berthnasol i Loegr yn unig. Fodd bynnag, o ystyried bod 10,000 o’r 26,000 o fyfyrwyr a ddechreuodd astudio yng Nghymru y llynedd yn hanu o Loegr, byddai’n ffôl i ni ddychmygu y gallem ni ei anwybyddu. Mae o ddeutu 65% o’n corff o fyfyrwyr cartref israddedig yn dod o Loegr, felly os byddwn yn cael ein hunain mewn sefyllfa lle nad oes modd cymharu ansawdd ein dysgu ac addysgu’n rhwydd â chystadleuwyr allweddol ar draws y ffin, gallai fod yn niweidiol iawn. Yn yr un modd, mae’n bosib y gallai unrhyw rai o’r 8,000 o fyfyrwyr o Gymru a ddechreuodd astudio yn Lloegr y llynedd ddymuno cymharu, dyweder, Caerdydd a Bryste ar sail elfennau tebyg. Fel y gwyddoch efallai, caiff llwyddiant yn y TEF ei gysylltu â’r gallu i godi ffioedd ym mhrifysgolion Lloegr. Rwyf i mor sicr ag y gallaf fod na chaiff system o’r fath, sy’n clymu codiadau ffioedd i lwyddiant TEF (a chymryd y byddwn ni’n cymryd rhan), ei chyflwyno yng Nghymru. Dyna un gwahaniaeth mawr: i ni, mae’n debygol mai’r cymhelliad i gyfranogi yn y TEF fydd ystyriaethau enw da yn hytrach na rhai ariannol uniongyrchol.

Mae ffurf derfynol y TEF ei hun yn dal i fod yn destun trafod helaeth gyda llawer o fanylion a phrosesau i benderfynu arnyn nhw o hyd. Yn amlwg, byddai’n fuddiol i ni allu dangos nid yn unig bod gennym ni’r holl drefniadau iawn ar waith a’n bod yn eu defnyddio’n gyson, a bod ein safonau’n uchel (fel mae Adolygiad Sefydliadol yr ASA a’r system Arholwr Allanol yn eu tro yn sicrhau ar hyn o bryd), ond hefyd bod ein haddysgu’n rhagorol. Fodd bynnag, mae mwy nag un broblem eto i’w datrys. Er enghraifft, bydd y TEF yn dibynnu’n rhannol ar fasged o fetrigau gan gynnwys cyfraddau cadw, ymatebion NSS a metrigau cyflogadwyedd (er enghraifft y gyfran o raddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach 14 mis ar ôl graddio). Bydd angen i’r TEF ystyried y posibilrwydd o gymhelliannau gwrthnysig; mae’n bosibl na fydd myfyrwyr yn awyddus i roi ymatebion cadarnhaol i’r NSS mewn prifysgolion yn Lloegr os byddan nhw’n credu y gallai hyn arwain at ffioedd uwch, er enghraifft.  Mae cyfraddau cadw mewn prifysgolion hynafol poblogaidd yn debygol o fod yn uwch nag ydyn nhw mewn sefydliadau sy’n canolbwyntio’n benodol ar fyfyrwyr ehangu mynediad, beth bynnag yw ansawdd yr addysgu. Gallai llwyddiant o ran cyflogaeth ddibynnu ar ffactorau ar wahân i ragoriaeth addysgu hefyd, fel cefndir a chyrhaeddiad addysgol blaenorol. Bydd angen ystyried y rhain a ffactorau eraill, ac efallai y bydd angen normaleiddio ar eu cyfer, os bydd metrigau’n cael eu defnyddio i asesu rhagoriaeth addysgu a dysgu. Mae rhai o’r materion hyn yn hanfodol bwysig os yw un o nodau eraill y Papur Gwyrdd am gael ei gyflawni, sef gwell symudedd cymdeithasol drwy fynediad prifysgol i grwpiau cymdeithasol sydd wedi’u tangynrychioli.

Nid metrigau yw’r unig ffordd y caiff ansawdd addysgu ei fesur dan y TEF. Cynigir sefydlu paneli annibynnol o arbenigwyr academaidd mewn addysgu a dysgu, cynrychiolwyr myfyrwyr a chyflogwyr/gweithwyr proffesiynol, a fydd yn dod i ddyfarniad ansoddol. Ymddengys mai’r nod yw efelychu proses y REF. Nid yw’r meini prawf a ddefnyddir i bennu rhagoriaeth na’r diffiniad o ragoriaeth addysgu wedi’u pennu eto. Mae i’w weld yn fath o adolygiad gan gymheiriaid ac adolygiad allanol, yn annibynnol o’r llywodraeth, ond mae’r union ffordd y byddai adolygiad o’r fath yn gweithredu’n dal heb ei bennu. Ar y pwynt hwnnw, mae’r TEF yn sylweddol wahanol i’r REF o ran bod adolygiad gan gymheiriaid yn ddull cyfarwydd iawn o weithredu gydag ymchwil, ond mae’n llawer mwy amwys gydag addysgu, os mai’r nod yw dod i gasgliadau am ragoriaeth y gweithgaredd.

Mae’r Papur Gwyrdd hefyd yn darparu ar gyfer cael gwared â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) gyda Swyddfa i Fyfyrwyr yn dod yn ei le fydd yn goruchwylio ehangu cyfranogi mewn prifysgolion yn Lloegr (gan ymgorffori’r Swyddfa Mynediad Teg gyfredol) yn ogystal â sicrhau ansawdd (y dybiaeth yw y bydd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn dod yn rhan o’r Swyddfa i Fyfyrwyr). Ni fydd yr un o’r datblygiadau hyn o reidrwydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru, ond bydd y trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd fel rydym ni’n ei ddeall ar hyn o bryd yn hanfodol bwysig. Mae’n allweddol ein bod ni yng Nghymru’n parhau’n rhan o system ar draws y DU, o ystyried y lefel o lif traws-ffiniol fel yr amlinellwyd uchod.

Dogfen ymgynghori yw Papur Gwyrdd, a’i fwriad yw ennyn trafodaeth ac ymateb cyhoeddus. Mae hawl gan unrhyw un i ymateb, a byddwn ni fel Prifysgol yn sicr yn gwneud hynny erbyn y dyddiad cau ar 15 Ionawr. Os hoffech ddarllen y Papur Gwyrdd eich hun (sydd bob amser yn well na dibynnu ar adroddiadau ail law) ac yn teimlo bod pwynt penodol y dylem ni fod yn ei gynnwys yn ein hymateb, rhowch wybod i fi.

Gellir crynhoi argymhellion pwysicaf adolygiad Syr Paul Nurse o gynghorau ymchwil y DU, ‘Ensuring a successful UK research endeavour’, fel a ganlyn. Bydd y saith cyngor ymchwil presennol, ynghyd ag Innovate UK, yn cadw eu hunaniaethau cyfredol ond yn cael eu casglu dan un corff ymbarél o’r enw Research UK. Byddai Prif Weithredwr yn ei arwain a fyddai hefyd yn Swyddog Cyfrifo i’r holl gyrff oddi mewn iddo, gan adrodd i Fwrdd goruchwylio a benodwyd gan Weinidogion, ac yn atebol i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Y nod yw caniatáu penderfyniadau am gyfeiriadau ymchwil gan wyddonwyr ar lawr gwlad a gwell cydlynu strategol (o ymchwil cymwysedig a thrawsfudol yn benodol), rhannu adnoddau a sefydlu systemau swyddfa gefn mwy effeithlon. Yn Lloegr, bydd dosbarthu cyllid ymchwil ar sail ansawdd (QR), a wneir ar hyn o bryd gan HEFCE (sydd i’w ddiddymu dan gynigion y Papur Gwyrdd) yn dod yn gyfrifoldeb Research UK. Rhoddir sicrwydd pwerus y bydd y system gyllido ddeuol sy’n cadw cyllid cynghorau ymchwil a chyllid QR yn seiliedig ar REF ar wahân, gan eu dosbarthu drwy drefniadau a chyrff gwahanol, yn cael ei chadw, er y byddan nhw, yn Lloegr o leiaf, yn cael eu dosbarthu gan yr un corff dan gynigion Nurse. Yn yr un modd, bwriedir y bydd cyllid Innovate UK yn cael ei glustnodi o fewn y corff newydd. Mae’r graddau y bydd hyn yn gwrthsefyll newidiadau gwleidyddol ac anghenraid ariannol yn dal yn ansicr. Cynhelir adolygiad o’r REF; nid yw’r modd y caiff cyllid QR ei ddosbarthu yn Lloegr yn effeithio arnon ni yng Nghymru. Dylem ni anelu at sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r REF yn cadw ei fanteision gan leihau biwrocratiaeth cymaint â phosibl, a sicrhau bod cyllid QR yng Nghymru yn parhau (a) i gael ei warchod a (b) ei ddosbarthu gan gorff sydd hyd braich o’r llywodraeth.

Mae Datganiad yr Hydref a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant (a chanlyniad ymgynghoriad BIS ar gyllid ôl-raddedig sydd hefyd wedi’i gyhoeddi) yn cynnwys gormod o lawer o fesurau sy’n effeithio ar addysg uwch ac ymchwil i mi eu crynhoi yma. Heb os byddaf yn dychwelyd at amrywiol fesurau dros y misoedd nesaf ond ymhlith yr uchafbwyntiau mae bwriad y llywodraeth i wneud benthyciadau ôl-raddedig i fyfyrwyr sy’n hanu o Loegr ar gael i bawb dan 60 yn hytrach na dan 30, ac yn gymwys yn unrhyw le yn y DU yn hytrach nag yn Lloegr yn unig, sy’n symudiad pwysig iawn i ni. Am y tro cyntaf mae’r llywodraeth wedi dweud yr hoffai weld cynnydd penodol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn y DU (55,000). Canlyniad hyn yw ei bod yn annirnadwy y gellir lleihau mewnfudo net i ddegau o filoedd tra bo myfyrwyr yn parhau o fewn y targed mewnfudo net. Mae gennym ymrwymiad hefyd y bydd lefelau iaith Saesneg yn aros fel y maen nhw. Mae hyn yn newyddion rhagorol yn nhermau recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Caiff y gyllideb ymchwil o £4.7bn ei diogelu mewn termau real, sy’n welliant mawr ar y setliad arian parod yn 2010, a bydd cymorth ar gyfer amrywiol fentrau penodol mewn iechyd a meysydd eraill fel awyrofod a moduro. Bydd cyllid ar gyfer mentrau rhanbarthol fel Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, ac mae arloesi’n cael sylw mawr. Bydd Adolygiad Nurse, fel yr amlinellir uchod, yn cael ei roi ar waith yn llawn.

Ar y cyfan, mae’n ymddangos bod y newidiadau a amlinellir gan y Canghellor yn rhai cadarnhaol o ran ymchwil, ond mae llawer iawn o fanylion i’w datrys o hyd. Mae llawer o waith i’w wneud yng Nghymru i integreiddio’r newidiadau a ystyriwyd gan adolygiadau Diamond a Hazelkorn gyda’r diwygiadau a amlinellir yn y Papur Gwyrdd, a bydd angen i ni fod mor ddylanwadol ag y gallwn yn nhermau datblygiadau yn Lloegr i sicrhau na fydd canlyniadau anfwriadol i brifysgolion Cymru. Mae’n galonogol gweld bod y mentrau rydym ni wedi pwyso amdanyn nhw, yn enwedig cludadwyedd benthyciadau ôl-raddedig ar draws y DU, wedi’u mabwysiadu. Bydd angen i ni barhau i weithio mor galed ag y gallwn i sicrhau nad yw Caerdydd ar ei cholled, ond yn hytrach y bydd yn elwa cymaint â phosibl yn sgil y diwygiadau arfaethedig.

Byddaf yn rhannu’r newyddion diweddaraf mewn negeseuon ebost yn y dyfodol wrth i’r manylion ddod yn gliriach.

Cofion gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor